Alert Section

Ymgysylltu â Busnesau


Mae'r Tîm Adfywio yn Sir y Fflint yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ac annog twf a datblygiad busnesau; o gwmnïau annibynnol ar raddfa fach i gwmnïau rhyngwladol mawr. Beth bynnag fo'ch busnes, ar ba bynnag gam, rydym yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth. Mae gennym dudalen sy’n benodol ar gyfer y mathau o gymorth y gallwn ni a phartneriaid cysylltiedig ei gynnig i fusnesau Sir y Fflint

I gael gwybod mwy am yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud ar gyfer economi Sir y Fflint, cliciwch yma. I weld Cynllun y Cyngor 2023-28.


Rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Rhagfyr 2024, cynhaliodd tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint ac Achub y Stryd Fawr, Raglen Cefnogi Canol Trefi Sir y Fflint, a fu’n llwyddiant ysgubol. Mae Achub y Stryd Fawr wedi darparu’r rhaglen i 3 cohort llawn, gyda dros 50 o fusnesau yn elwa ohoni. Mae’r rhaglen wedi cefnogi busnesau i ddatblygu gwefannau newydd, creu ffyrdd newydd o gynyddu ymwelwyr a hyd yn oed ehangu i farchnadoedd newydd.

Fe lansiwyd SaveTheHighStreet.org ym mis Awst 2016 gan ryddhau Maniffesto a oedd yn amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer y stryd fawr a sut y gellir cyflawni hynny ar y cyd.

Heddiw, caiff SaveTheHighStreet.org ei arwain gan dîm ymroddedig ac angerddol, Bwrdd Cynghori yn cynnwys dros 200 o fusnesau stryd fawr ac arbenigwyr diwydiant, cymuned sy’n tyfu’n gyflym o Gefnogwyr Lleol a dwsinau o bartneriaid eraill ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gyda’i gilydd, maent wedi cefnogi dros 25,000 o fusnesau lleol yn y DU.

Yn ogystal â'r rhaglen gefnogi ddwys, cynhaliwyd gweithdai hyfforddi lle rhoddodd arbenigwyr wybodaeth ac arweiniad i Fusnesau Sir y Fflint. Ymhlith ambell un o’r rhain mae hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol, gweithdai marchnata gweledol a digwyddiadau cyfleoedd rhwydweithio.

Yn dilyn y rhaglen gymorth eang hon, mae Cyngor Sir y Fflint yn dal i gefnogi Busnesau yn y Sir. Dymuna’r tîm Adfywio roi gwybod i Fusnesau am gyllid grant, digwyddiadau a chynnig y cymorth parhaus hwnnw. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk.