Alert Section

Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd

Wedi ei ariannu gan Llwodraeth y Du

Hwb i gynlluniau twf RAM Innovations gan brosiect a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. 

RAM1
Lili Mawdesley yn ymgartrefu yn ei swydd newydd fel peiriannydd proses yn RAM Innovations, Stad Ddiwydiannol Pentre

Mae cynlluniau twf cwmni ymchwil, datblygu a chynhyrchu o Sir y Fflint yn symud ymlaen yn gynt, diolch i gefnogaeth cyllid o brosiect a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cryfhaodd RAM Innovations ei dîm trwy benodi Lili McDonald Mawdesley wedi i’r myfyriwr o Brifysgol Bangor gwblhau cyfnod interniaeth llwyddiannus gyda’r cwmni.

Ers dechrau 2022, bu cynnydd o 200% yn staff y cwmni, sydd â’i bencadlys ar Lannau Dyfrdwy, ac mae’r rheolwr cyffredinol Peter Green yn edrych ymlaen at gyflogi mwy na 60 o bobl yn y dyfodol.

Gyda nifer cwsmeriaid y cwmni yn cynyddu, a’r peiriannydd prosesau Lili bellach yn aelod llawn amser o’r staff ar ôl cwblhau lleoliad 420 awr dros gyfnod o 12 wythnos, mae’r dyfodol yn ymddangos yn llewyrchus iawn i RAM Innovations. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn creu cynnyrch pwrpasol a hyblyg yn y maes electroneg a lled-ddargludyddion (semiconductors), ac yn arbenigo mewn pecynnau dei corfforedig (embedded die packaging). 

Meddai Peter: “Roeddem yn dîm o bedwar pan ddechreuais yma. Ond yn gyflym iawn, trwy waith caled a gweledigaeth glir, rydym wedi ehangu i 12 o bobl.

“Mae’n braf medru cynnig swydd i Lili ar ddiwedd interniaeth ardderchog. Roeddwn wastad yn gobeithio y byddai modd inni ei chyflogi ar ddiwedd ei lleoliad.

“Yn y dyfodol, byddai’n braf medru gweld Lili yn arwain ochr electroneg y busnes wrth iddi ddatblygu o fewn y cwmni.

“Gobeithiwn ychwanegu rhagor o dalentau ar draws y bwrdd, ac mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw i Lili.”

Graddiodd y myfyriwr 21 oed ym Mhrifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf mewn peirianneg drydanol gan ennill gwobr Ada Lovelace, a gyflwynir i’r ferch fwyaf haeddiannol yn y sector.

Hefyd, enillodd Lili, sy’n byw yn Llanfairfechan, wobr y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) a roddir yn flynyddol i fyfyrwyr disglair sy’n cwblhau un o gyrsiau achrededig y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

Meddai ynglŷn â’i lleoliad: “Roedd yn gyfnod difyr a diddorol ac mae llwyddo i ganfod swydd yn y maes peirianneg drydanol yng Nghymru yn fonws ardderchog.

“Pan benderfynais ddilyn gyrfa yn y maes hwn, credwn yn byddai’n rhaid imi groesi’r ffin i Loegr, ac mae cael gwaith mor agos i gartref yn wych.

“Hanfod y cyfnod interniaeth oedd gwrando a dysgu oddi wrth eraill, ac rwyf wedi dod yn gyfarwydd a hyderus ym mhob agwedd o drefniadau’r cwmni.

“Mae pawb wedi bod mor barod i rannu eu gwybodaeth ac arbenigedd, ac roedd hynny’n bleserus ac allweddol i’m datblygiad.”RAM2

Lili Mawdesley peiriannydd proses yn RAM Innovations, Ystâd Ddiwydiannol Pentre, yn trafod prosiectau gyda rheolwr cyffredinol y cwmni, Peter Green

Cafodd interniaeth Lili ei noddi gan brosiect o’r enw Talebau Sgiliau ac Arloesedd (Skills and Innovation Voucher - SIV) – cynllun sy’n rhoi cyfle i fusnesau yn Sir y Fflint gydweithio fel rhan o gynllun Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF). 

Defnyddiodd Peter y cynllun UKSPF, hefyd, i gysylltu ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu resin naturiol diwenwyn ar gyfer microsglodion a osodir mewn cynhyrchion.

Meddai: “Mae gennyf 30 mlynedd o brofiad yn y maes peirianneg, ond yn gweithio ar gyfartaledd â dim ond un merch y flwyddyn.

“Gwych iawn felly yw medru penodi Lili i weithio gyda RAM Innovations, gyda llwybr clir i’w gyrfa ddatblygu yn y swydd.

“Nid hyfforddi ar offer dymi y buodd ond gweithio mewn sefyllfaoedd real yn cynnal profion cymhleth iawn a chydosod cynhyrchion ein cwsmeriaid.

“Rhoesom siawns i Lili ddysgu pob dim, ac mae ei brwdfrydedd a’i haeddfedrwydd yn gaffaeliad mawr i’n tîm.”

Meddai’r Cynghorydd David Healey, aelod cabinet Sir y Fflint dros newid hinsawdd a’r economi: “Mae llwyddiant Lili yn dangos yn union pam fod cynllun UKSPF mor bwysig i’r rhanbarth.

“Heb gael y cyfle i fynd ar leoliad at RAM Innovations, pwy a ŵyr a fyddai Lili wedi llwyddo i gael gwaith llawn amser fel peiriannydd prosesau yng Nghymru.”

Hyd yma rhoddwyd 40 o Dalebau Sgiliau ac Arloesedd i wahanol gwmnïau. Meddai Nicola Sturrs, rheolydd datblygu busnes gyda Phrifysgol Bangor: “Mae’r stori hon yn enghraifft ardderchog o lwyddiant y cynllun i gynnig profiadau sy’n arwain at ennill swydd llawn amser, tra ar yr un pryd yn talu’n llawn i fusnesau y gost o alluogi lleoliadau ymchwil a gwaith.

“Rydym wrth ein bodd fod interniaeth Lili wedi bod mor llwyddiannus a dymunwn y gorau iddi hi a RAM Innovations ar gyfer y dyfodol.”