Alert Section

Cysylltu â Chefn Gwlad a'r Arfordir

FundedByUKGovernment

Cyngor Sir y Fflint yn gwella perlau cudd ar hyd arfordir Sir y Fflint

ConnectingCoast2
Phillip de Prez (chwith) Perchennog adeilad Glofa Bettisfield a Chyfarwyddwr CiC gyda Tim Johnson (dde) Ceidwad Arfordirol Cefn Gwlad Sir y Fflint ar hen safle Glofa Bettisfield, Bagillt.

Mae prosiect ‘Cysylltu â Chefn Gwlad a’r Arfordir’ a weithredir gan Gyngor Sir y Fflint yn trawsnewid ardaloedd glan y môr, gyda’r gwaith yn amrywio o ailgyflwyno rhywogaethau prin a ddiflannodd o Gymru i ddiogelu adeilad rhestredig Gradd II.

Nod y cynllun yw gwella ardaloedd hardd mewn wyth ardal arfordirol er budd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Un llecyn sy’n manteisio o’r rhaglen yw hen bwll glo Bettisfield ym Magillt. Yno casglwyd 40 bag o sbwriel, cafodd llwybrau eu gwella ac mae’r gwaith yn parhau o gryfhau poblogaeth llyffant y twyni (natterjack toads) a ailgyflwynwyd i’r ardal yn ddiweddar.

Roedd llyffant y twyni wedi diflannu’n gyfan gwbl o Gymru, ond bellach mae’r amffibiad prin i’w ganfod yma, a dim ond mewn un man arall yng Nghymru.

Law yn llaw â’r gwaith parhbaus o warchod bywyd gwyllt, mae’r tîm cefn gwlad ac arfordir yn bwriadu gwella’r safle fwy fyth drwy gryfhau’r rhwydwaith presennol o lwybrau gan osod creigiau amddiffyn a chreu cyfres newydd o risiau er mwyn hwyluso mynediad a gwella diogelwch.

Cefnogwyd y gwaith gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (Shared Prosperity Fund - SPF).

Meddai Tim Johnson, ceidwad arfordirol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym wedi cyflwyno gwelliannau mawr ym Mhwll Glo Bettisfield ac mae ymateb trigolion lleol ac ymwelwyr wedi bod yn wych.

“Gweithiwyd yn agos gyda llawer o gyrff eraill, yn cynnwys Grŵp Gweithredu Bagillt, yr heddlu ac ysgolion yr ardal. Roedd yn ymdrech wirioneddol ar y cyd.

“Gydag arian SPF llwyddwyd i gyflymu’r gwelliannau a chyflwyno elfennau newydd. Mae’r gwaith yn amrywio’n fawr, o gadwraeth natur a gwella llwybrau i helpu i wireddu’n gobeithion ar gyfer defnydd posibl o adeilad rhestredig Gradd II ar y safle.

“Gwnaeth derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wahaniaeth go iawn.” 

Mae’r gwaith o ddatblygu safle’r hen bwll glo yn cynnwys diogelu adeilad rhestredig Gradd II yr hen gwt weindio.

Gwnaed gwaith brys ar yr adeilad hwn i atal ei dalcen rhag syrthio ac yna cynhaliwyd nifer o archwiliadau allweddol.

ConnectingCoast1
Phillip de Prez (chwith) Perchennog adeilad Glofa Bettisfield a Chyfarwyddwr CiC gyda Tim Johnson (dde) Ceidwad Arfordirol Cefn Gwlad Sir y Fflint wrth y gofeb deialu haul ar safle Glofa Bettisfield, Bagillt.

Meddai Philip de Prez, un o gyd berchnogion yr adeilad ynghyd ag aelodau eraill o’i deulu: “Dechreuodd yr adeilad fynd â’i ben iddo dros y blynyddoedd, ond gyda chymorth arian SPF, rydym bellach wedi cynnal archwiliad llawn o gyflwr y cwt weindio a nifer o arolygon ecolegol.

“Bydd y wybodaeth a gasglwyd o gymorth amhrisiadwy i gefnogi ein gweledigaeth a’n dymuniad i droi’r adeilad yn ganolfan ymwelwyr a chaffi, gydag arddangosfeydd yn adrodd hanes y rhan hon o Fagillt.

“Daeth fy nhaid yma o Glasgow i weithio yn y pwll glo, gan fyw ar y safle, a bu’n teulu yn rhan o’r gymuned hon byth oddi ar hynny. Bydd datblygu’r hen gwt weindio yn ganolfan gymunedol fel atyniad ymwelwyr ac er budd trigolion Bagillt yn wych dros ben.”

Meddai’r Cynghorydd David Healey, yr aelod cabinet dros newid hinsawdd a’r economi: “Yn Sir y Fflint ein braint yw cael byw mewn cefn gwlad ac arfordir hynod o hardd.

“Mae gwaith y tîm cefn gwlad ac arfordir yn allweddol er mwyn gwarchod a gwella’r mannau hyn, a braf gweld bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn eu helpu i gyflawni prosiectau newydd, yn ogystal â chyflymu cynlluniau sydd eisoes yn bodoli.

“Mae newidiadau cyffrous yn digwydd ar safle Pwll Glo Bettisfield ym Magillt ac edrychaf ymlaen at fwynhau’r profiad o’u gweld.”