Dosbarthwyd y rhan fwyaf o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy brosesau ymgeisio tryloyw a chystadleuol, ac roedd cyfle i sefydliadau darparu prosiectau posibl gyflwyno eu cynigion i’w hystyried drwy broses ymgeisio galwad agored a gynhaliwyd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
Cynhaliwyd y broses ymgeisio mewn 2 gam. Gofynnwyd i ymgeiswyr posibl gwblhau ffurflen gais Cam 1 tua diwedd mis Chwefror 2023. Yna, estynnwyd gwahoddiad i’r ymgeiswyr a oedd llwyddiannus yng Ngham 1 i gyflwyno cais mwy manwl yn yr haf fel rhan o’r broses Cam 2.
Anogwyd prosiect strategol ar raddfa fawr gydag isafswm gwerth o £250,000. Croesawyd cynlluniau grant a fyddai’n galluogi busnesau a grwpiau gwirfoddol llai i wneud cais am gymorth drwy’r broses ymgeisio prosiect.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn bennaf yn rhaglen sy’n seiliedig ar refeniw. Ystyriwyd gwariant cyfalaf fel elfen lai o fewn prosiect refeniw ehangach, yn ogystal â phrosiectau a all ddosbarthu gwaith neu grantiau cyfalaf bychain ar draws nifer o gymunedau neu busnesau. Oherwydd graddfa fach y rhaglen yn Sir y Fflint, nid oedd ceisiadau prosiect gwaith cyfalaf mawr yn cael eu hannog.
Er mwyn cael eu hystyried, roedd yn rhaid i’r prosiectau arfaethedig ddangos:
- y gallu i fodloni meini prawf Llywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen a darparu canlyniadau ar gyfer y fframwaith rhaglen;
- yn gweddu ag anghenion lleol a sut fyddent yn cyd-fynd ac nid yn dyblygu darpariaeth leol bresennol;
- y cyfraniad i fodloni anghenion strategol yr ardal fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor, Cynllun Lles a strategaethau perthnasol eraill;
- ymgysylltiad lleol sylweddol gyda budd-ddeiliaid a buddiolwyr posibl;
- y gallu i ddarparu o fewn amserlen fer ar gyfer y rhaglen;
- profiad a gallu noddwr y prosiect;
- gallu nodi a rheoli risgiau yn effeithiol;
- gwerth am arian ac na all y prosiect gael ei gyllido drwy ffynhonnell arall;
- y gellir cydymffurfio â rheoliadau rheoli cymorthdaliadau Llywodraeth y DU; a
- bod y ddarpariaeth yn ystyried dyletswyddau cydraddoldeb, y Gymraeg ac arferion amgylcheddol da.