Alert Section

Caru Cymru - Cadwch Gymru'n Daclus

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Elusen yn gwahodd ysgolion Sir y Fflint i ymuno mewn ymgyrch lleihau sbwriel 

CaruCymru
Cadw Cymru'n Daclus Stensiliau 'Dim ond Glaw i Lawr y Draen' a chwistrell.

Mae gweledigaeth Cadwch Gymru’n Daclus / Keep Wales Tidy i greu Sir y Fflint lanach a mwy cyfeillgar i’r amgylchedd wedi cael hwb sylweddol gyda lansiad arfaethedig prosiect o’r enw Dim ond Glaw i Lawr y Draen / Only Rain Down the Drain.

Fel rhan o ymgyrch yr elusen i ddileu sbwriel ym mhob rhan o Gymru, y nod yw lledaenu’r neges mai dim ond dŵr glaw ddylai lifo i’n draeniau trwy ddangos sut mae gollwng hylifau amhriodol yn llygru ein moroedd, afonydd, camlesi a llynnoedd.

Gyda mwy na 2 filiwn o ddarnau o sbwriel yn cael eu taflu bob dydd yn y Deyrnas Unedig, a £70m yn cael ei wario bob blwyddyn yng Nghymru ar waredu sbwriel, bydd yr ymgyrch yn cysylltu â mwy na 55 o ysgolion Sir y Fflint i chwistrellu caeadau draeniau gyda phaent sialc melyn dros dro neu stensiliau siâp pysgod yn pwysleisio’r angen i waredu sbwriel yn y ffordd gywir.

Gweithredir y cynllun gyda chymorth Cyngor Sir y Fflint a Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF). Bydd yn cynnwys stensiliau Saesneg a Chymraeg gyda negeseuon fel ‘mae’r môr yn dechrau yma’ a ‘peidiwch â thaflu sbwriel os gwelwch yn dda’ yn ogystal a delweddau o bysgod.

Bydd yr ysgolion yn derbyn cynlluniau gwersi rhyngweithiol oddi wrth Gyngor Sir y Fflint, gwersi addas ar gyfer blynyddoedd 1-10, yn egluro sut i beidio llygru dŵr, swyddogaeth dŵr glân mewn eco-systemau a phwysigrwydd peidio taflu sbwriel i ddraeniau ar ochr y ffordd.

Bydd lansiad swyddogol yr ymgyrch Dim ond Glaw i Lawr y Draen yn ystod Gŵyl y Môr / Festival of the Sea a gynhelir yng Nghastell Y Fflint ddydd Sadwrn 22 Mawrth, lle bydd aelodau o’r tîm a gwirfoddolwyr hefyd yn casglu sbwriel o’r ardal.

I ledaenu’r neges fwy fyth, mae’r elusen yn bwriadu cynnwys y prosiect fel peilot o fewn rhaglen Eco Ysgolion Cadwch Gymru’n Daclus, sef y rhaglen addysgol fyd eang fwyaf ar y blaned lle mae 20 miliwn o blant mewn mwy na 100 o wledydd yn cymryd rhan.

Mae pump Ysgol yn nhref Y Fflint yn bwriadu ymuno â’r ymgyrch Dim ond Glaw i Lawr y Draen.

Meddai swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus, Carolyne Prew: “Rydym wedi gweithio’n galed i gydlynu prosiect sy’n ceisio ysbrydoli pobl i beidio taflu sbwriel yn ddifeddwl a meithrin mwy o barch tuag at fyd natur.

“Heb gefnogaeth y Gronfa UKSPF, ni fyddem wedi gallu trefnu’r ymgyrch na phrynu’r nwyddau angenrheidiol fel stensiliau a phaent chwistrellu eco-gyfeillgar.

“Mae’n braf medru cysylltu ag ysgolion fel rhan o’r cynllun i addysgu’r genhedlaeth nesaf ynghylch pwysigrwydd gofalu am y blaned a’r modd y gallant hwy helpu i atal llygredd dŵr.”

Derbyniodd Cadwch Cymru’n Daclus £95,397 o gyfran Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) a defnyddiwyd yr arian i weithredu sawl prosiect i warchod amgylchedd y sir.

O’r cyfanswm hwn, gwariwyd tua £1,433.45 ar ddeunyddiau ar gyfer y prosiect Dim ond Glaw i Lawr y Draen, fel rhan o genhadaeth ehangach yr elusen i warchod y blaned.

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi dewis ffordd ardderchog o’n gwneud yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd bod yn garedig i’r amgylchedd.

“Edrychaf ymlaen at weld y rhaglen yn helpu i newid agwedd cymunedau ym mhob rhan o Sir y Fflint tuag at y ffordd y cawn wared o sbwriel.”