Optegydd yn Y Fflint yn edrych tua’r dyfodol, gyda chymorth grant gan y llywodraeth
Mae gweledigaeth Gordon Elliott ar gyfer busnes Optegwyr Roberts and Polson yn Y Fflint wedi cael ei gwireddu gan weddnewidiad trawiadol.
Roedd y perchennog yn awyddus i ddiweddaru strwythur a décor blinedig y 1980au, a digwyddodd hynny’n gynt na’r disgwyl, diolch i gymorth Grant Gwella Eiddo Canol y Dref (Town Centre Property Improvement Grant - TCPIG) a dderbyniodd oddi wrth Gyngor Sir y Fflint.
Roedd yr Optegwyr, a sefydlwyd yn 1995, yn benderfynol o aros ar y stryd fawr ac fe newidiwyd hen ffenest flaen, gwydr sengl, y siop am ffenestri gwybdr dwbl er mwyn rheoli’r tymheredd trwy gydol y flwyddyn.
Rhoddwyd blaenoriaeth hefyd i osod pympiau casglu gwres o’r aer (air source heat pumps) i wneud defnydd effeithiol o ynni a lleihau allyriadau carbon a chostau cynhesu.
Mewn partneriaeth â chwmni A.D.A Shopfitting o Lannau Dyfrdwy, cynyddwyd maint yr ystafell ymgynghori drwy gael gwared o hen waliau stýd, creu gofod ar gyfer offer newydd soffistigedig a darparu mwy o le eistedd i gwsmeriaid.
Er mwyn rhoi eu stamp personol ar y gwaith adnewyddu, defnyddiwyd dodrefn a gwaith cabinet a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y siop gan yr Optegwyr eu hunain.
Fel rhan o Raglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint, talodd y grant TCPIG fwy na hanner cost y gwelliannau. Daeth yr arian ar gyfer y rhaglen, a redir gan y cyngor sir, o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).
Mae’r busnes yng Ngogledd Cymru hefyd wedi cynyddu nifer y staff, ac yn bwriadu cynnig profion llygaid yn ystod pob un o’r pum diwrnod yr wythnos y mae’r siop ar agor.
Meddai Gordon, perchennog ac optometrydd Roberts and Polson Opticians:”Bum yn awyddus i wella diwyg y siop ers blynyddoedd ac mae’n arbennig o braf gweld y newidiadau’n digwydd o’r diwedd.
“Heb gymorth arian TCPIG, byddai’r gwaith angenrheidiol wedi cymryd dipyn hirach – yn arbennig gan fod ein cynlluniau’n rhai mawr, yn cynnwys nenfydau, lloriau a gwaith gwifro newydd.
“Trwy gydol y broses bu’n ymdrech gymunedol, gyda busnesau eraill ar y stryd fawr yn ein cefnogi ar hyd y daith. Ac mae adborth cadarnhaol ein cwsmeriaid yn gwneud yr holl ymdrech yn werth chweil.”
Ychwanega Gordon: “Roeddem yn ddiolchgar dros ben gweld maint ein tîm yn cynyddu ac mae’n wych gallu cynnig amgylchedd gwaith pleserus oherwydd y gwelliannau.
“Os gallwn fod ar agor bum diwrnod yr wythnos bydd trosiant y busnes yn cynyddu, a bydd mwy o gyfleoedd i’n cwsmeriaid dderbyn y gofal angenrheidiol.
“Dwi’n meddwl mai ni rŵan yw’r siop smartiaf yn nhref Y Fflint!”
Meddai Jonathan Bates, swyddog datblygu prosiectau Cyngor Sir y Fflint: ”Buom yn cefnogi Opotegwyr Roberts and Polson trwy gydol y broses o geisio grant ac mae’n braf dros ben gweld y gwahaniaeth a wnaeth y cais i’r cwmni. Edrychwn ymlaen at weld y busnes yn mynd o nerth i nerth.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Gwyddom mor bwysig yw galluogi busnesau lleol ym mhob rhan o Sir y Fflint i wasanaethu eu cymunedau hyd eithaf eu gallu.
“Gyda llawer o fentrau bach a chanolig yn wynebu heriau economaidd mawr y dyddiau hyn, mae cymorth fel y Grant Gwella Eiddo Canol y Dref a chefnogaeth y Gronfa UKSPF yn cael effaith gweladwy mewn trefi ar draws y sir gan helpu i gynnal nifer yr ymwelwyr â’r stryd fawr, a denu talentau i gryfhau gweithlu’r sir.”
Mae Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint wedi derbyn £1,500,432 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).