Alert Section

Gwybodaeth Gefndir

Gwybodaeth gyffredinol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru a safbwynt Sir y Fflint.

Funded by UK Government (Welsh)

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion am y ffordd bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithio.  Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw cronfa newydd Llywodraeth y DU yn lle Cronfa Strwythurol yr UE a bydd yn darparu £2.6 biliwn o fuddsoddiad ar draws y DU tan fis Mawrth 2025.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn dyraniad o £13.1miliwn i’w fuddsoddi dros dair blynedd. Caiff hyn ei dorri lawr i ychydig o dan £11 miliwn o arian craidd a £2.2miliwn ar gyfer y rhaglen ‘Multiply’ cenedlaethol. 

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi amcanion Codi’r Gwastad y DU, sef:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent ar ei hôl hi;
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent ar eu gwanaf;
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, perthyn a balchder lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny maent wedi’u colli; a
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig y rhai sydd â diffyg gweithrediad lleol 

Er mwyn cyflawni hyn mae gan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  1. Cymuned a Lle
  2. Cefnogi Busnesau Lleol
  3. Pobl a Sgiliau

Mae elfen ychwanegol ‘Multiply’ yn ceisio gwella sgiliau rhifedd oedolion.  

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru

Ynghyd ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru, cyflwynodd Gyngor Sir y Fflint Gynllun Buddsoddi i Lywodraeth y DU ar 1 Awst 2022 yn amlinellu cyfleoedd, heriau a’r blaenoriaethau allweddol sy’n berthnasol ar draws Gogledd Cymru.  Bydd y dull rhanbarthol yn rhoi cyfleoedd i rannu dysgu ac arfer orau ac adnabod meysydd i gydweithio lle gellir darparu mwy o fuddion yn fwy effeithiol ar draws ardal ehangach.

Safbwynt Sir y Fflint

Drwy gydol 2022 mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a budd-ddeiliaid allweddol eraill, ac mae pob un ohonynt wedi helpu i ddylanwadu a llywio’r Cynllun Buddsoddi ar lefel leol. Cynhaliwyd nifer o weithdai mewn cysylltiad â phob un o’r blaenoriaethau buddsoddi. Mae’r gweithdai a’r dialog parhaus wedi nodi anghenion lleol ac argymhellion o’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid:

  • Cefnogaeth ar gyfer adfywio canol tref a marchnadoedd stryd
  • Creu a gwella mannau gwyrdd ac isadeiledd gwyrdd
  • Cefnogaeth i weithgareddau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol lleol
  • Buddsoddi mewn cynyddu gallu a chefnogaeth isadeiledd ar gyfer grwpiau cymunedol a chymdeithas sifil lleol
  • Cyfrannu tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw
  • Gwella isadeiledd digidol
  • Gwella cyfleusterau i dwristiaid
  • Cefnogaeth ar gyfer datgarboneiddio, dysgu ac arloesi busnes
  • Cefnogi busnesau cymdeithasol
  • Darparu cymorth ar gyfer y rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur
  • Bodloni anghenion sgiliau busnes lleol
  • Cefnogi pobl ifanc ar ôl Covid
  • Mynd i’r afael â salwch meddwl

Gellir anfon unrhyw ymholiadau i: CronfaFfyniantGyffredinSiryFflint@siryfflint.gov.uk