Canolfan ymchwil arloesol yn prysuro taith busnesau Sir y Fflint tuag at sero net
Harvey Wong, peiriannydd ymchwil gweithgynhyrchu AMRC Cymru; Joshua Fox, cyfarwyddwr gweithrediadau Crabb Engineering.
O fapio defnydd ynni i gynyddu sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ar draws y gadwyn gyflenwi, mae canolfan AMRC Cymru wedi helpu cwmnïau ym mhob rhan o Sir y Fflint i symud yn nes at sero net.
Gan adeiladu ar waith Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Mace, mae’r ganolfan wedi datblygu technolegau allweddol o fewn y rhaglen FAST (Flintshire Sustainable Decarbonised Future) sy’n darparu gwybodaeth a galluogi busnesau ym mhob sector i brysuro eu taith tuag at sero net.
Gyda Chymru yn awyddus i gyrraedd sero net erbyn 2050, derbyniodd y prosiect £562,133 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) i hyrwyddo’r gwaith. Bu wyth o fusnesau Sir y Fflint yn cymryd rhan yn y prosiect i’w helpu i drawsnewid eu ffyrdd o weithio.
Gan ddefnyddio meddalwedd pwrpasol a grëwyd gan ymgynghoriaeth technoleg ddigidol Razor, creodd AMRC Cymru flwch synhwyro a dangosfwrdd rhyngweithiol cost isel i fesur yn gywir hyd at 200 amp o drydan ar offer amrywiol.
Dros gyfnod o naw mis defnyddiwyd yr offer arloesol i amlygu ardaloedd a phrosesau o fewn yr wyth cwmni lle gellid lleihau’r defnydd o ynni a chynyddu effeithlonrwydd cyffredinol eu prosesau cynhyrchu. Roedd hyn yn cynnwys:
- Helpu cwmni gwasanaethau peiriannu manwl, Crabb Engineering, i ddadansoddi gweithgaredd dwy ganolfan beiriannu. Gwelwyd fod modd lleihau hyd at 50 y cant ar y defnydd o drydan ar adegau pan na fyddai’r peiriannau’n gweithio dros y Sul, a hynny’n arbed tua £1,200 y mis.
- Sefydlu maint defnydd ynni busnes peirianyddol LCA Group yn eu proses llifio gyda laser, ac adnabod ffordd o leihau bron i 20% ar y cyfanswm hwnnw.
- Helpu cwmni fferyllol Sterling Pharma Solutions i fesur gofynion ynni eu hunedau trin a thrafod mawr – gwaith a fydd yn arwain at arbed mwy na £30,000 y flwyddyn.
Meddai cyfarwyddwr gweithrediadau Crabb Engineering, Josh Fox: “Fel busnes sydd ar agor 24/7 mae’n hanfodol osgoi adegau pan nad yw offer yn gweithio fel y dylai. O wybod nad yw peiriant yn gweithredu ar ei orau, gallwn ei drwsio neu ei newid cyn gynted â phosibl.
“Mae gweld yn union faint o drydan a ddefnyddir gan bob peiriant hefyd wedi ein galluogi i ddeall beth allwn ei wneud o fewn ein prosesau busnes i fod yn fwy eco-gyfeillgar yn y dyfodol.
“Bu gwybodaeth ac arbenigedd tîm AMRC o help mawr inni weithio mewn ffyrdd gwell ac ni allaf eu canmol ormod.”
Meddai Rachael Kopanski, rheolydd prosiect AMRC Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Sheffield,: “Gyda’r ffocws ar gyrraedd sero net erbyn 2050, rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan allweddol trwy helpu busnesau Sir y Fflint i baratoi ar gyfer dyfodol gwyrddach.
“Roedd tîm AMRC yn wych am ddeall y gwahanol heriau yr oedd pob cwmni yn eu hwynebu a, diolch i’n cydweithrediad gyda Razor, lluniwyd offer arloesol a fydd o gymorth iddynt oll am gyfnod hir i’r dyfodol.
“Roedd cefnogaeth ariannol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn ac rydym yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chyngor Sir y Fflint.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae trawsnewid ein heconomi fel ei bod yn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy yn hanfodol os yw am barhau yn yr hirdymor ac mae’r prosiect FAST wedi dangos yn glir beth all busnesau’r sir ei gyflawni o gael mynediad at gymorth arbenigol i ddeall a datrys yr heriau.
“Edrychaf ymlaen at weld mwy fyth o newidiadau mewn cwmnïau ym mhob rhan o Sir y Fflint o ganlyniad i waith AMRC Cymru.”