Alert Section

Camau Cefnogol / Supportive Steps

Wedi ei ariannu gan Llwodraeth y Du

Mwy na cham i’r cyfeiriad cywir wrth i gannoedd dderbyn cefnogaeth allweddol

“Teimlwn fy mod yn medru siarad â rhywun, a dysgais beidio mygu fy nheimladau. Rwyf bellach yn ymlacio mwy a theimlo’n llai pryderus.”

Dyma ddywedodd un o dros 300 o bobl a gyfeiriwyd at y rhaglen Camau Cefnogol / Supportive Steps, sy’n cael ei gweithredu gan Goleg Cambria i gynnig cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant i’w myfyrwyr.

Mae’r prosiect wedi derbyn £767,381 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Diolch i arian a dderbyniwyd, mae’r coleg wedi llwyddo i gyflwyno llawer o fesurau allweddol i gefnogi myfyrwyr sy’n ei chael yn anodd mynychu eu cyrsiau.

Mae’r cymorth yn cynnwys hyfforddwyr gwytnwch, cynghorwyr llesiant, gwasanaethau myfyrwyr a chefnogaeth cwnselwyr allanol. Mae’r 910 o sesiynau unigol a drefnwyd dan y rhaglen wedi helpu i sicrhau bod 92% o ddysgwyr y coleg wedi parhau gyda’u haddysg yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.

O’r myfyrwyr a dderbyniodd gefnogaeth dan y rhaglen, cwblhaodd 287 eu cyrsiau yn llwyddiannus. Meddai un ohonynt am y rhesymau dros geisio cymorth, ac am effaith y gefnogaeth a roddwyd:

“Roeddwn yn dioddef pryder a thyndra wrth ymwneud â phobl eraill, yn poeni am y pethau lleiaf, a theimlo fod myfyrwyr eraill yn tynnu’n groes imi.

“Cefais sgwrs gyda staff y gwasanaethau myfyrwyr a chael fy nghyfeirio at hyfforddwr gwytnwch fel rhywun a allai fy helpu drwy’r anawsterau hyn.

“Pan fyddaf yn gadael fy sesiynau hyfforddi gallaf feddwl am bethau o wahanol safbwyntiau ac mae hynny’n fy helpu i boeni a phryderu llai. Mae hefyd wedi fy helpu i adnabod patrymau yn fy ffordd o feddwl a’r modd y tueddaf i fychanu fy hun.

“Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar feithrin hyder, hunan werth ac adnabod y gwahaniaeth rhwng y ffordd yr oeddwn yn ymwneud â phobl yn y gorffennol o gymharu â’r presennol, a ‘ngwerth fy hun yn y berthynas newydd rwyf ynddi rwan."

Mae’r gefnogaeth a dderbyniodd y myfyriwr hwn wedi ei helpu i ddelio â’r ofn, pryder a thyndra a achoswyd gan wrthdaro â dysgwyr eraill, gan achosi i’r person yma newid ei arferion dydd i ddydd o ran teithio i’w wersi a cherdded o amgylch y campws.

SupportiveSteps

Ychwanegodd: “Dwi bellach yn medru dweud sut ydw i’n teimlo wrth bobl eraill a byddaf yn defnyddio hyn i fod yn fwy agored gyda fy nheulu fel y gallan nhw fy helpu.

“Rydw’i hefyd yn meddwl mewn ffordd fwy cadarnhaol, ac yn gweld pethau mewn goleuni gwahanol. Gallaf ddefnyddio’r bws unwaith eto ar ôl i rai digwyddiadau wneud imi ofni, a’m tad yn gorfod dod i’m casglu.”

Mae Bethan Charles, pennaeth gwasanaethau dysgwyr Coleg Cambria, yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a gafwyd o’r gronfa UKSPF, ac yn canmol effaith y rhaglen ar ddysgwyr yn y coleg.

Meddai: “Mae ein tîm wedi gwneud gwaith ardderchog yn cyflwyno systemau a rhwydweithiau cefnogi y gall ein myfyrwyr fanteisio arnynt.

“Does ond rhaid edrych ar nifer y myfyrwyr a ddefnyddiodd y cynllun i sylweddoli mor werthfawr a fu.

“Weithiau dwi’n meddwl beth fyddai wedi digwydd i rai o’r unigolion a gefnogwyd pe na bai’r cynllun wedi bod ar gael. Efallai y byddent wedi gadael y coleg heb orffen eu cyrsiau.

“Gobeithio y bydd modd ymestyn y cynllun gyda chymorth arian tebyg gan fod llawer o fyfyrwyr angen cefnogaeth i orffen eu hastudiaethau.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Dyma enghraifft ardderchog arall o effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

“Gyda mwy na 300 o ddysgwyr yn manteisio ar y cynllun, cyfrannodd yn arwyddocaol at iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr yr ardal hon.

“Dwi mor falch o weld effaith gadarnhaol Camau Cefnogol / Supportive Steps ar ddatblygiad ein pobl ifanc er mwyn iddynt ffynnu a llwyddo o fewn y system addysg.”