Alert Section

Cronfa Sir y Fflint - Farrall's Group

FundedByUKGovernment

AR Y FFORDD i sero net i fusnes cludiant ffyniannus

Farralls2

Mae Farrall’s Group – sy’n cyflogi dros 110 o weithwyr ar draws ei safleoedd ar Lannau Dyfrdwy,  Ashton Hayes, Sandycroft, Telford a Chasnewydd – wedi llwyddo i leihau ei ôl troed carbon gyda chefnogaeth y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon.

Darperir y Gronfa gan Fenter Antur Cymru gyda chefnogaeth Pathway to Carbon Zero Ltd a Litegreen Ltd, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr Matthew Farrall, roedd y cwmni eisoes wedi cymryd camau  tuag at gynaliadwyedd trwy osod 1,400 o baneli solar yn ei bencadlys yng Nglannau Dyfrdwy gan gynhyrchu hanner miliwn cilowat y flwyddyn, cyflwyno wagenni fforch-godi trydan yn ogystal â’r bwriad i gyflwyno Olew Llysiau wedi'i drin â dŵr (HVO) i’w 70+ o gerbydau, sy'n cael eu golchi gan ddefnyddio system cynaeafu glaw. 

Dywedodd Matthew, drwy’r Gronfa fe wnaeth ymgynghorwyr eu helpu i gasglu gwybodaeth ac archwilio’r ffordd orau o barhau i weithredu dulliau eco-effeithlon a dewisiadau ynni adnewyddadwy i’r hirdymor.

“Mae mewnbwn Pathway to Carbon Zero a Litegreen wedi bod o fudd mawr,” meddai.

“Yn dilyn eu canfyddiadau, atgyfnerthwyd y newidiadau rydym wedi’u gwneud yn y 12 mis diwethaf yn ogystal â chyfrannu at ein hadroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) a rhoi’r hyder i ni ein bod ar y llwybr cywir. Nodwyd hefyd meysydd eraill y gallwn fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd ar ynni.”

Ychwanegodd Matthew: “Fel busnes rydym yn canolbwyntio ar ein cyfrifoldeb o ran ein hôl troed carbon sy’n ymestyn dros filoedd o filltiroedd bob blwyddyn trwy’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o’r cerbydau yn ogystal â’r warws a gweithrediadau eraill.

“Byddwn yn parhau i wella a gweithio mewn partneriaeth â’r sectorau rydym yn eu gwasanaethu, o gynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu i adeiladu, agregau, manwerthu a mwy.”

Farralls1

Wrth nesáu at ei ben-blwydd yn 70, mae Farrall’s Group eisoes wedi archebu lori BEV (Batri Trydan) i gyrraedd yn y Gwanwyn. Storio batris trydan yw’r cam nesaf yn eu cynlluniau gwyrdd.

“Bydd hwnnw’n brosiect mawr ond yr un sydd wedi cael yr effaith fwyaf yw gosod y system solar yng Nglannau Dyfrdwy gan leihau’n dibyniaeth ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy a’n tynnu oddi ar y grid pan fydd yr haul yn gwenu,” meddai Matthew.

“O ganlyniad, pan fydd y lori yn cyrraedd, bydd yn cael ei bweru gan yr ynni solar a gynhyrchir. Ein targed yw sicrhau bod o leiaf 50% o’n cerbydau yn garbon niwtral erbyn 2040 – dyna’r nod.”

Ychwanegodd: “Rydym am fod yn arweinydd ym maes logisteg gynaliadwy ac rydym wedi ymrwymo i roi datrysiadau ar waith sy’n cyfrannu at hynny trwy fuddsoddi ac arloesi.”

Wedi’i hanelu at sefydliadau yn Sir y Fflint, derbyniodd y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon £297,294 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda grantiau ar gael i fusnesau gael cyngor arbenigol ar sut i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy. Yn ogystal, ceir cyngor ar offer, adeiladau, defnydd ynni a systemau a dulliau lleihau ôl troed carbon a helpu i gynyddu proffidioldeb. 

Dywedodd Rheolwr y Gronfa, Rowan Jones: “Mae Farrall’s Group yn un o’r cwmnïau mwyaf arloesol a blaengar yn y rhanbarth, yn enwedig o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd.

“Rydym yn falch bod y Gronfa wedi helpu’r cwmni i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn mynd rhagddi ac edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon ewch i www.anturcymru.org.uk/flintshire, ebost flintshirefund@anturcymru.org.uk neu ffoniwch 01352 871298.

Fel arall, dilynwch Fenter Antur Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol @anturcymruwales neu ewch i’r wefan Antur Cymru.

Ymwelwch â Home - Farrall's (farralls.co.uk) am ragor o wybodaeth am Farrall’s Group a’i dlyn ar y cyfryngau cymdeithasol @farrallsgroup.