Alert Section

Trwydded sw


Crynodeb o’r drwydded 

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i gynnal sŵ yng Nghymru.

Gall fod yn ofynnol talu ffi am y drwydded, a gall gynnwys amodau i sicrhau cynnal sw yn briodol. 

Meini prawf cymhwysedd 

O leiaf ddeufis cyn cyflwyno cais am drwydded mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (yn cynnwys trwy ddulliau electronig) i’r awdurdod lleol ei fod yn bwriadi gwneud cais.  Rhaid i’r hysbysiad nodi’r manylion isod: 

Lleoliad y sw  

  • Y mathau o anifeiliaid ac amcangyfrif o nifer bob math i’w harddangos ar y safle, a’r trefniadau ar gyfer lletya, lles a chynnal yr anifeiliaid
  • Amcangyfrif o nifer a chategorïau’r staff i’w cyflogi yn y sw
  • Amcangyfrif o nifer y ceir ac ymwelwyr y bydd lle ar eu cyfer 
  • Amcangyfrif o nifer a lleoliad mynedfeydd i’r safle 
  • Sut y bydd y mesurau cadwraeth sy’n ofynnol yn cael eu gweithredu yn y sw

Hefyd, o leiaf ddeufis cyn cyflwyno’r cais, rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddiad hysbysiad o’i fwriad mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o’r hysbysiad hwnnw.  Rhaid i’r hysbysiad nodi lleoliad y sw a datgan bod yr hysbysiad cais i’r awdurdod lleol ar gael i unrhyw edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.  

Crynodeb o’r Rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Trwyddedu Sŵau 1981)

Proses Gwerthuso Cais 

Wrth ystyried cais bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan, neu ar ran: 

  • Yr ymgeisydd  
  • Prif Swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasol 
  • Yr awdurdod priodol – un ai’r awdurdod gorfodi neu’r awdurdod perthnasol lle bydd y sw arfaethedig wedi’i lleoli 
  • Corff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithredu sŵau 
  • Lle bo rhan o’r sw ddim yn ardal yr awdurdod lleol â’r pŵer i roi’r drwydded, yr awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal berthnasol (ac eithrio awdurdod cynllunio sirol) neu, os yw’r rhan wedi’i lleoli yng Nghymru, yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y sŵ arfaethedig 
  • Unrhyw unigolyn sy’n honni y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd a diogelwch pobl sy’n byw yn y gymdogaeth 
  • Unrhyw un sy’n datgan y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd a diogelwch unrhyw un sy’n byw wrth ymyl y sw 
  • Unrhyw unigolyn arall y gallai ei sylwadau ddangos sail y mae gan yr awdurdod bŵer neu ddyletswydd i wrthod rhoi trwydded 
Cyn rhoi neu wrthod rhoi trwydded, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw adroddiadau arolygwyr yn dilyn archwilio’r sw, ymgynghori â’r ymgeisydd ynghylch yr amodau maen nhw’n eu cynnig y dylid bod ar y drwydded a gwneud trefniadau i gynnal archwiliad.  Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd o’r archwiliad. 

Ni wnaiff yr awdurdod lleol roi’r drwydded os yw’n teimlo y byddai’r sw yn cael effaith andwyol ar iechyd a diogelwch pobl sy’n byw wrth ei ymyl, neu’n cael effaith ddifrifol ar gadw cyfraith a threfn neu os nad yw wedi’i fodloni y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n foddhaol. 

Gellir gwrthod cais hefyd os:

  • Nad ydy’r awdurdod lleol yn fodlon bod y llety, lefelau staffio neu’r safonau rheoli yn addas ar gyfer gofal a lles priodol yr anifeiliaid neu ar gyfer cynnal y sw yn briodol  
  • Ydy’r ymgeisydd, neu os ydy’r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, os ydy’r cwmni neu unrhyw un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddog arall o’r cwmni wedi eu cael yn euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid 

Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael eu hystyried heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn diwedd y drwydded gyfredol, onibai bod yr awdurdod lleol yn caniatáu cyfnod amser byrrach. 

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd i osod amod neu amodau ar y drwydded, yn dilyn ymgynghori â’r awdurdod lleol. 

Gall yr awdurdod lleol hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fechan yr anifeiliaid a gedwir yn y sw neu nifer fechan y mathau o anifeiliaid a gedwir yno, y dylid gwneud cyfarwyddyd nad oes angen trwydded. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Na fydd.  Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.  Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol.  Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (ffenestr newydd) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod. 

Ffioedd a thalu

Mae’r ffi(oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn: £183.04*

Rhaid i arolygwr arbenigol a awdurdodir gan Lywodraeth Cymru archwilio’r safle. Y person sy’n gwneud y cais sy’n talu’r ffi ac ni ellir dweud faint y bydd angen ei dalu tan ar ôl yr archwiliad.

Gwneud cais ar-lein 

Hysbysiad i gynnal sw (ffenestr newydd) (Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn)

Cais am drwydded cynnal sw (ffenestr newydd)

Cais i newid trwydded sw (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Os gwrthodir trwydded i’r ymgeisydd gall gyflwyno apêl i lys ynadon cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad derbyn hysbysiad ysgrifenedig am wrthod o cais. 

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall deilydd trwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon yn erbyn:

  • Unrhyw amod ar y drwydded neu amrywio neu ddiddymu amod gwrthod cymeradwyo trosglwyddo trwydded
  • Cyfarwyddyd cau sw
  • Camau gorfodi yng nghyswllt unrhyw amod nas bodlonwyd 

Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad mae deilydd y drwydded yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod ynghylch y mater perthnasol. 

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Dylai unrhyw unigolyn sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i gau sw gyflwyno cais i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o’r hysbysiad am benderfyniad yr awdurdod lleol. 

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk 

Mewn partneriaeth â EUGO