Alert Section

Canol Tref Queensferry

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Dau gwmni o Sir y Fflint yn symud i eiddo newydd gyda’r bwriad o ehangu ymhellach

Mae dau fusnes o Sir y Fflint yn disgwyl ehangu ymhellach ar ôl symud i adeilad newydd yng nghanol Queensferry.
Y ddau fusnes yw salon gwallt a harddwch Oasis Hair and Beauty a chwmni hyfforddiant Kings Academy, y ddau’n eiddo i’w sefydlydd, Sara King. Nid yw’r lleoliad newydd ond ychydig ddrysau lawr y stryd ar Ffordd yr Orsaf, Queensferry. 

Roedd yn hanfodol cael hyd i adeilad mwy gan fod y ddau fusnes yn mynd o nerth i nerth, yn cynnwys sefydlu partneriaethau â chymdeithasau tai a’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddysgu sgiliau newydd i drigolion di-waith Sir y Fflint.

Dymuniad y Kings Academy oedd parhau i weithio mewn lle canolog fel hyfforddwr trin gwallt a harddwch sydd hefyd yn cynnig darpariaeth amgen i ddisgyblion ysgol oed 14-16 o bob rhan o’r sir yn y pynciau mathemateg, Saesneg, trin gwallt a harddwch.

Mae’r symudiad yn digwydd 25 mlynedd ar ôl sefydlu salon Oasis Hair and Beauty. Yn eu lle newydd bydd modd gosod spa pen Siapaneaidd (Japanese head spa) ynghyd â phum cadair steilio ychwanegol.

Ar hyn o bryd mae’r ddau gwmni’n cyflogi 17 o bobl, yn cynnwys rhai a gafodd eu hyfforddi y Kings Academy.

Meddai Sara: “Mae symud i’r adeilad newydd yn digwydd ar adeg allweddol i’r ddau fusnes. Gan fod y galw am ein rhaglenni wedi cynyddu, bydd yn caniatáu imi wireddu fy mreuddwyd o gyflogi mwy o staff a rhoi gwasanaeth i fwy o gwsmeriaid mewn gofod newydd a chyfoes.

“Gyda’r Kings Academy yn cynnig hyfforddiant preifat i fwy na 60 o ddysgwyr bob wythnos, mae’n fanteisiol medru aros yng nghanol tref Queensferry gan barhau i wasanaethu ein cymuned leol yn ogystal â denu pobl i’r ardal er budd i’r economi leol.

Rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi derbyn Grant Gwella Eiddo Canol Trefi i uwchraddio ein hadeilad newydd. Fel arall, byddem wedi gorfod symud allan o ganol y dref i ganfod eiddo addas.”

Mae’r Grant Gwella Eiddo Canol Trefi a roddwyd tuag at gost gwella’r adeilad yn rhan o Raglen Fuddsoddi Canol Trefi Cyngor Sir y Fflint.

Ymhlith y gwelliannau a wnaed er budd cwsmeriaid a staff y mae gwell system wresogi, ail wifro trydanol, ffenestri a lloriau newydd, drws ffrynt deniadol yn lle’r shutter oedd yno cynt, ac ailaddurno sylweddol.

Meddai Jonathan Bates, swyddog datblygu prosiectau Cyngor Sir y Fflint: “Mae helpu busnesau Sir y Fflint i lwyddo yn flaenoriaeth gan Wasanaeth Menter ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint ac felly roeddem yn falch dros ben o allu helpu Sara a’i chwmnïau i symud i adeilad addas, mwy gerllaw.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), mae’r Grant Gwella Canol Trefi wedi helpu i adnewyddu eiddo yng nghanol trefi Sir y Fflint gan hybu busnes llawer o gwmnïau ym mhob rhan o’r sir.

“Rydym yn byw mewn cyfnod heriol yn economaidd, ond mae grantiau fel hyn yn ein galluogi i helpu cwmnïau yng Nghymru i wella eu hadeiladau, cynhyrchu mwy a chynyddu eu hapêl.”

Derbyniodd Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint £1,500,432 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

O’r cyfanswm yma, rhoddwyd grantiau gwerth £400,000 i wella 14 eiddo mewn trefi ym mhob rhan o Sir y Fflint, gyda’r perchnogion yn ychwanegu £240,000 o’u harian eu hunain tuag at y gwelliannau.

Canol Tref Queensferry / Queensferry Town Centre