Alert Section

Cryfder mewn Rhifau

FundedByUKGovernment

Rhaglen fathemateg lwyddiannus yn gwella sgiliau trigolion Sir y Fflint 

StrengthInNumbers4
Cyfranogwyr y Grŵp Grŵp Cryfder mewn Rhifau.

“Roedd o’n hwyl ac yn gyfeillgar – trin rhifau heb inni fod ofn!”

Dyna sylw canmoliaethus un a gymrodd ran mewn prosiect gan Gyngor Sir y Fflint o’r enw Cryfder mewn Rhifau lle cafodd aelodau o’r gymuned leol gyfle i wella eu sgiliau rhifedd a mathemateg.

Roedd rhai eisiau cefnogi addysg eu plant, eraill am fedru gweithio’n fwy hyderus a rhai yn awyddus i ennill cymhwyster. Ac er mwyn helpu i wireddu eu gobeithion, mae’r cynllun Cryfder mewn Rhifau wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â nifer o bartneriaid ac ysgolion cynradd ar draws y rhanbarth i gynnig cymorth ymarferol.

Mae’r partneriaid hynny’n cynnwys Xplore! Natur, Groundwork Gogledd Cymru, Cymru Gynnes a STAND Gogledd Cymru. 

Trwy gyfrwng 22 o raglenni, mae’r prosiect yn annog trigolion y sir i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n cynnwys sgiliau rhifedd, fel coginio, garddio a gwaith coed mewn amrywiol ganolfannau ym mhob rhan o Sir y Fflint.

Un o’r prosiectau llwyddiannus hynny yw rhaglen o’r enw Cryfder mewn Rhifau lle bu mwy na 170 o famau a thadau yn cymryd rhan mewn 10 ysgol.

StrengthInNumbers3

StrengthInNumbers2

Cyfranogwyr y Grŵp Grŵp Cryfder mewn Rhifau yn dysgu mathemateg.

Bu’r ymateb yn wych gyda’r rhieni’n llawn canmoliaeth i’r cynllun:

  • “Cynllun gwych a gwerth chweil. Roedd yn braf gallu trin a thrafod pethau mathemategol gyda’ch plentyn mewn cynllun cyfeillgar a roddodd hwb i’n hyder.”
  • “Roedd medru dysgu ochr yn ochr â’m plant yn brofiad hyfryd dros ben.”
  • “Y peth gorau oedd treulio amser efo ‘mhlentyn yn gwneud pethau ‘fydden ni ddim fel arfer yn gwneud gyda’n gilydd.”
  • “Roeddwn yn hoffi bob dim - biti na fyddai wedi para’n hirach! Cefais fy atgoffa am bethau roeddwn wedi eu dysgu fy hun yn y gorffennol mewn ffordd a roddodd hyder imi a help i fy mhlant.”

Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), hefyd yn rhoi cyfle i bobl ennill dau gymhwyster mathemateg ymarferol, a thrwy hynny wella sgiliau trigolion Sir y Fflint.

Rhaglen lwyddiannus arall oedd Grub Hub, gyda’r nod o wella sgiliau rhifedd trwy waith coginio.

Roedd y rhai a’i dilynodd yn datblygu eu sgiliau mathemateg drwy bwyso cynhwysion wrth baratoi prydau, mesur cost y bwyd ac addasu rysetiau.

Yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â menter gymdeithasol Outside Lives, roedd y buddiannau’n cynnwys gwella iechyd y rhai a gymrodd ran wrth iddynt ddysgu am bwysigrwydd calorïau a dod i adnabod rysetiau a chynhwysion maethlon.

Meddai cydlynydd y prosiect Cryfder mewn Rhifau, Claire Worral: “Roedd yn braf gweld cymaint o wahaniaeth a wnaeth Grub Hub i fywydau pobl gan ddangos pa mor bwydig yw rhifedd wrth inni wneud tasgau dydd i ddydd.

“Galwais heibio’r grŵp Grub Hub ac roedd y bwyd blasus yn ogleuo’n wych. Roedd mor braf gweld y grŵp wrthi’n coginio, gan roi sylw hefyd i’r ochr ariannol drwy fesur cost pob pryd unigol.

“Mae’r arian a gafwyd o’r gronfa UKSPF wedi gwneud gwahaniaeth mawr trwy ein galluogi i drefnu cynllun llwyddiannus. Edrychwn ymlaen i weld sut bydd y prosiect yn parhau i roi mwy o rym i bobl dros y pethau sy’n effeithio ar eu bywyd.”

Ynglŷn â’r sylwadau cefnogol a wnaed am y prosiect, ychwanegodd Claire: “Ein nod yw cael oedolion i ddelio’n hyderus ag anghenion rhifedd eu bywyd bob dydd, ac felly mae’n braf dros ben gweld yr holl ganmoliaeth.”

Meddai’r Cynghorydd David Healey, aelod cabinet Sir y Fflint dros newid hinsawdd a’r economi: “Gwyddom fod pawb yn dysgu mewn ffordd wahanol ac mae’r holl raglen wedi cynnig cyfleoedd gwych i bobl ddysgu heb deimlo eu bod dan bwysau i wneud hynny.

“Gyda’r pwyslais ar fod yn greadigol ac ymarferol, mae’r cynllun yn bendant wedi helpu pobl i fod yn fwy hyderus, naill ai mewn sesiynau un-i-un neu fel rhan o waith grŵp, gan helpu ein trigolion i ddysgu yn y ffordd sydd orau iddyn nhw.

“Gobeithio’n wir y bydd y rhaglen yn gadael ei marc yn Sir y Fflint.”

StrengthInNumbers1
Cyfranogwyr y Grŵp Grŵp Cryfder mewn Rhifau.