Alert Section

Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau


Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref

Sefydlwyd y Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref yn Nhachwedd 2023 i gefnogi ffyniant canol trefi trwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â mwy o bobl i ganol y dref. Rydym yn cydnabod bod busnesau canol trefi wedi, ac yn parhau i wynebu amser heriol yn economaidd felly bydd hybu gweithgarwch yng nghanol y dref yn fanteisiol i’r busnesau gyda mwy o ymwelwyr.

Mae’r prosiect hwn ynghyd ag 8 prosiect arall yn ffurfio pecyn o ymyraethau a elwir yn ‘Rhaglen Fuddsoddi Canol y Dref - Sir y Fflint’. Mae’r rhaglen hon wedi ei thargedu at 7 canol tref ledled Sir y Fflint (Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton), sydd wedi bod yn bosib trwy gyllid a gafwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Nod allweddol y rhaglen oedd cefnogi bywiogrwydd ac arallgyfeirio canol trefi ledled y sir a chyfrannu at wella’r hyn a gynigir gan y canol trefi a chynyddu nifer yr ymwelwyr.

O ganlyniad uniongyrchol yr arian grant hwn, bu 115 o weithgareddau neu ddigwyddiadau yn y canol trefi gyda 9756 o bobl yn bresennol. Mae 396 o bobl wedi gwirfoddoli yn y digwyddiadau neu’r gweithgareddau hyn ac mae o leiaf 245 o sefydliadau wedi elwa’n uniongyrchol o’r gweithgaredd/digwyddiad arfaethedig.

Fel rhan o’r gweithgareddau neu ddigwyddiadau mae 178 o bobl wedi elwa o uwchsgilio a hyfforddiant a chofnodwyd bod 423 o bobl wedi bod yn rhan o wneud penderfyniadau am eu canol tref.

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cael arian i barhau gyda’r prosiect hwn o Ebrill 2025, a gwahoddir sefydliadau i wneud cais am arian.

Ariannwyd gan Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau 2023-2025

Ariannwyd gan Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau 2023-2025
YmgeisyddDigwyddiad/Gweithgaredd
Outside Lives Ltd 1. Y Nadolig heb gostio’r ddaear
2. Cartref braf heb gostio’r ddaear
3. Byw’n iach heb gostio’r ddaear
4. Diwrnod i’r teulu heb gostio’r ddaear
Menter Iaith Gwyddgig 2024
Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy Gweithgareddau Cymunedol yn Tŷ Calon
Gŵyl Aled Gŵyl Cerdd Dant yr Wyddgrug 2024
Cyngor Tref Treffynnon Gŵyl Fwyd Treffynnon
  Gŵyl Cadi Ha
Cyngor Tref Treffynnon Gwelliannau i Ŵyl y Well Inn
Cyngor Tref Treffynnon Prosiect y Porth
Refurbs y Fflint Fflach-ddigwyddiadau
Aura Ffitrwydd, Bwyd a Darllen
Gŵyl Fwyd yr Wyddgrug Gwelliannau i Ŵyl Dydd Sul
Refurbs y Fflint Gorymdaith Llusernau Bwcle
Cyngor Tref Bwcle Bonansa Cerddorol Bwcle
Interservice Gwelliannau i’r Digwyddiad Cofio
Dreigiau Glannau Dyfrdwy Jamborî
Eglwys Rivertown Digwyddiad Agored
Grŵp Ystyriol o Oed a Dementia Treffynnon Te Prynhawn ar Thema’r 60au
Emerald Pawtraits Fflach-stondin Portreadau Anifeiliaid Anwes
Cambrian Aquatics Sesiynau Gweithgareddau i Rieni a’u Plant
Community Corner Digwyddiad Ymgysylltu â’r Farchnad
Outside Lives Drama’r Geni
Outside Lives Sioe Deithiol Hapusrwydd
Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy Cinio Nadolig Cymunedol

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref?

Mae’r Grant hwn yn gynllun sy’n anelu i annog gweithgaredd a digwyddiadau yng Nghanol y Dref a chynyddu nifer yr ymwelwyr a ffyniant yn y dref. Mae’r grant ar gael i grwpiau cymunedol, canol tref, sefydliadau, busnesau ac unigolion. Mae’n rhaid i’r digwyddiadau neu weithgareddau gael eu cwblhau erbyn 15 Ionawr 2026 fan bellaf.  Mae yna swm cyfyngedig o gyllid felly rydym yn eich annog i ymgeisio’n fuan gan ein bod yn rhagweld y bydd yna lawer iawn o ddiddordeb yn y grant hwn a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin (yn amodol ar ganlyniadau’r panel).

Prif bwrpas yr arian yw ceisio gwneud gwir wahaniaeth i ymddangosiad canol ein trefi trwy eu gwneud yn lleoedd mwy deniadol i’r cyhoedd ymweld a gweithio; ac annog pobl i dreulio eu hamser a gwario eu harian yno.  Felly bydd y Cyngor yn cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau o fewn y brif ganolfan fasnachol (yn gyffredinol y stryd fawr - neu debyg - a lleoliadau cyfagos).

Pa fath o ddigwyddiadau/gweithgareddau sy’n gymwys?

Gallai’r gweithgaredd a digwyddiadau arfaethedig fod yn greadigol ac amrywio o ddigwyddiadau mawr i weithgareddau bach. Rhai syniadau ar gyfer digwyddiadau/gweithgareddau:

  • Grŵp Garddio Canol y Dref 
  • Parti Stryd (i ddathlu treftadaeth leol er enghraifft) 
  • Digwyddiadau Hyfforddiant Cymunedol (Cymorth Cyntaf er enghraifft) 
  • Ras hwyl / Marathon
  • Diwrnod Thema
  • Clwb Te (Clwb te wythnosol/misol)
  • Gwyliau Cerddorol
  • Gŵyl cynnyrch lleol 
  • Helfeydd Trysor
  • Gŵyl Fwyd
  • Mawrthnadoedd gwych misol/rhanbarthol
  • Digwyddiad arddangos busnes 
  • Cynllun llysgennad busnes 
  • Digwyddiadau twristiaid yn eich tref 
  • Gŵyl Celfyddydau Cymunedol

Ydy fy nigwyddiad angen bod yn ddigwyddiad newydd?

Dylai pob cais fod ar gyfer digwyddiadau newydd, fodd bynnag, gallwch ymgeisio am arian grant ar gyfer ymestyn digwyddiadau/gweithgareddau presennol a drefnwyd. Er enghraifft, gallai digwyddiadau blynyddol fyddai’n dymuno ymestyn eu digwyddiad dderbyn arian grant ond byddai hyn ar gyfer estyniadau yn unig ac nid ar gyfer y digwyddiad ei hun oedd yn bodoli’n flaenorol.  

Sut ydw i’n gwneud cais?

Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Tîm Adfywio ar e-bost ar regeneration@flintshire.gov.uk i drafod eich cais. Bydd y Tîm Adfywio yn sicrhau eich bod yn hollol wybodus ac yn cael eich cefnogi trwy gydol y broses.  Mae’r Tîm Adfywio yn gallu darparu ffurflen gais a chanllawiau ar gyfer y digwyddiad - mae’r rhain hefyd ar gael ar wefan y Cyngor yma.

Beth ddylwn ei gynnwys gyda’r ffurflen gais i gefnogi fy nghais?

Dylid llenwi’r ffurflen gais am grant yn unol â’r canllawiau a luniwyd i gynorthwyo ymgeiswyr a dylai gynnwys manylion a chostau llawn ar gyfer y digwyddiad/gweithgaredd. Efallai y bydd angen i ymgeiswyr ddarparu rhai, neu bob un o’r canlynol yn dibynnu ar y prosiect:

  • Cydsyniad a thrwyddedau statudol perthnasol (fel gorchmynion rheoleiddio traffig) ble bo’n briodol.  
  • Dogfen Yswiriant 
  • Mae angen gwybodaeth ariannol at ddibenion diwydrwydd dyladwy er mwyn bod yn hyderus fod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n briodol 
  • Gwybodaeth am gynllunio busnes i gefnogi’r fenter arfaethedig 
  • Dyfyniadau gan gyflenwyr ar gyfer y digwyddiad/gweithgaredd 

A oes unrhyw amodau penodol yn ymwneud â’r grant hwn?

Oes, byddwch angen y caniatâd perthnasol wedi’i gymeradwyo neu’n amodol cyn y gellir datblygu unrhyw geisiadau fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a gorchmynion rheoleiddio traffig.  

Bydd pob ymgeisydd angen darparu tystiolaeth o wariant ynghyd â thystiolaeth o beth a gyflawnwyd o ganlyniad i’r arian grant a ddyfarnwyd (e.e. tystiolaeth o allbwn a deilliannau a gyflawnwyd yn unol â manylion a amlinellwyd yn nogfen ganllaw Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol y Dref).

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd holl geisiadau a dderbyniwyd yn cael eu cyflwyno i Banel Adfywio Sir y Fflint ar gyfer ystyriaeth a gwneud penderfyniad. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’w hystyried yn ystod un o gyfarfodydd misol y panel wedi’i nodi isod.  Yn ogystal, mae dyddiadau’r panel a dyddiad y caiff yr ymgeisydd wybod a yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. 

Dyddiadau pwysig
Dyddiad cau misol i gyflwyno ceisiadau (i’w derbyn cyn 5pm).Cyfarfod y Panel – i ystyried ceisiadau ar:Ymgeisydd yn cael gwybod beth yw’r penderfyniad erbyn:
3 Ebrill 2025 8 Ebrill 2025 11 Ebrill 2025
28 Ebrill 2025 7 Mai 2025 9 Mai 2025
26 Mai 2025 4 Mehefin 2025 6 Mehefin 2025
23 Mehefin 2025 2 Gorffennaf 2025 4 Gorffennaf 2025
28 Gorffennaf 2025 6 Awst 2025 8 Awst 2025
25 Awst 2025 3 Medi 2025 5 Medi 2025
29 Medi 2025 8 Hydref 2025 10 Hydref 2025
27 Hydref 2025 5 Tachwedd 2025 7 Tachwedd 2025
24 Tachwedd 2025 3 Rhagfyr 2025 5 Rhagfyr 2025

Sylwch ni fydd y panel yn cynnal holl gyfarfodydd os yw’r holl gyllid wedi’i ddyrannu’n llawn i brosiectau yn gynt na dyddiadau’r cyfarfodydd. Hyn a hyn o gyllid sydd ar gael ac mae’n debyg y bydd galw mawr am y grant, felly anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau yn fuan.

Caiff y ceisiadau eu hasesu ar sail y budd i’r ardal leol, yn cynnwys yr amgylchedd, ond gall lefel y grant (yn amodol ar reolau cymorth gwladwriaethol) fod yn gyfyngedig yn dibynnu ar faint a natur y prosiect arfaethedig, y bwlch hyfywedd neu gyfraniad ariannol y cwmni.

Byddai arian grant yn cael ei ddyrannu ar gyfer isafswm o £500 hyd at fwyafswm o £10,000, sy’n fwyafswm o 80% o gyfanswm cost y prosiect gyda’r gweddill i gael ei ariannu gan y sefydliad/grŵp/unigol sy’n ymgeisio.

Bydd y ceisiadau ar gyfer cyllid TCAEG yn cael ei asesu’n llawn a bydd aelod o’r Tîm Adfywio yn cyflwyno argymhellion. Gall pob awdurdod lleol benderfynu ar y gyfradd ymyrryd yn seiliedig ar amodau’r farchnad leol, a darparu hyd at 80% o gymorth grant.

Penderfyniadau:

  • Cymeradwyo
  • Cymeradwyo gydag amodau
  • Gwrthod – bydd cyfiawnhad llawn yn cael ei roi i unrhyw ymgeisydd y mae ei gais wedi’i wrthod.

Pryd fyddwn angen cynnal y digwyddiad neu weithgaredd?

Fel rhan o’r telerau ac amodau’r grant, mae’n rhaid i’r digwyddiad gael ei gynnal dim hwyrach na 15 Ionawr 2026.

A fydd angen i mi roi diweddariadau mewn perthynas â’r digwyddiad/gweithgaredd?

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro’r gwaith a sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal.  Byddwch angen darparu’r dystiolaeth bod y digwyddiad wedi ei gynnal i’r tîm adfywio. Er enghraifft, gwerthu tocynnau, lluniau digwyddiad ac ati.  Mae’n rhaid darparu’r dystiolaeth hon gynted â phosibl yn dilyn y digwyddiad.

Sut ydw i’n hawlio’r arian grant?

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn teilwra’r modd o dalu’r arian mewn camau i’r ymgeisydd.  Unwaith y bydd y digwyddiad wedi’i gynnal, gall anfonebau terfynol gael eu cyflwyno ar gyfer hawlio’r grant. Bydd y Tîm Adfywio yn gweithio gyda chi i drefnu taliad mewn modd amserol.

A fyddaf yn gallu darparu fy nigwyddiad/gweithgaredd cyn i’r panel asesu grantiau ystyried fy nghais am grant?

Sylwer y bydd angen cymeradwyo’r arian cyn y gellir cynnal y digwyddiad/gweithgaredd. Ni fydd yn bosibl ariannu costau sy’n deillio cyn dyddiad y cais am grant i gael ei asesu gan Banel Adfywio’r Cyngor.

Os bydd fy nghais yn llwyddiannus ac yna na fydd y digwyddiad yn gallu cael ei gynnal, beth fydd yn digwydd?

Bydd holl arian grant yn cael ei hawlio ymlaen llaw felly os na fydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal ac nad yw Cyngor Sir y Fflint wedi talu unrhyw beth allan cyn y digwyddiad fel blaendaliadau, Mawrthnata ac ati, yna byddech yn gyfrifol am ad-dalu holl gostau.