Cynllun prynu'n hyderus y fasnach geir
PRYNU GYDA HYDER:
Mae’n aml yn anodd i ddefnyddwyr wybod pan maent yn delio â masnachwyr cyfrifol neu un o'r gyfran fach o fasnachwyr twyllodrus.
Mae CSFf wedi ymuno ag Awdurdodau Cyfagos Gogledd Cymru ac rydym yn gweithio mewn cydweithrediad i greu llyfrgell o aelodau, yn ein portffolio Prynu Gyda Hyder Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio cael ystod eang o fasnachwyr fel aelodau. Fel y gall preswylwyr a busnesau Sir y Fflint elwa o’r cynllun.
Nod y cynllun yw darparu cofrestr i ddefnyddwyr allu chwilio trwyddi pan maent yn edrych am fasnachwr, bydd hyn yn rhoi mwy o hyder i ddefnyddwyr wrth edrych am fasnachwr, gan y byddant yn gwybod eu bod wedi eu dilysu gan y safonau masnach.
Os ydych yn fusnes yn Sir y Fflint ac yr hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun, neu os hoffech wneud cais i fod yn aelod, cliciwch ar y ddolen gyswllt am fwy o fanylion neu cysylltwch â’r Adran Safonau Masnach ar 01352 703181.
Cysylltwch â ni
Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133
Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)
E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk
Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF
Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint
Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener