Alert Section

Prosiect 11

FundedByUKGovernment

Rhaglen yn helpu gŵr ifanc o Sir y Fflint i beidio troseddu a chael gwaith ar safle adeiladu

Project11Gosodwr bricsen yn gosod brics ar sment gwlyb

Mae gŵr ifanc o Sir y Fflint a ddaeth dan ddylanwad troseddwyr yn dweud ei fod bellach yn ôl ar y llwybr cywir, diolch i raglen allweddol yn y sir.

Cafodd y gŵr ifanc, 17 oed, ei fanipiwleiddo a’i orfodi i dorri’r gyfraith trwy gydol ei arddegau, gan arwain at ei arestio yn aml iawn.

Ond yna fe’i cyfeiriwyd at wasanaeth atal ecsbloetio gan droseddwyr – rhaglen a redir gan Action for Children i gamu mewn lle mae perygl i berson ifanc gael ei hudo i fyd troseddu cyfundrefnol (organised crime). Bellach, mae’r gŵr ifanc hwn wedi cael gwaith, wedi cofrestru mewn coleg ac yn mwynhau perthynas iachach gydag ef ei hun a’i deulu.

Dyma enghraifft dda o lwyddiannau niferus Action for Children wrth weithredu’r cynllun Prosiect 11 a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) er lles pobl ifanc 11+ sydd mewn perygl o gael eu ecsploetio a throseddu.

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint sy’n arwain y cynllun Prosiect 11, gydag Action for Children yn gyfrifol am y gwasanaeth atal ecsploetio gan droseddwyr. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar dair agwedd:

  • cael pobl ifanc i ail gysylltu ag addysg a gwaith
  • amlygu’r risgiau a gymerir wrth ymwneud â throseddu
  • gwneud gwell dewisiadau o ran bwyta’n iach a byw bywyd bob dydd

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos fod 100% o’r rhai a gefnogwyd wedi gwella eu cyswllt ag addysg, hyfforddiant neu waith, ac 89% wedi lleihau eu cysylltiad, neu’r perygl o gysylltiad, â throseddu cyfundrefnol.

Ni ellir enwi’r gŵr ifanc o Sir y Fflint am resymau diogelwch, ond mae’n dweud na fyddai ei daith tuag at fywyd gwell wedi bod yn bosibl heb gymorth Prosiect 11 ac Action for Children.

Meddai: “Rydw wedi cael trefn ar fy mywyd unwaith eto. Heb y cymorth a gefais, byddwn yn dal i ddilyn y llwybr anghywir.

“Dwi’n falch iawn fy mod mewn coleg ac wrth fy modd yn mynd yno gan fod hynny’n rhoi pwrpas i’m bywyd. Fy nod yw ennill cymhwyster yn y maes adeiladu fel y gallaf weithio’n llawn amser i’r cwmni lle rydw i ar hyn o bryd.

“Dwi’n mwynhau gweithio yn yr awyr iach, felly mae safle adeiladu yn lle ardderchog.

“Gwnaeth cydlynydd gwasanaeth Action for Children lawer mwy na’r disgwyl. Er enghraifft, cafodd hyd i swydd i fy chwaer hefyd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r teulu hwn.”

Ynglŷn â siwrnai’r gŵr ifanc 17 oed gyda’r rhaglen, meddai cydlynydd y gwasanaeth: “Roedd yn barod iawn i gydweithio gyda ni. Roedd yn amlwg eisiau osgoi mynd lawr y llwybr troseddol, ar cyfan roedd ei angen oedd arweiniad, cefnogaeth a hwb i’w hyder.

“Roedd wedi dechrau ymhél â chyffuriau gyda’r bwriad o helpu sefyllfa ariannol y teulu. Felly, buom yn gweithio’n agos i’w gynghori ynglŷn â’r canlyniadau, a dangos fod atebion eraill yn bosibl.

“Trwy ganfod swydd a dysgu sgiliau bywyd, fel rheoli arian yn drefnus, mae’n enghraifft ddisglair o rym y rhaglen hon i wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl yn Sir y Fflint.”

Mae Prosiect 11 yn defnyddio dull aml-asiantaeth ac aml-fodd i leihau camfanteisio, trais a throseddu cyfundrefnol sy’n peryglu pobl ifanc er mwyn creu cymdogaethau diogel.

Ychwanegodd cydlynydd gwasanaeth Action for Children: “Ni fyddem wedi llwyddo i wella bywydau i’r un graddau oni bai fod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint wedi derbyn arian yr oedd gwir angen amdano o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae hon yn stori sy’n codi calon ac yn dangos dylanwad da’r prosiect yn Sir y Fflint.

“Gall y gŵr ifanc hwn fod yn falch iawn o’i lwyddiant, ac edrychaf ymlaen at glywed am fwy o lwyddiannau’r rhaglen.”