Newyddion Diweddaraf
Mae Llywodraeth y DU newydd gyhoeddi estyniad o flwyddyn i Gronfa Ffyniant Gyffredin gyfredol y DU (UKSPF). Nod yr estyniad i’r Gronfa yw darparu trosglwyddiad llyfn o’r rhaglen sydd eisoes yn bodoli i’r fframwaith ariannu newydd yn y dyfodol.
Ar gyfer y flwyddyn drosglwyddo hon, rhoddwyd y dyfarniad canlynol i Sir y Fflint:
Cyllid Refeniw y Gronfa Ffyniant
£3,176,593
Cyllid Cyfalaf y Gronfa Ffyniant
£1,218,309
Er mwyn gallu gweithredu gweithgarwch prosiectau’n gyflym ac yn effeithiol yn ystod y flwyddyn drosglwyddo, mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd y sefydliadau sydd wedi cyflawni’n llwyddiannus dan y rhaglen gyfredol i gyflwyno cynnig i barhau â’r gweithgareddau am 12 mis arall. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau amser, ni fydd prosiectau a gweithgareddau newydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid y flwyddyn drosglwyddo.
Cewch wybodaeth am y prosiectau amrywiol, beth maent yn ei gynnwys, pwy sy’n cael eu cefnogi a’r manylion cyswllt perthnasol yma.