Sut yr oedd prosiectau yn cael eu dewis a'u cymeradwyo am gymorth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gwnaed y penderfyniad terfynol ar ddewis prosiect gan bob awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru. Bu i Grŵp Adferiad Economaidd Sir y Fflint yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau rhanbarthol a sirol strategol, ystyried arfarniad y ceisiadau ac asesu sut mae’r prosiectau arfaethedig yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a sut maent yn cefnogi’r ymyraethau blaenoriaeth.
Fe wnaeth y Grŵp hefyd ystyried sut mae’r prosiectau yn mynd i’r afael ag anghenion a heriau lleol a sut maent yn cyd-fynd â’r cyd-destun lleol.
Yna, fe wnaeth y Grŵp argymell y prosiectau hynny ar gyfer cymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i uwch-gynrychiolwyr y Cyngor Sir a wnaeth y penderfyniad terfynol ar sut y dylai’r cyllid gael ei ddyrannu a pha brosiectau y dylid eu cymeradwyo.