Alert Section

Cefnogi Busnesau Twristiaeth

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cwmnïau twristiaeth yn Sir y Fflint yn torri ar gostau gyda hwb gan ynni glân

Maes Carafanau Haulfryn, Treffynnon - Haulfryn Caravan Park, Holywell
Maes Carafanau Haulfryn, Treffynnon

Mae dau fusnes twristiaeth dan berchnogaeth deuluol yn Sir y Fflint yn bwrw ymlaen i wella eu heffeithlonrwydd ynni a lleihau eu costau gyda diolch i gefnogaeth hanfodol gan gynllun a ariennir gan y llywodraeth.

Dan reolaeth menter gymdeithasol Cadwyn Clwyd, mae Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth wedi hwyluso’r gwaith o drosglwyddo Parc Carafanau Haulfryn a thafarn y Cross Foxes yn Nannerch i ynni’r haul.

Mae’r Cross Foxes, a sefydlwyd ym 1780, wedi gosod 20 o baneli ffotofoltaig (PV) ar do’r adeilad gyda dau fanc batris, sy’n caniatáu i’w tafarn hanesyddol elwa ar hyd at 800kwh o drydan yn flynyddol.

Ar ôl bod yn helpu i redeg busnes y teulu ers mis Chwefror, mae’r perchennog Rebecca Gomm yn ddiolchgar am y grant, sydd wedi cyflymu cynlluniau i wneud y man cyfarfod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. 

Meddai hi: “Oni bai am y nawdd, mi fyddai hi wedi cymryd llawer mwy o amser arnom ni i droi at ynni’r haul, ac felly mae’r ffaith ein bod ni’n gallu rhedeg ar yr offer newydd rŵan yn ffantastig.

“Roedd y canllawiau a gawsom ni drwy’r broses gyfan o wneud cais yn ddefnyddiol iawn hefyd ac yn ei gwneud hi’n hawdd deall pa wybodaeth yr oedd yn rhaid i ni ei rhoi a beth fyddai’n digwydd ar y camau nesaf.

“Ar y cyfan, rydym ni’n awyddus i weld pa wahaniaeth y bydd y paneli yn ei wneud i’n costau ni yn yr hirdymor ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arbennig at fisoedd yr haf pan fydd y dechnoleg newydd yn stori digonedd o ynni ar gyfer ei ddefnyddio eto.”

Mewn ffordd debyg, mae sylfaenwyr a pherchnogion Parc Carafanau Haulfryn yn Nhreffynnon wedi canu clodydd Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth, gan gyfeirio at ostyngiad mewn costau trydan yn fudd mawr o osod 49 panel ffotofoltaig newydd ar eu bloc cyfleusterau cawodydd a thoiledau, sy’n cynhyrchu hyd at 18,700kwh bob blwyddyn.

Meddai Mr a Mrs Stephens, sy’n rhedeg y safle gwersylla tair erw: “Mi wnaethom ni agor yn gyntaf yn 2019 a darganfod bod sicrhau cyllid i dwristiaeth fasnachol yn anodd ar ôl covid, felly mae cael derbyn y gefnogaeth ariannol hon wedi gwireddu breuddwyd i ni.

Maes Carafanau Haulfryn, Treffynnon - Haulfryn Caravan Park, Holywell
Maes Carafanau Haulfryn, Treffynnon

“Rydym ni wedi bod yn awyddus bob amser i osod paneli solar, a chan ein bod ni’n croesawu tua 100 o ymwelwyr y flwyddyn, rydym ni’n obeithiol y bydd yr offer yn parhau i leihau ein costau a’n allyriadau carbon.”

Derbyniodd Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth £671,372 o ddyraniad Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Cafodd y cynllun ei ddyfeisio i gefnogi mentrau bach a micro wrth gyflwyno cynhyrchion newydd, prosesau, a thechnolegau i leihau carbon, ac roedd rheolwr cwmni Cadwyn Clwyd, Lowri Owain, yn egluro bod y cynllyn wedi cyflawni ei addewid. 

Meddai hi: “Mae’r rhaglen yn ymwneud â helpu sector twristiaeth y sir i ffynnu, sy’n rhywbeth y mae’r Cross Foxes a Pharc Carafanau Haulfryn yn ei wneud wrth i’w costau nhw ddal ati i leihau.

“Mae clywed yr adborth cadarnhaol o’r cynllyn wedi bod yn galonogol iawn, ac rwy’n ddiolchgar am fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi caniatáu i ni ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i ddiwallu anghenion diwydiant twristiaeth Sir y Fflint.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd, a’r hinsawdd: “Mae hi’n gampus cael gweld prosiectau fel rhain yn cael dylanwad mor gadarnhaol ar gwmnïau bach yn y sir.

“Gyda chost gynyddol trydan, mae hi’n amlwg fod Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth wedi bod â rhan hanfodol wrth helpu busnesau i ymdrin â biliau cynyddol, er mwyn rhoi hwb i’w sefydlogrwydd ariannol nhw gan helpu’r amgylchedd wrth gamu ymlaen.”

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi estyn y Gronfa Allweddol Twristiaeth dan ei gyllid pontio o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae BBaChau sy’n gymwys yn gallu gwneud cais am grantiau hyd at £17,500.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cadwyn Clwyd.