Alert Section

Dociau Cei Connah

FundedByUKGovernment

Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn canmol cynllun a fydd o gymorth i atal troseddau yn ardal Dock Road, Cei Connah.

Docks1
Niall Waller rheolwr gwasanaeth - menter ac adfywio; Andy Dunbobbin Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu; a Mike Taylor, ceidwad yr arfordir, yn ystod taith o amgylch y gwelliannau yn Heol y Doc, Cei Connah

Mae Comisynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru wedi arwain y ganmoliaeth i gynllun adnewyddu trawiadol a ddyluniwyd i atal troseddu rheolaidd mewn un ardal o Sir y Fflint.

Canmolodd Andy Dunbobbin, sydd hefyd yn gynghorydd tref dros ward Golfftyn Cei Connah, y gwaith sy’n mynd yn ei flaen i drawsnewid ardal Dock Road – rhan o’r dref oedd angen sylw ers peth amser. 

Gyda chymorth £290,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), bu timau cynllunio, amgylchedd ac economi Cyngor Sir y Fflint yn gweithio i wneud yr ardal hon yn lle diogelach ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Gwnaed y gwelliannau fel rhan o’r raglen Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Buddsoddi mewn Canol Trefi – rhaglen a dderbyniodd gyfanswm o £1.5 miliwn i ddatblygu canol trefi ar draws y sir.

Gosodwyd camerâu cylch cyfyng, goleuadau stryd a 100 bolard i wneud y lle’n fwy diogel ar gyfer amrywiol ddefnyddwyr yr ardal – o bysgotwyr i feicwyr, i’r rhai sy’n mynd â’u cŵn am dro.

I hyrwyddo diogelwch crëwyd pedair ysgol ddringo bwrpasol ac mae gwaith plannu gwrychoedd a gwella’r iard gychod wedi tacluso llawer ar y llecyn hwn.

Bwriedir gwneud gwelliannau pellach i ardaloedd tir glas, cyflwyno gatiau a ddyluniwyd gyda chymorth disgyblion pedair ysgol leol, a gosod meinciau i’r cyhoedd fwynhau eistedd arynt. Mae lle i gynnal digwyddiadau a mannau ar gyfer stondinau bwyd a diod hefyd yn rhan o’r strategaeth ddatblygu.

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, wrth ei fodd fod ardal sy’n gymaint rhan o’i blentyndod wedi cael ei chlustnodi ar gyfer gwelliannau yr oedd mawr angen amdanynt.

Meddai: “Mae’r dociau yn rhan hanesyddol ac allweddol o dreftadaeth Cei Connah. Dyma lle dechreuodd y dref a’r man lle cafodd ei henw. Mae’r Hen Dŷ Cei yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a bu’r dociau yn ferw o brysurdeb diwydiannol tan y 1960au.

“Fel un o blant Cei Connah, roeddwn yn dod i’r dociau’n aml gyda fy mrawd a taid yn ystod y gwyliau ysgol gan siarad efo’r hen gapteiniaid. Byddem hefyd yn hel mwyar duon gyda nain i lenwi ei thartenni blasus.

Docks2
Bolardiau diogelwch newydd gydag ysgolion mynediad wedi'u paentio yn y cefndir rhai o'r gwelliannau i Dock Road, Cei Connah

“Ond fel y gwyddom, dros y blynyddoedd mae’r ardal wedi dioddef yn arw o gael ei hesgeuluso.

“Oherwydd ei phwysigrwydd i’r dref a’m hatgofion personol hyfryd, dwi wrth fy modd gweld Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Tref Cei Connah yn adnewyddu’r dociau, yn lleihau troseddu ac ymddygiad gwrth gymdeithasol, a chynyddu’r defnydd o’r dociau gan bobl leol.”

Canolfan Gymunedol Kathleen a May fydd cartref newydd Cadetiaid Môr Cei Connah, ynghyd â grwpiau eraill, yn dilyn buddsoddiad sylweddol i wella’r adeilad.

Y cynghorydd tref Debbie Owen sy’n arwain y trawsnewidiad, gwaith sy’n cynnwys gwella ac ailaddurno’r brif neuadd, adnoddau cegin newydd ac ystafelloedd cyfarfod.

Meddai: “Roedd yr adeilad mewn peryg o gau’n barhaol, ond ar ôl gwrthod rhoi mewn, a chymryd rheolaeth dros y gwaith adnewyddu yn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint, mae’n ardderchog gweld y lle’n dechrau blodeuo unwaith eto ar ei newydd wedd.

“Mae’r gwaith a wnaed yn wych a bydd cael yr adeilad ar agor i’r gymuned unwaith eto yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r holl grwpiau sydd angen lle addas i ddod at ei gilydd.”

Ychwanegodd Eric Eustace, cadeirydd Cadetiaid Môr Cei Connah: “Ar ôl bod rywle arall am 12 mlynedd, bydd yn braf dychwelyd i ofod a fydd yn caniatáu inni dyfu. Rydym yn grŵp o tua 30 ond bydd llawer mwy o bobl ifanc, yn arbennig rhai 10 i 12 oed, yn gallu ymuno efo ni rŵan.

“Rydym yn croesawu pawb sydd eisiau dod atom ac sy’n cefnogi’n gwaith.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae cynllun gwella ardal Dock Road, Cei Connah yn gyffrous iawn.

“Roedd hon yn amlwg yn ardal oedd angen cefnogaeth a ‘does dim syndod felly fod y datblygiadau a wnaed eisoes – a’r rhai sydd ar y gweill – wedi cael eu croesawu’n gynnes gan drigolion a busnesau lleol.”