Fferm deuluol yn plesio trigolion Sir y Fflint gyda’i chynnyrch diweddaraf
Clyt pwmpen Pwmpenni Moel Famau.
Mae Bethan Lewis-Roberts yn parhau traddodiad teuluol fferm Tyddyn Y Foel drwy gynyddu’r amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael ac ymwneud mwy nag erioed â’r gymuned leol. A derbyniodd gefnogaeth allweddol gan Garddwriaeth Cymru i wneud hynny.
Magwyd Bethan ar fferm ei rhieni a ffurfiodd bartneriaeth gyda nhw yn 2024. Yna cysylltodd â’r rhaglen arddwriaeth a luniwyd yn arbennig i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch newydd i’r farchnad gartref ac i’w allforio dramor.
Gyda chymorth cynllun Garddwriaeth Cymru, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Wrecsam, cyflwynwyd ardaloedd tyfu pwmpenni a blodau ar y llain 22 erw ger Yr Wyddgrug – dau gynnyrch uchel eu gwerth y gellir eu gwerthu’n uniongyrchol i’r cwsmer ac sy’n ddelfrydol ar gyfer busnes bach.
Ar ôl ymweld â’r safle i asesu ymarferoldeb bwrw ‘mlaen â’i syniadau, helpodd y cynllun Bethan i blannu ardal un erw o faint gan awgrymu ei bod yn gwahodd plant Ysgol Gynradd Y Foel o Gilcain gerllaw i gyfrannu tuag at ychwanegiad diweddaraf y fferm.
Gan ddilyn cyngor y prosiect, ailgysylltodd Bethan â’i chyn ysgol a daeth tua 40 o blant a staff i blannu hadau pwmpenni ar y llain newydd i’w marchnata dan yr enw Pwmpenni Moel Famau, gyda photiau bioddiradwy, pridd a hadau’n cael eu darparu gan Garddwriaeth Cymru.
Hefyd fe drefnwyd ymweliad gan Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych lle cafodd myfyrwyr awtistig gyfle i ymwneud â byd natur mewn amgylchfyd hamddenol a diogel.
Roedd y llain pwmpenni newydd hefyd yn boblogaidd gyda thrigolion lleol a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cilcain, a wahoddwyd i ddigwyddiadau di-dâl i gynaeafu’r pwmpenni trwy gydol mis Hydref.
Meddai Bethan: “Mae’r gefnogaeth ac anogaeth aruthrol a gafodd y cynllun wedi bod yn wych gan roi imi’r hyder i fentro gyda syniadau newydd eraill ar gyfer y busnes.
“O ymwneud ag ysgolion lleol, i balu’r pridd a darparu hadau, cefais lawer iawn o gymorth ymarferol i greu a chynyddu ymwybyddiaeth o’r datblygiadau newydd a goresgyn pob her.
“Byddai cyflwyno’r newidiadau hyn heb arweiniad wedi bod yn llawer anoddach ac felly rwy’n ddiolchgar dros ben i bawb am eu cymorth dros yr wyth mis diwethaf.
Cnwd Pwmpen Moel Famau.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r gymuned leol am eu holl gefnogaeth ac edrychaf ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu eleni.”
Yn ogystal â thyfu ffrwythau, mae Garddwriaeth Cymru wedi galluogi Bethan i drawsnewid rhannau eraill o’r fferm drwy greu llecyn lle gallwch gasglu eich blodau eich hun, ac wedi cyflwyno chwe choeden i ailsefydlu perllan ar y safle.
Meddai Bethan, sydd â gradd mewn microbioleg a sŵoleg o Brifysgol Aberystwyth: “Er bod gen i beth profiad blaenorol o weithio gyda phlanhigion, awgrymodd y tîm y dylwn dyfu amrywiaeth o berlysiau a phlanhigion eraill nad oeddwn wedi eu hystyried o’r blaen.
“Ar ôl gweld systemau hydroponeg ar gampws Prifysgol Wrecsam yn Llaneurgain, cefais amrywiaeth o gynnyrch i’w plannu fel arbrawf, ynghyd ag offer tyfu di-bridd gyda system oleuo integredig a fydd yn golygu fy mod yn gallu tyfu pwmpenni a blodau yn gynt yn y dyfodol.”
Meddai Jane Edwards, rheolydd prosiect a phartner trosglwyddo gwybodaeth ac arloesedd Prifysgol Wrecsam: “Pan ddaeth Bethan atom gyntaf ym mis Ebrill, roedd ganddi lawer iawn o syniadau ynghylch arallgyfeirio’r fferm, ond nid oedd yn siŵr lle i gychwyn.
“Ein pwrpas yw galluogi tyfwyr, garddwriaethwyr a chynhyrchwyr Cymru i ddatblygu a hyrwyddo eu cynnyrch, ac felly mae gweld y cynnydd a wnaeth Bethan tuag at wneud y fferm yn fwy proffidiol a gwasanaethu’r gymuned leol yn ddymunol dros ben.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’n hyfryd gweld y modd y mae Garddwriaeth Cymru yn ateb gofynion tyfwyr ym mhob rhan o Sir y Fflint drwy gynnig cymorth pwrpasol iddynt gyrraedd eu nod
“Mae dwyn sylw at yr hyn sydd ar gael yn ffermydd y sir yn rhan allweddol o wella mynediad at gynhyrchion lleol ac edrychaf ymlaen at weld effaith gadarnhaol y prosiect o fewn y rhanbarth.”
Derbyniodd Garddwriaeth Cymru £135,451 o ddyraniad Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).
Hadau pwmpen wedi'u plannu gan fyfyrwyr ym Moel Famau Pumpkins.