Cwmni o Sir y Fflint yn ennill cwsmeriaid newydd, cyflogi mwy o staff ac anelu tuag at sero net
Mae cwmni o gontractwyr tirweddu o Sir y Fflint wedi llwyddo i ennill contractau newydd, cyflogi mwy o staff a chymryd camau allweddol i leihau ei allyriadau carbon.
Ymhlith cwsmeriaid newydd Sherratt Group Ltd, sydd â’i bencadlys yn Alltami, y mae sefydliadau addysg, darparwyr gofal iechyd ac awdurdodau lleol.
Er mwyn darparu gwasanaethau sy’n cynnwys cynnal a chadw tiroedd, coed a meysydd chwaraeon, mae tîm y cwmni teuluol wedi tyfu 20% ac wedi buddsoddi mewn offer newydd eco-gyfeillgar.
Maent hefyd wedi derbyn cyngor ac arweiniad arbenigol ynghylch cyrraedd sero net trwy fanteisio ar Gronfa Ymchwil Lleihau Allyriadau Carbon a weinyddir gan ymgynghoriaeth cefnogi busnes Antur Cymru.
Bu’n gyfnod o dyfiant cryf i’r cwmni, a sefydlwyd yn 1968, ac mae’r cyfarwyddwr Shona Saxon yn falch o’r llwyddiant ac yn gyffrous iawn ynghylch dyfodol Grŵp Sherratt.
Shona yw’r drydedd genhedlaeth o’r teulu i fod yn rhedeg y busnes. Meddai: “ Mae ein llwyddiant yn ennill contractau newydd ac adnewyddu cytundebau gyda chwsmeriaid rheolaidd yn siarad cyfrolau am y math o wasanaeth a roddwn.
“Gyda’r twf yn nifer ac amrywiaeth ein cwsmeriaid, ehangwyd ein tîm i fwy na 40 aelod o staff, gyda 75% ohonynt yn byw’n lleol. Pan fyddwn yn buddsoddi mewn offer newydd, gwnawn hynny gan gofio ein gwerthoedd amgylcheddol bob amser.
“Sylweddolwn fod gennym gyfrifoldeb i’r blaned a’r cymunedau lle gweithiwn. Dyma pam yr ydym wedi partneru gydag Antur Cymru i osod llwybr clir ar gyfer ein taith tuag at leihau allyriadau carbon.”
Yn cael ei weithredu mewn partneriaeth â Litegreen a Pathway to Carbon Zero Ltd, helpodd y broses y contractwr tirweddu i fesur ei allyriadau carbon presennol a datblygu cynllun lleihau carbon efo camau pendant i gyrraedd y nod.
Gyda chymorth arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), roedd y cynllun hefyd yn cynnig cymorth ar ffurf cyfres o weithdai yn egluro effeithiau nwyon tŷ gwydr.
Meddai Shona: “Mae ein polisi amgylcheddol yn sicrhau ein bod yn plannu coed newydd i gymryd lle unrhyw goed sy’n cael eu torri lawr. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ymhellach ein llwybr at sero net, gan atgyfnerthu ein henw da fel contractwr tirweddu cyfeillgar i’r amgylchedd.
“Mae newidiadau eraill yn ein ffordd o weithio yn cynnwys newid o offer sy’n llosgi tanwydd i ddefnyddio tŵls sy’n rhedeg ar fatris, a robotau marcio llinellau meysydd chwarae, sy’n golygu peidio defnyddio cemegau, defnyddio llai o baent a lleihau biliau tanwydd.
“Gobeithiwn wella ein gwasanaethau fwy fyth drwy roi gwybodaeth berthnasol i’n staff ynghylch sut orau i warchod ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ac rydym hefyd yn annog pob busnes yn gryf i ystyried sut y medrant hwythau fabwysiadu arferion cynaliadwy.”
Rowan Jones yw rheolwr cronfa Antur Cymru. Dywed ef fod y rhaglen, sy’n cynnig grantiau o hyd at £5,000, yn cynnig help allweddol i sefydliadau osod nodau amgylcheddol y gallant eu cyflawni.
Meddai: “Mae gweithio gyda chwmnïau blaengar fel Sherratt Group Ltd yn dangos yn glir y manteision a ddaw o gynllun fel hwn.
“Maent eisoes wedi cyflwyno newidiadau ymarferol sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a bydd gweithredu’r cynllun yn cael mwy fyth o ddylanwad i’r dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd David Healey, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros newid hinsawdd a’r economi: “Mae’n wych gweld y gwahaniaeth a wnaeth y rhaglen hon i fusnesau ar draws Sir y Fflint, a’r cyfraniad a wna newidiadau o’r fath yn y pen draw i les y blaned.”