Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru
Cyswllt:
Natalie Jones
E-bost:
natalie.jones@amrc.co.uk
Gwefan:
https://www.amrc.co.uk/pages/amrc-cymru
https://www.amrc.co.uk/pages/adapts
Bydd y prosiect yn rhoi mynediad heb ei ail i weithgynhyrchwyr Sir y Fflint at arddangoswyr a pheirianwyr technoleg gweithgynhyrchu uwch, trosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant ac uwchsgilio mewn strategaethau digidol a datgarboneiddio.
Bydd y prosiect yn ymgysylltu â 32 o weithgynhyrchwyr yn Sir y Fflint drwy weithdy trochi wythnos o hyd. Bydd y gweithdy hwn yn sail i adroddiad a fydd yn manylu ar statws technoleg y cwmni, cyfleoedd technoleg ar gyfer datgarboneiddio ac ystadegau cynhyrchiant ac amgylcheddol.
Ar ôl cwblhau’r sesiynau ymgysylltu cychwynnol hyn, bydd 16 o’r cwmnïau yn cael eu dewis i dderbyn cefnogaeth bellach i weithio ar un o’r cyfleoedd a nodwyd, a chwblhau hyfforddiant ac i sicrhau arloesi parhaus o fewn y sefydliad.
Bydd y partneriaid cyflawni prosiectau, Coleg Cambria a Small World Consulting, yn darparu hyfforddiant ar weithgynhyrchu uwch a phynciau cynaliadwyedd a fydd yn cynorthwyo â throsglwyddo gwybodaeth a chyd-destun.
Bydd cwmnïau buddiolwyr a’r gymuned weithgynhyrchu ehangach yn Sir y Fflint hefyd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn AMRC a’r Rhwydwaith Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel ehangach, a fydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu, gan ategu mabwysiadu technoleg a sgiliau ymhellach.
Bydd y prosiect o fudd i weithgynhyrchwyr potensial uchel a busnesau bach a chanolig sydd angen cefnogaeth gyda thrawsnewid digidol, gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant a chynaliadwyedd.