Alert Section

LEAP

FundedByUKGovernment

Cynllun radical yn helpu disgyblion bregus yn Sir y Fflint i lwyddo

LEAP 2
Dan Larkin, Rheolwr Prosiect LEAP; Steve Farrelly, Sgiliau Meddwl Sythweledol.

Dywed disgyblion bregus yn Sir y Fflint fod ganddynt well agwedd tuag at eu haddysg ar ôl dilyn cynllun radical sy’n cael dylanwad da mewn ysgolion uwchradd ym mhob rhan o’r sir.

Mae 80 o ddisgyblion, a oedd mewn perygl o ddisgyn i’r categori NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), yn elwa o’r cynllun LEAP (learn, explore, achieve, perform).

Bydd disgyblion yn dilyn y cynllun os cred eu hysgol eu bod yn cerdded llwybr anghywir a allai arwain yn y pen draw at gael eu diarddel am resymau fel triwantiaeth, perthynas gymdeithasol wael â’u cyfoedion ac agwedd negyddol tuag at eu hathrawon.

Yn cael ei redeg gan Gyngor Sir y Fflint, derbyniodd y rhaglen gefnogaeth allweddol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) i ategu’r ddarpariaeth addysgol bresennol.

Mae LEAP wedi partneru gyda sefydliad o’r enw Intuitive Thinking Skills, sy’n cael ei arwain gan bobl a fu drwy’r un profiadau heriol, i helpu dysgwyr o 10 ysgol yn y rhanbarth.

Meddai Dan Larkin, rheolydd prosiect LEAP: “Y nod yw cael myfyrwyr i feddwl yn wahanol am eu bywydau a’r llwybr y maent yn ei ddilyn.

“Mae ymateb y disgyblion a’u hysgolion wedi bod yn gefnogol dros ben, gyda’r bobl ifanc yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ac yn gallu cyfathrebu’n well.

“Helpodd lawer o bobl ifanc a oedd mewn perygl o ddilyn llwybr negyddol i ymwneud yn fwy effeithiol ag addysg prif lif, gan roi seiliau cadarn iddynt symud ymlaen.

“Gwelodd yr ysgolion newid aruthrol yn agwedd y rhai a ddilynodd y rhaglen tuag at eu hathrawon a’u haddysg, ac mae hynny’n wych o beth.

“Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r disgyblion i gael y gorau allan ohonynt ac mae mynychu sesiynau sy’n cael eu harwain gan oedolion o gefndir troseddol yn agoriad llygad go iawn.”

LEAP 1
Dan Larkin, Rheolwr Prosiect LEAP; Steve Farrelly, Sgiliau Meddwl Sythweledol; Marc Edwards, Dechrau o'r Newydd.

Un hyfforddwr o’r fath yw Neil, dirwy reolydd rhanbarthol gydag Intuitive Thinking Skills, sydd â phrofiad personol o wneud penderfyniadau gwael a arweiniodd at gam-drin sylweddau, heriau iechyd meddwl a dedfryd o garchar.

Trwy fod yn agored ac onest ynghylch effaith y dewisiadau a wnaeth, a phwysigrwydd delio â meddyliau a chredoau negyddol, creodd argraff ddofn mewn awyrgylch diogel a chyfrinachol.

Bu Neil yn cyflwyno un o gyrsiau achrededig Rhwydwaith y Coleg Agored Cenedlaethol (NOCN) o’r enw Sgiliau Meddwl Allweddol/ Critical Thinking Skills lle mae’r ffocws ar ystyried credoau o berspectif gwrthrychol. Mae’n helpu dysgwyr i ddeall sut mae’r pethau a gredant yn effeithio ar eu hymddygiad, eu perthynas â phobl eraill a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Meddai Neil: “Roedd yr ysgolion wedi adnabod y disgyblion a oedd angen cefnogaeth fel ein bod ni’n medru canolbwyntio ar ddod i’w hadnabod yn bersonol drwy archwilio a thrafod eu meddyliau, dymuniadau ac anghenion.

“Rydym yn meddwl yn nhermau ‘beth sy’n dda, nid beth sy’n bla’ – ‘what’s strong, not what’s wrong’. Efallai eu bod yn defnyddio set o sgiliau i osgoi ymwneud ag eraill yn yr ysgol, neu godi gwrychyn y staff addysgu. Rydym yn eu herio i ystyried sut y gallant drosglwyddo’r sgiliau hynny i’r dasg o adeiladu gwell perthynas ag athrawon a chynllunio llwybrau gyrfaol posibl.

“Mae’n ymwneud â phenderfynu rŵan sut i osod sylfeini cadarn ac edrych tua’r dyfodol mewn ffordd wahanol. ‘Meddyliwch cyn agor eich ceg, deallwch sut i ymateb yn y ffordd orau i heriau, er mwyn cael gwell canlyniad.’

“ Rhaid i bobl ifanc sy’n cael eu temtio gan sylweddau, er enghraifft, sylweddoli beth yw canlyniad eu gweithredu. Fe all eu chwilfrydedd arwain at gyfnod mewn carchar, ac mae’n rhaid i ni wneud iddynt sylweddoli mai nhw sy’n rheoli eu tynged eu hunain.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Roedd yn ddiddorol iawn canfod mwy am y rhaglen a’i ffordd arloesol o helpu myfyrwyr bregus.

“Mae’n amlwg o’r ymateb fod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ac rwy’n gobeithio fod y gefnogaeth wedi newid llwybr rhai o’r bobl ifanc fregus hyn.”

Derbyniodd LEAP £948,847 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).