Alert Section

Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas - Arddangosfa Rheilffordd

FundedByUKGovernment

Hanes rheilffordd Treffynnon i’w weld mewn arddangosfa yn Nyffryn Maes Glas

Railway4
Arddangosfa rheilffordd Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

Mae arbenigwyr Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas Treffynnon wedi llunio arddangosfa gyffrous yn nodi 70 mlwyddiant y trên olaf i deithio ar hyd y dyffryn.

Mae’r arddangosfa’n dwyn i gof y rheilffyrdd colledig yn ardal Maes Glas, yn cynnwys y ‘trên bach’ oedd unwaith mor boblogaidd.

Gan agor ar 1 Gorffennaf 1912, yr orsaf oedd pen draw deheuol rheilffordd gangen bron ddwy filltir o hyd yn cysylltu â’r brif reilffordd rhwng Caer a Chaergybi yng Nghyffordd Treffynnon (Holywell Junction).

Caewyd y llinell yn llwyr fwy na 42 mlynedd yn ddiweddarach ar 6 Medi 1954. Chwalwyd yr orsaf a chodwyd y traciau gan ddatblygu’r safle’n ddiweddarach yn barc tir glas a throi rhan o’r trac yn llwybr cerdded.

Diolch i grŵp o wirfoddolwyr brwd, bydd hanes difyr yr hen reilffordd i’w weld mewn arddangosfa yn Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas er mwyn dathlu un o drysorau teithio colledig yr ardal.

Mae’r gweithgaredd yn rhan o gynllun ehangach i wella Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, cynllun a dderbyniodd grant o £749,275 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Mae’r arddangosfa arbennig o bwysig i Colin Griffiths, un o’r bobl sy’n tywys ymwelwyr o amgylch yr atyniad twristaidd. Roedd ef yn deithiwr ar y trên olaf un ar 4 Medi 1954.

Meddai Colin: “Roeddwn yn llai na 12 mis oed ar y pryd, ac felly dw’i ddim yn cofio dim byd am y diwrnod, ond fe es ar y daith olaf honno gyda fy nheulu tua 70 mlynedd yn ôl.

“Mae’n wych medru edrych yn ôl ar ddarn pwysig o’n hanes a dweud eich bod yn rhan ohono, er bod gennyf gof llawer cliriach o’r trac yn cael ei godi.

Railway2

Railway3

Arddangosfa rheilffordd Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

“Roeddem yn byw uwchben siop London House, lle mae Tesco erbyn hyn. Roedd yr orsaf felly yn syth dros y wal o’n gardd ni.”

Lluniwyd yr arddangosfa gan Ray Bailey ynghyd â Sophie Fish, rheolydd amgueddfeydd a threftadaeth Gwella, sef tîm llyfrgelloedd a hamdden Sir y Fflint. Mae Ray yn falch dros ben fod rhan o dreftadaeth Treffynnon a aeth yn anghof unwaith eto’n cael sylw.

Meddai Ray, sy’n 87 oed ac yn gwirioni ar reilffyrdd: “Mae’n wych medru rhannu cymaint o’n hanes gyda phobl nad ydynt o bosib yn sylweddoli mor gyfoethog yw stori’r rheilffyrdd yn yr ardal hon, yn cynnwys hanes gorsaf Treffynnon.

“Cefais bleser mawr yn pori drwy luniau a ffynonellau gwybodaeth wrth baratoi’r byrddau arddangos. Gyda help Sophie, rydym wedi llunio arddangosfa y gall bawb fod yn falch ohoni.

“Mae gweld lluniau’r teithwyr yn ciwio am y trên yn brofiad emosiynol iawn ac yn rhoi cipolwg ar fywyd pobl Treffynnon flynyddoedd maith yn ôl.”

Ychwanegodd Sophie Fish, rheolydd amgueddfeydd, diwylliant a threftadaeth Cwmni Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint: “Roedd yn brofiad hyfryd cydweithio â phobl Dyffryn Maes Glas i lunio’r arddangosfa ddifyr hon.”

O Chwefror 22, bydd yr arddangosfa ar agor saith diwrnod yr wythnos, rhwng 10am a 3pm.

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: Dyma enghraifft arall ragorol o bwysigrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

“Roedd cymorth o’r gronfa yn hwb i’r cynlluniau i greu’r arddangosfa fel bod y cyhoedd yn awr yn medru ymhyfrydu yn hanes y rheilffordd.”

Railway1
Arddangosfa rheilffordd Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.