Gwaith cloddio’n datgelu miloedd o flynyddoedd o hanes yn Nyffryn Maes Glas, Sir y Fflint
Cafwyd hyd i arteffact a allai daflu goleuni ar filoedd o flynyddoedd o hanes ar safle treftadaeth yn Sir y Fflint.
Yn ystod gwaith archaeolegol, a noddwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), cafwyd hyd i addurn ffrwyn ceffyl (horse bridle mount) o gyfnod yr Oes Haearn hwyr ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.
Roedd y darganfyddiad, a all fod gymaint â 2,000 o flynyddoedd oed, yn gorwedd o fewn gweddillion trigfan sydd newydd gael ei chanfod. Mae’n debyg fod y safle’n cael ei ddefnyddio gan lwyth y Deceangli yng nghyfnod Oes yr Haearn, ond bu pobl yn dal i fyw yma tan y cyfnod Rhufeinig cynnar.
Roedd tiriogaeth llwyth Celtaidd y Deceangli yn ymestyn mor bell i’r gorllewin ag Afon Conwy, ac yn cynnwys siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam – ardal gyfoethog ei phlwm ac arian, sef metelau a oedd yn werthfawr iawn i’r Rhufeiniaid.
Bu tîm cryf o 40 o bobl yn cloddio am dair wythnos ar safle Dinas Basing (Basingwerk) fel rhan o brosiect ar y cyd dan arweiniad Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas a Chyngor Sir y Fflint. Eu harweinydd oedd Chris Matthews, uwch archaeolegydd prosiect gyda Heneb, Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru.
Yn ogystal â’r addurn, cafwyd hyd i sawl darn o grochenwaith, olion aelwyd a rhesi o dyllau polion yn perthyn i wahanol gyfnodau’r drigfan.
Meddai Chris Matthews: “Mae’r pethau a ganfuwyd yn gam pwysig tuag at lenwi bylchau niferus yn ein gwybodaeth. Lle nad oes tystiolaeth, rydym yn gorfod dehongli orau y medrwn, ond bydd hyn o gymorth i adeiladu darlun cliriach o rai o’r cyfnodau y gwyddom leiaf amdanynt yn ein gorffennol.
“Un agwedd arbennig o ddiddorol yw ein bod bellach yn dechrau gweld fod rhai o leiaf o’r brodorion lleol yn byw ar delerau da â’r Rhufeiniaid pan ddaethant i’r wlad.
“Yn hytrach na goresgyn yr ardal a newid pob dim, ymddengys fod y Rhufeiniad wedi gweld cyfle i weithio law yn llaw â’r Deceangli ac mewn byr amser wedi sefydlu diwydiant plwm ac arian a oedd yn hyrwyddo lledaeniad yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain.
"Yn ogystal â’r addurn ffrwyn ceffyl, cafwyd hyd i amrywiaeth eang o wahanol fathau o grochenwaith. Awgryma hyn fod y bobl oedd yn byw yma yn gyfoethog ac yn masnachu’n uniongyrchol gyda milwyr y lleng Rufeinig.
“Gallwn ddyddio’r lle yma hefyd i gyfnod pan nad oedd dinas Caer ond megis dechrau cael ei hadeiladu – awgrym arall fod perthynas gydweithredol rhwng y Rhufeiniaid â llwyth y Deceangli o Ogledd Cymru.
“Mae canfod yr addurn ffrwyn ceffyl yn cadarnhau fod y safle hwn yn lle arwyddocaol dros ben.”
Darganfuwyd yr eitem werthfawr gan Edward Whitby, llanc 17 oed o Fagillt, ac mae ei ganfyddiad wedi sbarduno awydd y gŵr ifanc i fod yn archaeolegydd.
Meddai: “Roeddwn yn clirio pridd pan welais fflach o liw gwyrdd yn y mwd.
“Galwais Sophie Cooledge (archaeolegydd prosiect gyda Heneb) draw ataf gan feddwl fy mod wedi canfod modrwy - yna sylweddoli ein bod wedi canfod addurn ffrwyn ceffyl o gyfnod oes yr haearn.
“Roedd yn deimlad braf iawn ei ganfod ac roeddwn yn gyffrous dros ben cael hyd i rywbeth mor anghyffredin.
“Mae’n anodd coelio fod yr eitem hon yn 2,000 o flynyddoedd oed.”
Mae gwaith eleni yn dilyn cloddiad arall 12 mis yn ôl a noddwyd gan UKSPF. Bryd hynny, cafwyd hyd i fwcl strap Llychlynnaidd o’r 10fed ganrif ymhlith pridd a ddefnyddiwyd i lenwi hen ffos.
Meddai Brenda Harvey, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Maes Glas: “Bu’r gwaith cloddio dros y ddwy flynedd diwethaf yn gyffrous dros ben.
“Mae hanes Dyffryn Maes Glas yn gymhleth a hynod ddiddorol, a’r canfyddiadau diweddar wedi ychwanegu cyfnod newydd i’n stori. Mae’n newyddion cyffrous i’r gymuned leol yn ogystal â’r arbenigwyr, a bydd o gymorth inni ddenu mwy o ymwelwyr.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r gwaith trefnu a’r gwaith cloddio, ac am nawdd UKSPF i wneud hyn yn bosibl.”
Meddai’r Cynghorydd David Healey, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros newid hinsawdd a’r economi: “Mae’n enghraifft berffaith o ddylanwad Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Gyda chefnogaeth ariannol o’r gronfa hon, cyfoethogwyd hanes Sir y Fflint a rhoddwyd cyfle i Ddyffryn Maes Glas gynyddu nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i sgyrsiau ac arddangosfeydd gwell.”