Alert Section

Gogledd Cymru - Egnïol, Iach a Hapus

Wedi ei ariannu gan Llwodraeth y Du

Cynllun yn annog trigolion Sir y Fflint i fod yn fwy actif ac egnïol

ACTIF
Aelodau a fynychodd sesiwn Cerdded a Sgwrs ym Mharc Gwepra.

Mae gan Actif Gogledd Cymru genhadaeth syml, sef annog pawb yng Ngogledd Cymru i fod yn fwy actif, iachach a hapusach.

Gyda chymorth arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), mae mudiadau ym mhob rhan o Sir y Fflint yn cael budd o’r rhaglen.

Cafodd Eglwys St James a Kim Inspire yn Nhreffynnon, MIND Gogledd Ddwyrain Cymru a Gofal a Thrwsio Shotton gefnogaeth bwysig gan y gronfa i’w helpu i gael dylanwad cadarnhaol ar fywydau trigolion eu hardal.

Dosbarthodd Andrew Tower, cydlynydd y prosiect, gymorth o fwy na £17,000 wrth i Actif Gogledd Cymru hyrwyddo cydweithio torfol tuag at y nod cyffredin o gael pobl yn fwy actif.

Meddai: “Ffocws y rhaglen yw deall beth sy’n rhwystro cymunedau Sir y Fflint rhag byw bywyd actif.

“Yn lle dechrau rhywbeth newydd sbon, edrychwyd ar y cryfderau sydd eisoes yn bodoli, ac adeiladu ar y cryfderau hynny.”

Mae Eglwys St James yn defnyddio’r arian i greu gardd synhwyrau a iachâd ar ddarn o dir glas o’u heiddo nad oeddent yn ei ddefnyddio fawr ddim.

Caiff yr ardd ei chreu gan rai o 70 o wirfoddolwyr a phreswylwyr Clock House, cartref gofal i oedolion ag anghenion arbennig.

Meddai Ian Williams, cydlynydd prosiect Eglwys St James: “Roedd yn wych cael pot o arian i ddatblygu ymhellach yr adnodd cyffrous hwn yn Nhreffynnon.

“’Da ni wedi gweithio’n galed i wneud tu mewn yr adeilad yn lle croesawgar i bawb, a bydd medru gwella’r tu allan hefyd yn wych.

“Yn ogystal â bod yn ganolfan lesiant sy’n cynnig lle i grwpiau cefnogi, hybiau atgyfnerthu a chaffi, bydd creu gardd yn ychwanegiad pwysig - yn caniatáu mwy le ar gyfer byrddau a chadeiriau ymysg planhigion a blodau.

“Mae hanes y lle hwn yn y gorffennol yn bwysig inni, ac yn rhywbeth y byddwn yn ei gadw mewn cof wrth addasu darpariaeth y ganolfan.

“Er enghraifft, hoffem fedru creu gardd ffisig – sef gardd perlysiau gyda’r math o blanhigion meddyginiaethol y byddai’r mynachod wedi eu tyfu.

“Ni fyddem yn defnyddio’r planhigion yn yr un modd yn awr, ond mae’n ffordd o ddwyn i gof arferion y gorffennol.”

Stori debyg ydi hanes MIND Gogledd Ddwyrain Cymru wrth i’r elusen ehangu ei sesiynau Cerdded a Siarad (Walk and Talk) i gynnwys Bwcle a Threffynnon.

Nod y grwpiau hyn yw helpu pobl i oresgyn problemau iechyd meddwl ac aros mewn lle da’n emosiynol, gyda’r rhaglen yn cael ei chynnal ym Mharc Gwepra, Cei Connah.

Drwy ehangu’r ymgyrch bydd mwy o bobl yn medru treulio amser yn yr awyr agored er lles i’w teimladau, iechyd corfforol, hyder a hunan ddelwedd. Mae hefyd yn ffordd i unigolion ddod i ‘nabod a gwneud mwy â phobl eraill.

Mae’r grwpiau Cerdded a Siarad fel arfer yn cerdded tua dwy filltir mewn oddeutu awr, a’r cynllun wedi cael hwb mawr o dderbyn arian UKSPF.

Meddai Natasha Wait, rheolydd datblygu busnes a chreu incwm MIND Gogledd Ddwyrain Cymru: “Rwan gallwn hyfforddi 10 gwirfoddolwr gyda chymorth hyfforddwr profiadol.

“Rydym angen dau wirfoddolwr ar gyfer pob sesiwn, a hebddynt ni allem wneud ein gwaith. Bydd yr hyfforddiant yn dysgu sgiliau iechyd meddwl a chymorth cyntaf i’n gwirfoddolwyr.

“Drwy hyfforddi mwy o wirfoddolwyr gallwn gynnig gwasanaeth mwy sefydlog – yn y blynyddoedd diwethaf bu’n anodd osgoi rhai bylchau. Yn awr, rydym wedi gallu troi tri gwirfoddolwr yn aelodau staff cyflogedig.”

Mae prosesau a gweithdrefnau’r elusen hefyd wedi gwella yn sgil derbyn yr arian. Ychwanega Natasha, sydd hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol interim y sefydliad: “Rydym wedi llwyddo i gael tair llechen (tablets) newydd i’w defnyddio yn ein sesiynau.

“Mae wastad angen llenwi ffurflenni fel asesiadau risg, gwybodaeth feddygol a chaniatâd i gyhoeddusrwydd. Roedd y rhain yn arfer cael eu gwneud ar bapur, ond rŵan gallwn reoli’r cyfan yn electronig.

“Mae’n golygu na fydd raid i’n gwirfoddolwyr gael pobl i arwyddo darnau o bapur yng nghanol y gwynt a’r glaw, a bydd hefyd yn gwella ein trefniadau gwarchod data GDPR.

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’r rhaglen Actif Gogledd Cymru yn bwysig i lawer iawn o bobl yn y gymuned hon, ac mae’n braf gwybod fod help ar gael i redeg y gwahanol gynlluniau.

“Mae manteision amlwg i fod yn actif ac edrychaf ymlaen i glywed mwy am y budd a ddaw o’r ymgyrch i Sir y Fflint a’r rhanbarth cyfan.”