Alert Section

Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint

FundedByUKGovernment

Adnoddau cymunedol yn Sir y Fflint yn fwy cynhwysol a chynaliadwy, diolch i raglen sy’n cael ei hariannu gan y Llywodraeth.

KeyFund
Astroturf newydd yng Nghlwb Criced Cei Connah.

Mae clwb criced o Sir y Fflint yn un o fwy na 30 o fentrau cymdeithasol allweddol sydd wedi llwyddo i gryfhau eu hapêl drwy wella, datblygu ac ehangu eu hadnoddau.

Gwnaethant hyn gyda chymorth Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint (Flintshire Community Key Fund), a weinyddir ar y cyd gan Gadwyn Clwyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC). Mae’r sefydliadau a fanteisiodd ar y gronfa yn amrywio o glybiau chwaraeon a chymdeithasol i hybiau cymunedol ar draws y sir. Defnyddiwyd yr arian i gryfhau cyfleoedd cyfartal, gwneud darpariaethau’n fwy cynhwysol, lleihau allyriadau carbon, hyrwyddo bioamrywiaeth a gwella technolegau digidol.

Un man a drawsnewidiwyd yw Clwb Criced Cei Connah, sydd wedi gosod llawr newydd sbon ar dŷ’r clwb, lefelu tir a gwella mynediad i bobl ag anableddau.

Roedd y gwelliannau’n bosibl oherwydd i Gronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint dderbyn cyfran o’r arian a glustnodwyd i Gyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Mae’r clwb, ym Mharc Canolog Cei Connah, wedi cynyddu mwy na 50% ar nifer ei doiledau merched a thoiledau hygyrch i ddarparu’n well ar gyfer y nifer cynyddol o ferched sy’n cymryd rhan yn ei weithgareddau, ynghyd â defnyddwyr cyffredinol megis grwpiau dawns a ffitrwydd, criw darllen llyfrau a chlwb cymdeithasol i oedolion ag anableddau.

Crëwyd murlun yn cynnwys logo’r clwb yn y stafelloedd newid. Tu allan, gosodwyd 350 metr o astroturf i greu llecyn deniadol a braf ar gyfer cymdeithasu.

Meddai cadeirydd Clwb Criced Cei Connah: “Ein nod yw bod yn lle diogel a chroesawgar i bawb sydd eisiau defnyddio’n cyfleusterau, cymdeithasu ag eraill, cwrdd â chyfeillion newydd neu fwynhau eu hoff weithgareddau.

“Rydym yn llawer mwy na chlwb criced. Diolch i gefnogaeth Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint, mae’r clwb bellach yn fwy hygyrch a chynhwysol, ac wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y grwpiau cymdeithasol sy’n ei ddefnyddio fel man cyfarfod.

“Mae ymateb ein haelodau a’n hymwelwyr wedi bod yn gadarnhaol dros ben gyda phawb yn dweud fod Clwb Criced Cei Connah bellach yn lle llawer mwy deniadol a modern.” 

I’w galluogi i gefnogi 33 o fudiadau cymunedol ar draws y sir, derbyniodd Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint £953,850 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Meddai swyddog menter gymdeithasol Cadwyn Clwyd, Helen Williams: “Bwriad y Gronfa Allweddol Gymunedol yw helpu trigolion Sir y Fflint i deimlo balchder ac ymdeimlad o berthyn i’w bro. Mae gweld effaith gadarnhaol y newidiadau yn deimlad braf dros ben.

“Rydym wedi trawsnewid amrywiaeth eang o fannau cyhoeddus fel neuaddau tref a phentref, amgueddfeydd, canolfannau cymunedol a chaffis. Bydd yr adnoddau hyn yn parhau i fod ar gael i genedlaethau’r dyfodol, gobeithio.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’r cynlluniau a wireddwyd gydag arian Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint ym mhob rhan o’r sir yn amlwg wedi gwneud gwahaniaeth – fel y tystia’r cynnydd yn nifer aelodau ac ymwelwyr Clwb Criced Cei Connah.

“Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) wedi bod o gymorth  allweddol i greu Sir y Fflint fwy croesawgar, cymdeithasol a iach lle gall pob aelod o’n cymdeithas gwrdd â ffrindiau newydd a datblygu eu talent a’u gallu naturiol.”