Alert Section

WeMindTheGap

Wedi ei ariannu gan Llwodraeth y Du

Busnesau Sir y Fflint yn cefnogi talentau lleol mewn partneriaeth ag elusen o Gymru

WeMindTheGap1
Ben Clarke sydd wedi cwblhau lleoliad gwaith yng Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn

Mae busnesau ym mhob rhan o Sir y Fflint yn helpu i drawsnewid bywydau pobl ifanc mewn partneriaeth ag elusen sy’n eu helpu i newid eu bywyd er gwell.

Gyda phresenoldeb ym mhob rhan o’r sir, bu WeMindTheGap yn gweithio gyda nifer o gwmnïau gwahanol fel rhan o raglen o’r enw WeGrow sy’n cynnig profiad o fyd gwaith i bobl ifanc.

Er mwyn gwella sgiliau’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan, mae’r cynllun WeGrow yn cynnig chwe mis o brofiad gwaith gyda phedwar cyflogwr gwahanol, ynghyd â gwersi TGAU Mathemateg a Saesneg.

Un merch o Sir y Fflint a lwyddodd i gael gwaith ar ôl bod ar y cynllun yw Leah Griffiths.

Cafodd ei lleoli am gyfnod gyda Wall-Lag sy’n arbenigo mewn ynni adnewyddadwy. Bellach mae Leah yn aelod llawn amser o staff y cwmni teuluol, yn gweithio fel peintiwr ac addurnwr.

Meddai Leah: “Fel mam, roedd llwyddo i gael gwaith yn anodd iawn ond, gyda chefnogaeth Wall-Lag a WeMindTheGap, rwyf bellach wedi canfod fy swydd ddelfrydol.

“Roeddwn yn nerfus i ddechrau ond roedd yn braf dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl wahanol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r rhaglen am fy natblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.”

I Ben Clarke, 24 oed, aelod o griw’r cynllun WeGrow, hwn oedd ei gipolwg cyntaf ar fyd gwaith go iawn.

Yn dod o Sir y Fflint, mae’r rhaglen wedi gwella ei sgiliau datrys problemau wrth iddo asesu difrod strwythurol a chosmetig i adeiladau yn ystod cyfnod ar leoliad gwaith gyda Thîm Rheoli Asedau Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.

Meddai Ben: “Cefais groeso gwych gan dîm Clwyd Alyn ac roedd fy nghydweithwyr wastad wrth law imi droi atynt am gymorth os oedd angen.

“Roedd gweithio tu allan i swyddfa draddodiadol hefyd yn fy siwtio i’r dim. Pleser oedd gweithio ar safleoedd tai yn gwneud yn siŵr fod pob eiddo yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol.

“Roedd y profiad a gefais ar y rhaglen yn werthfawr iawn oherwydd rhoddodd gyfle imi ganfod y pethau a hoffwn am fyd gwaith, a beth nad oeddwn yn ei hoffi.”

WeMindTheGap2
Ben Clarke who has completed a work placement at Clwyd Alyn Housing Association seen here with Laura Columbine (left), Flintshire community maker, and Kathryn McDermott (right) Clwyd Alyn Asset Management Officer. 

Gyda’r elusen eisoes yn gweithio yn yr ardal, roedd yr arian a gawsant o gyfran Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn gyfle i WeMindTheGap gyrraedd mwy fyth o bobl ifanc yn y sir.

Laura Columbine yw Gwneuthurwr Cymunedol (Community Maker) yr elusen yn Sir y Fflint. Mae o’r farn fod y rhaglen yn chwarae rhan allweddol trwy ddatblygu sgiliau pobl ifanc a’u paratoi ar gyfer byd gwaith.

Meddai: “Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt erioed wedi cael y siawns o fod mewn swydd ac mae cefnogaeth y gronfa UKSPF wedi bod o help hanfodol inni bontio’r bwlch yma a pharhau i gynnig ein gwasanaethau allweddol.

“Trwy dderbyn arian UKSPF ar gyfer ein prosiect rhithwir WeDiscover, a’n rhaglenni WeGrow a WeBelong, rydym wedi llwyddo i gynnig cymorth a dilyniant parhaus yn Sir y Fflint.

“Nid yn unig y mae ein rhaglenni yn gwella siawns pobl ifanc o gael gwaith, mae eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol hefyd yn blodeuo wrth iddynt ddysgu gweithio mewn tîm a chwrdd ag enghreifftiau ysbrydoledig o bobl leol o bob math o gefndiroedd sydd wedi llwyddo.

“Mae’r arian UKSPF a gafodd WeMindTheGap gan Gyngor Sir y Fflint hefyd wedi ein galluogi i sefydlu hwb gwaith ym Mhafiliwn Jade Jones, lle mae gofod diogel, cyfeillgar a chroesawus i ymgysylltu’n fwy effeithiol â’r cymunedau yr ydym yn eu cefnogi.

“Edrychwn ymlaen at weld effaith ein prosiectau ar drigolion yr ardal.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’n wych gweld bywydau pobl ifanc ein sir yn cael ei drawsnewid gan y cydweithrediad rhwng WeMindTheGap a phartneriaid busnes lleol. Bydd hynny’n sicr yn gwella eu hunan hyder a’u siawns o gael swydd.”