Alert Section

Gwerthu i rai dan oed


Mae gan Wasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint ddyletswydd i orfodi deddfwriaeth sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc rhag nwyddau niweidiol a difrodol megis alcohol, sigarennau, tân gwyllt a thoddyddion; trwy wahardd pobl rhag gwerthu'r nwyddau hyn i bobl sy'n iau nag oedrannau penodol.

Os ydych yn gwybod neu'n amau bod siop yn gwerthu nwyddau yn anghyfreithlon i bobl dan oed, gallwch hysbysu'r Gwasanaeth Safonau Masnach.  Yna gallwn gymryd camau priodol i'w hatal rhag gwneud hyn.  I'n hysbysu o achos o werthu nwyddau i rai dan oed, cysylltwch â ni.


Cyngor pellach i fusnesau

Rydym yn cynghori a chefnogi busnesau i'w helpu i ddeall y ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â nwyddau sy'n cael eu cyfyngu gan oedran.  I ofyn am gyngor am werthu nwyddau sy'n gysylltiedig ag oedran, cysylltwch â ni.

Mae taflenni cyngor am nwyddau a gyfyngir gan oedran ar gael ar wefan Safonau Masnach Cymru.  Mae'r rhain yn cynnwys rhestr o nwyddau, oedrannau lleiaf y bobl a all eu prynu a'r gosb fwyaf y gall rhywun ei chael am werthu nwyddau i bobl sy'n iau na'r oedran lleiaf hwnnw.

Gwirfoddolwyr profion prynu

Os ydych yn rhiant i unigolyn ifanc neu os ydych yn unigolyn ifanc sydd â diddordeb mewn helpu Gwasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint i fynd i'r afael â gwerthu nwyddau i bobl dan oed ac os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:

Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener