Cynllun yn Sir y Fflint yn helpu mam sengl i oresgyn rhwystrau a chael ei phenodi i’w swydd ddelfrydol
Penodwyd Vicky Roberts i swydd ddelfrydol gan roi hwb i’w lles meddyliol. Llwyddodd i oresgyn ei hanabledd, diolch i gefnogaeth allweddol gan y prosiect Working Sense.
Caiff y rhaglen Working Sense ei rhedeg gan y Ganolfan Sign-Sight-Sound gyda’r nod o helpu pobl ag anableddau, heriau iechyd neu golled synhwyrol i ddysgu sgiliau newydd a cheisio canfod gwaith cyflogedig.
Er bod ganddi gymwysterau gofal plant, bwyd a hylendid, roedd y fam sengl yn ei chael yn anodd cael gwaith ac roedd ei hiechyd meddwl yn dioddef oherwydd anhawster cyfathrebu am iddi gael ei geni’n fyddar.
Fel rhan o’r prosiect, derbyniodd Vicky gefnogaeth a luniwyd yn benodol i ateb ei gofynion hi gan gynghorydd cyflogaeth a swyddog llesiant, gan adeiladu ei hyder, gwella ei CV a’i chofrestru gydag asiantaeth canfod swyddi.
Fel cam pellach tuag at ennill swydd, deliodd y prosiect gydag anhawster Vicky i gael mynediad at adnoddau digidol. Cafodd ei hymaelodi mewn cynllun benthyg gliniadur (tablet loan scheme) yn Llyfrgell Y Fflint, fel bod ei thasg o lenwi ffurflenni cais ar lein gymaint haws.
Yn ystod y rhaglen, anogwyd y ferch o Sir y Fflint i ennill cymwysterau ychwanegol, yn cynnwys cymhwyster hawliau plant OpenLearn, a thystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Gwnaeth hyn hi’n fwy cyflogadwy a datblygwyd ei sgiliau digidol.
Meddai Vicky Roberts: “Roedd yn hanfodol canfod swydd leol addas i’m anghenion, a swydd gydnaws â’m cyfrifoldebau fel mam. Ac roedd cael fy mhenodi i swydd oedd yn ticio’r ddau flwch hwnnw’n wych dros ben.
“Cyn ymuno â’r cynllun, ni wyddwn yn iawn lle na sut i ddechrau chwilio am waith, ond gyda chefnogaeth Working Sense rwyf rŵan yn gallu cyrraedd fy llawn botensial mewn swydd sydd wrth fy modd.
“Teimlaf fod gennyf fwy o hyder yn fy ngallu fy hun ac rwy’n hynod ddiolchgar i gynllun sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’m bywyd.”
Yn ogystal a chanfod swydd i Vicky, roedd lleihau ei phryder a natur ynysig ei bywyd yn un o flaenoriaethau Working Sense. Felly awgrymwyd ei bod yn mynychu cwrs Croeso – Beginners Welsh yn Llyfrgell Treffynnon i gryfhau ei sgiliau cyfathrebu.
Bu gwasanaeth Mynediad at Iechyd y Ganolfan Sign-Sight-Sound hefyd o gymorth i Vicky dderbyn gofal iechyd, gan alluogi’r ddarpar athrawes i gael apwyntiad gyda Thîm Asesu Gwasanaeth Oedolion Cyngor Sir y Fflint.
“Ers imi ddod yn rhiant sengl, rhaid cyfaddef iddi fod yn anodd cwrdd â chyfoedion. Mae mynd i’r grŵp dysgu Cymraeg yn golygu fy mod yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda phobl eraill,” ychwanega Vicky.
“’Dwi’n dal i fod yn orbryderus, ond rhoddodd y rhaglen siawns imi ddatblygu dulliau dygymod effeithiol fel fy mod yn teimlo’n gryfach ac yn gallu rheoli fy mhryderon yn well nag o’r blaen.”
Meddai Clare Lewis, rheolydd gweithredu prosiectau Working Sense y Ganolfan Sign-Sight-Sound: “Ein holl bwrpas yw cynnig cyfleoedd cyfartal i bobl ag anableddau neu heriau iechyd. Mae gweld ein gwaith yn trawsnewid bywydau pobl fel Vicky yn deimlad arbennig o braf.
“Ni ddylai neb gael ei stigmateiddio oherwydd anabledd. Felly mae’n hanfodol creu cynllun gweithredu pwrpasol i unigolion ddysgu sgiliau newydd a chael mwy o hunan hyder fel y gallant symud ymlaen yn llwyddiannus.
“Heb arian Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), ni allem fod wedi rhedeg y cynllun ac rydym yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth hon.”
Derbyniodd Working Sense £142,210 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) oddi wrth Gyngor Sir y Fflint.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae pob unigolyn yn cyfrif, a phrosiectau fel Working Sense yn gwneud gwaith ardderchog yn gofalu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
“Mae gwneud Sir y Fflint yn lle croesawgar a chynhwysol yn rhan bwysig o’n gwaith. Unwaith eto, mae arian UKSPF wedi caniatáu inni symud gam yn nes at ein gweledigaeth.”