Alert Section

Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru - Well-Fed

FundedByUKGovernment

Menter gymdeithasol Well-Fed yn hyrwyddo ffyniant pobl, y blaned a’r economi 

Well-Fed
Well-Fed MealVend peiriannau

Mae menter Well-Fed yn credu’n angerddol mewn system fwyd sy’n galluogi pobl, y blaned a’r economi i ffynnu. Gyda hynny mewn golwg mae’r mudiad yn mynd o nerth i nerth a’u cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tyfu wedi derbyn cefnogaeth ddigidol allweddol.

Wedi eu lleoli yn Shotton, sefydlwyd y fenter gymdeithasol yn 2019 ar ffurf partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cymdeithas Dai ClwydAlyn a Can Cook, cwmni sy’n cysylltu pobl trwy fwyd.

Gydag ymrwymiad i sicrhau fod pobl, beth bynnag fo’u hincwm, yn cael mynediad at fwyd o ansawdd uchel na chafodd ei brosesu’n helaeth (zero ultra-processed), bwriad Well-Fed yw treblu ei gynnyrch presennol fel eu bod yn darparu 60,000 pryd yr wythnos.

Gyda chymorth Uchelgais Gogledd Cymru, yn defnyddio arian a gawsant gan Gyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), mae’r nod uchelgeisiol hwnnw’n dod yn nes ac yn nes.

Manteisiodd Well-Fed ar brosiect asesiadau cysylltedd i gwmnïau bach a chanolig (SME connectivity assessments) i ganfod ffyrdd o wella eu perfformiad, cynhyrchu mwy, cynyddu eu heffeithlonrwydd a bod gyda’r mwyaf cystadleuol yn eu maes.

Trwy gynnal sgyrsiau a rhoi cyngor un-i-un, llwyddodd y rhaglen i ddadansoddi defnydd presennol o dechnoleg y fenter gymdeithasol, ac awgrymu sut i ddefnyddio cysylltedd digidol yn well.

Mae’r fenter gymdeithasol yn darparu bwyd ar raddfa fasnachol o fewn y sectorau gofal ac addysg, ynghyd â rhedeg siopau symudol a hybiau bwyd o fewn cymunedau i gwsmeriaid domestig. Gyda chymorth y rhaglen, llwyddwyd i osod y sylfeini ar gyfer gweithio’n well.

Meddai Niki Keegan, rheolydd datblygu busnes Well-Fed: ”Roedd yr asesiadau a’r cyngor a gawsom o gymorth mawr inni ganolbwyntio ar ardaloedd twf posibl i’r busnes.

“Gobeithiwn ddyblu maint ein cegin erbyn gwanwyn 2025 er mwyn cynyddu’n sylweddol y nifer o brydau y gallwn eu paratoi.

“Bydd y gefnogaeth a gawsom yn ein helpu i wella’r broses o baratoi prydau o’r dechrau i’r diwedd trwy gadw ein holl ddata mewn un man canolog, yn hytrach na dibynnu ar lu o wahanol ffurflenni a darnau o bapur.

“Rydym hefyd yn gwneud ein gwefan yn ganolog i’n gwaith, gyda’r holl archebion yn mynd trwyddi. Wrth i’r cyfan fod ar lein yn lle sgwennu pob dim ar bapur byddwn yn fwy cywir a chael gwell dealltwriaeth o’n cynnyrch a natur ein prydau terfynol.

“Bydd defnyddio llawer llai o bapur er lles yr amgylchedd, a’r awgrymiadau a chynghorion a gawson yn ein helpu i baratoi ceisiadau am y cymorth ariannol angenrheidiol inni fedru cyflwyno prosesau cwbl otomatig.”

Well-Fed4
Well-Fed MealLocker oergell
Well-Fed3
Well-Fed MealVend peiriant

Gyda phob dim yn gweithredu’n esmwythach, mae Well-Fed yn awyddus i lenwi bwlch yng nghyrhaeddiad ei dîm o 25, a gwneud hynny’n gyflymach oherwydd y sylfeini a osodwyd gyda chefnogaeth Uchelgais Gogledd Cymru.

Fel bod unigolion gartref neu yn y gwaith yn cael mynediad hwylus at fwyd na chafodd ei brosesu’n helaeth, mae’r cwmni’n lansio dau wasanaeth newydd - MealVend a MealLocker.

Mae MealVend yn wasanaeth 24/7 lle defnyddir platiau a dysglau y gellir eu haiddefnyddio i ddarparu bwydydd poeth neu oer heb yr angen i gael cantîn ar y safle. Bydd hyn yn lleihau gwastraff mewn llawer o ffyrdd gwahanol, o ran defnydd ynni, costau, gwastraff bwyd a deunydd pacio.

Mae MealLocker yn cynnig pecynnau ryseitiau (recipe packs) a bwydydd hanfodol o oergelloedd wedi eu lleoli tu allan (refrigerated outdoor lockers). Bydd y loceri bwyd hyn yn cynnig ffordd hwylus i gael mynediad ddydd a nos at rysetiau hawdd eu dilyn, gan ddarparu’r holl gynhwysion angenrheidiol ar gyfer pobl brysur, meithrin sgiliau coginio a lleihau gwastraff bwyd gymaint â phosibl.

Ychwanegodd Niki: “Mae 2025 yn argoeli i fod yn flwyddyn ardderchog i Well-Fed a gobeithio y bydd hynny’n cyfoethogi bywyd y cymunedau a wasanaethwn, diolch i’n hymrwymiad angerddol i’r pethau a wnawn, a’n nodau clir.

“Bydd cyflwyno MealVend a MealLocker yn golygu ein bod o fewn cyrraedd mwy o bobl gan gynyddu’r nifer sydd ar y daith tuag at fwyta’n fwy iach a chynaliadwy.”

Well-Fed2
Well-Fed dysgl y gellir ei hailddefnyddio

Cafodd y prosiect asesiadau cysylltedd, dan arweiniad Uchelgais Gogledd Cymru, ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), a’i redeg yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.

Meddai Gwenllian Brassington o Uchelgais Gogledd Cymru, rheolydd prosiectau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin: “Roeddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i gefnogi Well-Fed, a chanfod ffyrdd iddynt fireinio ac ehangu eu gwaith.

“Mae’n wych gallu rhoi hwb cadarnhaol i fusnesau’r rhanbarth ac mae’r ymateb a gawsom yn dangos fod Well-Fed wedi cael budd pendant o’r cynllun, ac ar y llwybr cywir i fynd o nerth i nerth.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’r gronfa UKSPF wedi gwneud llawer iawn o waith da. Gyda chymorth Uchelgais Gogledd Cymru, braf gweld hynny’n dwyn ffrwyth mor lwyddiannus yng nghwmni Well-Fed.

“Trwy gefnogi’r fenter gymdeithasol hon, un o’r sgil-effeithiau hyfryd yw bod yr arian yn ei dro wedi helpu cymuned Sir y Fflint yn ei chyfanrwydd.”

Derbyniodd Uchelgais Gogledd Cymru £211,543 o gyfran Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).