Alert Section

Cymunedau Gwledig

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Buddsoddiad o bron i £500,000 yn helpu cymunedau gwledig Sir y Fflint i ffynnu

Mae trefi a phentrefi gwledig yn Sir y Fflint wedi derbyn cymorth i gefnogi parhad cyfleusterau allweddol, gwella’r amgylchedd adeiledig a chryfhau eu gwytnwch, diolch i gefnogaeth amrywiaeth o gynlluniau arloesol.

O integreiddio atebion ynni cynaliadwy i uwchraddio ac atgyweirio llecynnau cymunedol, derbyniodd mwy na 40 o fusnesau a mentrau cymdeithasol mewn ardaloedd diarffordd a lled ddiarffordd fuddsoddiad o bron i hanner miliwn o bunnoedd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

O gefnogi Neuadd Bentref Gwaenysgor, i greu gardd lysiau sy’n darparu cynnyrch yn rhad ac am ddim, i wella effeithlonrwydd ynni Canolfan Gymunedol Talacre, mae trigolion ar draws yr ardal wedi cael budd o lu o brosiectau.

Un lle a fanteisiodd o’r cynllun yw canolfan addysg a llesiant Coed Castell Helygain (Halkyn Castle Wood). Fe’i cefnogwyd gan Gyngor Sir y Fflint drwy gyfrwng Cadwyn Clwyd, y corff sy’n gweinyddu Cronfa Dwf Twristiaeth Sir y Fflint.

Yno, gosodwyd generadur solar 2,500W i gynhyrchu trydan adnewyddadwy er mwyn goleuo rhannau mwyaf pellennig y safle, gan wella gwelededd a diogelwch.

Mae’r ganolfan goedwig 47 hectar wedi defnyddio’r cymorth ariannol i brynu rhagor o offer, yn cynnwys pebyll cloch, marcîs, tîpi cymunedol o faint canolig, byrddau, cynhwysydd storio a mwy na 20 o feinciau.

Mae’r ganolfan yn trefnu dosbarthiadau coedwig, cynnal gwyliau, priodasau awyr agored, hyfforddiant athrawon a chynnig mannau encilio. Cynyddwyd ei hapêl a’i hymarferoldeb drwy godi ffens newydd yn ogystal.

eddai cyfarwyddwr Coed Castell Helygain, Vanessa Warrington: “Rydym yn cynnig mannau diogel i bobl ymgysylltu â byd natur a bu’r gronfa o gymorth allweddol inni fedru derbyn cyn gymaint â phosibl o ymwelwyr.

“Mae’r tîpi, y pebyll a’r marcîs hefyd yn golygu y gallwn weithredu mewn tywydd oerach gan ein bod yn ffodus i fod ag ardal gysgodol addas.

“Cawsom ymateb gwych gan ein hymwelwyr ac rwy’n ddiolchgar i’r cynllun am ganiatáu inni wireddu ein dyhead i wasanaethu anghenion ein cymuned. Gobeithio y bydd pobl yn dilyn ein taith a’n gwerthoedd trwy ymweld â’n tudalen Facebook.”

Mudiadau gwledig eraill a atgyfnerthodd eu darpariaeth fel rhan o’r buddsoddiadau gwledig yw Clwb Criced Pontblyddyn a uwchraddiodd eu pafiliwn, a Chymdeithas Gymunedol Treuddyn a wnaeth neuadd y pentref yn fwy ynni effeithlon, gyda chymorth Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys cynllun asesiadau cysylltedd (connectivity assessments) Uchelgais Gogledd Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig, lle rhoddwyd arweiniad arbenigol i 16 o fentrau masnachol mewn ardaloedd diarffordd ynghylch sut i gyflwyno technoleg arloesol diwifr.

anteisiodd River And Sea Sense (RASS), sy’n cynnig hyfforddiant diogelwch dŵr, ar gefnogaeth UKSPF trwy gynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd Prifysgol Bangor.

Derbyniodd y cwmni nid-er-elw gymorth i hyrwyddo ei wasanaethau a’i ddulliau cyfathrebu ar ffurf fideo addysgiadol a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr a staff academaidd y brifysgol.

eddai sefydlydd a pherchennog y cwmni, Debbie Turnbull: “Rwy’n ymweld â channoedd o ysgolion, colegau a phrifysgolion ym mhob rhan o Ogledd Cymru i addysgu pobl ifanc am beryglon dŵr agored, a sut i aros yn ddiogel. Bydd y fideo yn ychwanegiad gwerthfawr i’m cyflwyniadau.

“Fe’i defnyddir hefyd ar fy ngwefan ac i ledaenu neges RASS ar y gwahanol gyfryngau cymdeithasol – rhywbeth a fydd o help i ddenu cefnogaeth ariannol oddi wrth fudiadau fel Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) yn y dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus iawn i wella bywydau holl drigolion y sir. Braf iawn ydi gweld y gwahaniaeth a wnaeth y prosiectau hyn i drigolion ein hardaloedd gwledig.

“Boed wella sgiliau, neu fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd, credaf eu bod wedi diwallu anghenion pob cymuned yn effeithiol ac edrychaf ymlaen at weld y mentrau cymdeithasol a busnesau a gefnogwyd yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf.”

Derbyniodd cymunedau gwledig ym mhob rhan o’r sir dros £450,000 allan o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Rural Impact 3
Rural Impact 1
Rural Impact 2