Alert Section

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor


Beth yw'r rhain a phwy all eu hawlio

Os mai chi sy’n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor ac os ydych chi ar incwm isel, gallai fod modd i chi gael help i dalu eich bil Treth y Cyngor i gyd neu ran ohono.

Pwy sy’n gymwys?

Gallwch chi gael lleihau'r dreth gyngor os ydych chi’n talu Treth y Cyngor ac os yw eich incwm a’ch cyfalaf (eich cynilion a’ch buddsoddiadau) islaw lefel benodol.

Byddwn yn edrych ar y canlynol wrth gyfrifo eich lleihau'r dreth gyngor:

  • Eich incwm chi ac incwm eich partner neu’ch partner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth, a phethau megis pensiynau galwedigaethol.
  • Eich cynilion chi a chynilion eich partner neu’ch partner sifil.
  • Eich amgylchiadau: er enghraifft, eich oedran, maint eich teulu, oedrannau aelodau eich teulu, p’un a ydych chi neu unrhyw aelod o’ch teulu’n anabl, a ph’un a allai unrhyw un sy’n byw gyda chi eich helpu i dalu Treth y Cyngor.

Gallai’r lleihau'r dreth gyngor mwyaf posibl olygu na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Dreth y Cyngor o gwbl.

Os oes gennych hawl i gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, neu’r elfen ‘credyd gwarant’ sy’n perthyn i Gredyd Pensiwn, gallech chi gael yr help mwyaf posibl i dalu eich Treth y Cyngor.

Pwy sy’n anghymwys?

  • Os oes gennych dros £16,000 o gynilion, ni fydd modd fel rheol i chi gael lleihau'r dreth gyngor oni bai eich bod yn 60 oed neu drosodd a’ch bod yn cael yr elfen ‘credyd gwarant’ sy’n perthyn i Gredyd Pensiwn.
  • Ni all y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl a noddir i fod yn y DU gael lleihau'r dreth gyngor.

Gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster cyfrifo budd-daliadau i weld a oes modd i chi gael unrhyw help, a chael amcangyfrif o’r swm y gallai fod gennych hawl i’w gael.

Dilynwch y ddolen gyswllt hon i gael mwy o wybodaeth am sut i hawlio lleihau'r dreth gyngor.

Sut i Hawlio

Gofynnir i chi lenwi un ffurflen hawlio a chewch eich asesu ar gyfer Budd-dâl Tai a lleihau'r dreth gyngorar yr un pryd.

Os ydych yn hawlio ar gyfer cyfeiriad yn Sir y Fflint, bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen atom, gydag unrhyw dystiolaeth i ategu’ch cais. Gan na ellir ôl-ddyddio budd-daliadau fel arfer, dylech hawlio cyn gynted ag sy’n bosibl. Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld a ydych yn gymwys. Os oes gennych gyfalaf gwerth £16,000 neu fwy sylwch na fydd gennych hawl i gael budd-dâl oni bai’ch bod yn derbyn ‘Credyd Pensiwn Gwarantedig’.

Hawlio Ar-lein

Ffurflen Hawlio Ar-lein ar gyfer Budd-dâl Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Gwyddom y gall ffurflenni budd-daliadau fod yn eithaf hir a chymhleth, felly rydym wedi defnyddio technoleg ffurflenni ar-lein newydd i’ch galluogi i wneud cais ar-lein mor hawdd ag sy’n bosibl:

  • Gallwch lenwi’r ffurflen gyfan oddi ar lein. Gallwch barhau i lenwi’ch ffurflen hyd yn oed os ydych yn cael problemau â’ch cysylltiad rhyngrwyd. Nid oes raid i chi ei llenwi i gyd ar unwaith chwaith. Gallwch ei chadw ar eich cyfrifiadur a dod yn ôl ati hi yn nes ymlaen
  • Bydd y ffurflen yn eich helpu ac yn eich arwain drwyddi, gan sicrhau’ch bod ond yn llenwi’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais. Mae hyn yn golygu fod y ffurflen yn llawer symlach i’w llenwi
  • Mae’r ffurflen yn gwirio ei hun am wallau ac yn tynnu sylw at unrhyw beth yr ydych wedi’i fethu.  Pan na fydd unrhyw wallau yn eich ffurflen bydd yn haws i ni ei phrosesu
  • Ar ôl ei chwblhau, gallwch anfon y ffurflen yn syth i’n gweinydd a gallwn ddechrau prosesu’ch cais ar unwaith
  • Os bydd angen i ni weld tystiolaeth gennych i ategu’ch cais, bydd y ffurflen yn rhoi rhestr benodol i chi o’r hyn y bydd angen i chi ei anfon
  • Er mwyn diogelu’ch preifatrwydd caiff y wybodaeth a roddwch ar y ffurflen ei hamgryptio.

Cais ar-lein

Dros y ffôn:

Ffoniwch y tîm budd-daliadau ar 01352 704848, 9.00 – 4 Llun i Gwener

Wyneb yn wyneb yn:

Derbynfa Budd-daliadau, Mynedfa Rhif 2, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, 9.00 – 4.00 Llun i Gwener – Nid oes angen trefnu apwyntiad.

Home Visit:

Os nad ydych yn gallu ymweld ag un o'n swyddfeydd, ond angen help i gwblhau eich ffurflen hawlio budd-dal, cysylltwch â ni a gallwn drefnu ymweliad cartref i'ch helpu chi.

Budd-dal y Dreth Gyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn

Caiff Budd-dal y Dreth Gyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn eu talu’n syth i’ch cyfrif Treth Gyngor. Cewch fil newydd yn dangos y gostyngiad yn y Dreth Gyngor y mae’n rhaid i chi ei dalu.

Ni fydd Budd-dal y Dreth Gyngor nac Ad-daliad Ail Oedolyn yn effeithio ar unrhyw o’ch budd-daliadau eraill.

Gwasanaeth E-Hysbysiadau

Beth yw E-Hysbysiadau?

E-Hysbysiadau yw’r ffordd newydd o dderbn eich hysbysiadau ynglŷn â Budd-dâl Tai/Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Yn hytrach na llythyr hysbysu traddodiadol byddwn yn anfon hysbysiad atoch drwy e-bost. Gallwn hefyd anfon hysbysiadau at eich landlord drwy e-bost ar gais.

Beth yw manteision E-Hysbysiadau?

Bydd E-Hysbysiadau yn ffordd gyflymach, fwy effeithlon a chyfleus o dderbyn a gwirio’ch hysbysiadau. Dyma rai o’r manteision:

  • Gallwch ddarllen eich hysbysiadau Budd-dâl Tai/Gostyngiad yn y Dreth Gyngor cyn gynted ag y byddant ar gael a chadw copi ar ffeil
  • Gallwch lawrlwytho ac argraffu’ch hysbysiadau os dymunwch
  • Gallwch ailddosbarthu copïau o’ch hysbysiadau yn gyflym ac yn electronig
  • Anfonir hysbysiadau’n uniongyrchol i’r derbynnydd bwriadedig ac nid oes unrhyw oedi yn y post
  • Mae’n helpu’r Cyngor i ostwng costau argraffu a phostio
  • Mae’n helpu i ddiogelu’r amgylchedd drwy arbed papur.

Sut allaf gofrestru i dderbyn E-Hysbysiadau?

I gofrestru i dderbyn E-Hysbysiadau, llenwch y ffurflen gais fer.

Ffurflen Hawlydd

Gwybodaeth bwysig ynglŷn â thanysgrifio i dderbyn EHysbysiadau

  • Chi sy’n gyfrifol am gadw cyfrif e-bost dilys er mwyn defnyddio’r gwasanaeth EHysbysiadau
  • Chi sy’n gyfrifol am gywirdeb a dilysrwydd y cyfeiriad e-bost a ddarparwch
  • Os bydd eich cyfrif e-bost yn cael ei annilysu neu ei gau neu os hoffech i ni anfon hysbysiadau i gyfrif e-bost gwahanol, chi sy’n gyfrifol am gysylltu â’r Gwasanaeth Budd-daliadau ar unwaith
  • Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost ar housingbenefits@flintshire.gov.uk
  • Os darperir cyfeiriad e-bost anghywir neu os nad yw’n weithredol bellach a bod yr hysbysiad yn cael ei anfon a’i dychwelyd at y Cyngor, byddwn yn tynnu eich enw oddi ar rhestr danysgrifio’r gwasanaeth E-Hysbysiadau fel mater o drefn a bydd y Cyngor yn dychwelyd at ddarparu hysbysiadau papur i chi drwy’r post yn lle.

Newidiadau yn eich amgylchiadau

Beth ddylwn ei wneud os yw fy amgylchiadau'n newid?

Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Chi sy'n gyfrifol am roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar faint o fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.

Os methwch â dweud wrthym ar unwaith, mae'n bosibl y byddwn yn talu gormod o fudd-daliadau i chi ac y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw ordaliad i ni. Hyd yn oed os ydych wedi dweud wrth asiantaeth arall, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Gwasanaeth Pensiynau, rhaid i chi roi gwybod i ni hefyd.

Os yw'r newid yn golygu bod gennych hawl i dderbyn mwy o fudd-daliadau ac os na fyddwch wedi ein hysbysu o hyn o fewn mis ar ôl y newid, mae'n bosibl y byddwch yn colli'r budd-dal.

Mae'n bosibl y cewch eich erlyn os rhowch wybodaeth anghywir i ni yn fwriadol neu os methwch â dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau er mwyn cael mwy o fudd-daliadau nag y mae gennych hawl i'w derbyn.

Pa fath o newidiadau ddylwn eich hysbysu ohonynt?

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau i'ch amgylchiadau chi, eich partner neu aelod o'ch cartref y dylech ein hysbysu ohonynt:

  • Cynnydd neu ostyngiad mewn cyflogau, pensiynau neu fudd-daliadau
  • Unrhyw newid arall yn eich incwm
  • Dechrau neu rhoi'r gorau i weithio
  • Newid swyddi
  • Dechrau derbyn neu roi'r gorau i dderbyn Budd-dal y Wladwriaeth
  • Cynnydd neu ostyngiad mewn cynilon, oni bai eu bod yn aros yn is na £6,000 neu yn aros yn is na £10,000 am pensiynwyr (60+)
  • Os yw'ch cynilon yn mynd dros £16,000
  • Nifer y bobl sy'n byw gyda chi
  • Os oes unrhyw un o'ch plant yn gadael yr ysgol
  • Os ydych yn rhoi'r gorau i dderbyn Budd-dal Plant ar gyfer plentyn
  • Symud o'ch cartref (hyd yn oed os ydych yn symud i fflat neu ystafell arall yn yr un cyfeiriad)
  • Genedigaeth baban
  • Mynd i'r ysbyty neu gartref preswyl / nyrsio
  • Newid yng nghyfanswm y rhent y mae'ch landlord yn ei godi arnoch

Sylwch;
Nid yw hon yn rhestr lawn ac os ydych yn ansicr p'un a fydd newid yn eich amgylchiadau yn effeithio ar eich budd-dal, cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Cofiwch - os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch wybod i ni!

Sut allaf roi gwybod am newid?

Cysylltwch â ni ar unwaith i drefnu apwyntiad i chi gael galwad ffôn dilysu. Mae galwad ffôn dilysu yn gynt ac yn haws i chi gan na fydd raid i chi, o bosibl, ddangos tystiolaeth, ac mae hynny’n golygu y gallwn brosesu’ch cais yn gynt.

Os yw’n well gennych beidio â chael galwad fôn, gallwch Lawrlwythwch ffurflen newidiadau.

a'i phostio i:

Tîm Budd-daliadau, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. CH7 6NA

Os ydych yn lawrlwytho ffurflen newidiadau cofiwch:

  • Roi manylion llawn am y newid i ni
  • Nodi'r dyddiad y digwyddodd y newid
  • Darparu tystiolaeth, e.e. slipiau cyflog, llythyr dyfarnu budd-dal ac ati.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i ni gael gwybod am y newid byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a oes angen ffurflen gais neu dystiolaeth arall arnom.

Os ydych wedi rhoi popeth sydd ei angen arnom i ni, byddwn yn ailgyfrifo'r budd-dal ac yn eich hysbysu o'ch dyfarniad newydd.

Gweld eich cais ar-lein

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae angen i chi gofrestru drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen gofrestru ar-lein

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon enw defnyddiwr a chyfrinair ar hap i’r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i ysgrifennu atoch fel arfer. Pan gewch chi’r rhain, dylech fewngofnodi i ‘Fy Nghyfrifon i’ a newid y ddau gan ddefnyddio geiriau sy’n haws i chi eu cofio. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn gwneud hyn i ddiogelu’ch manylion.

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrifion

neu

Mewngofnodi yn Fy Nghyfrifion

Ar gyfer beth alla’ i ddefnyddio’r system?

Ar ôl i chi gofrestru, ac ar ôl i chi gael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair, byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer y canlynol.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor, gallwch:

  • Weld manylion eich cais am fudd-dal
  • Gweld pryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus
  • Gweld faint rydych wedi’i dalu a phryd
  • Dweud wrthym am unrhyw newidiadau
  • Ad-dalu unrhyw Fudd-dal Tai a gafodd ei ordalu i chi

Twyll Budd-daliadau 

Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau i bawb sydd â hawl i hawlio budd-daliadau wneud cais amdanynt, ond atal y rhai sy'n dwyn oddi wrth y system. Mae twyll yn cael effaith ar faint o Dreth y Cyngor a threth incwm yr ydych yn ei dalu a faint o adnoddau sydd ar gael i'r gymuned.
  • Mae budd-daliadau ar gyfer yr anghenus - nid y barus.
  • Mae twyll budd-daliadau yn ddwyn gan bawb - y trethdalwyr a’r rhai nad ydynt yn talu treth. Mae'n ddwyn gan y rhai sydd â hawl i fudd-daliadau.
  • Nid problem y Llywodraeth yn unig yw twyll budd-daliadau - mae'n broblem i bawb.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i warchod arian cyhoeddus drwy weithredu yn erbyn twyll budd-daliadau ac ni fydd unrhyw un sy'n twyllo’r system fudd-daliadau yn cael gwneud hyn heb gosb.

Beth yw Twyll Budd-daliadauTwyll budd-daliadau yw pan fydd pobl yn hawlio budd-dal gan gynnwys Budd-dal Tai a Chymorth Treth y Cyngor nad oes ganddynt hawl iddynt drwy roi gwybodaeth ffug neu beidio dweud wrthym pan fydd eu hamgylchiadau'n newid.

Mae pobl sy'n hawlio budd-dal yn fwriadol pan nad oes ganddynt hawl i’w cael yn cyflawni trosedd.

Bydd unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug neu'n cynhyrchu dogfen ffug er mwyn cael budd-dal yn cyflawni trosedd sy'n dod gyda chosb. Bydd unrhyw berson sy'n methu â hysbysu'r Cyngor o newid yn eu hamgylchiadau er mwyn parhau i dderbyn budd-dal yn cyflawni trosedd sy’n dod gyda chosb.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i sicrhau bod pobl sydd â hawl i fudd-daliadau yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.

Ond, rydym yn ystyried Twyll Budd-daliadau yn drosedd ddifrifol, nid yn unig yn erbyn y Cyngor a'r Llywodraeth, ond hefyd yn erbyn y gymdeithas yn gyffredinol, ac am y rheswm hwn rydym wedi ymrwymo o ddifrif i fynd i'r afael â'r mater o dwyll Budd-daliadau mewn modd proffesiynol, gan weithio i ganllawiau a ddeddfwriaeth a osodwyd gan y Llywodraeth

Mae arian a gollwyd i dwyllwyr budd-daliadau yn arian sydd i fod i gael ei wario arnoch chi ac ar y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Mae twyll budd-dâl yn drosedd sy'n cynnwys ceisiadau ffug am Fudd-daliadau fel Budd-dal Tai a Chymhorthdal Incwm. Mae'n rhan fawr o droseddu cyfundrefnol heddiw.

Sut i roi gwybod am amheuon o dwyllOs ydych yn amau bod rhywun yn hawlio budd-dal trwy dwyll, rhowch wybod i ni. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad os nad ydych eisiau DWP. Nid oes rhaid i chi roi eich enw a bydd yr holl fanylion cyswllt yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.

Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi?Mae'r rhestr isod yn dangos y math o wybodaeth rydym ei hangen er mwyn cychwyn ymchwiliad. Peidiwch â digalonni oherwydd nad ydych yn gwybod popeth ar y rhestr, ond rhowch cymaint o wybodaeth ag y gallwch.

Mae'r rhestr isod yn dangos y math o wybodaeth rydym ei hangen er mwyn cychwyn ymchwiliad. Peidiwch â digalonni oherwydd nad ydych yn gwybod popeth ar y rhestr, ond rhowch cymaint o wybodaeth ag y gallwch.
  • Enw(au) a chyfeiriad(au) yr unigolyn/unigolion dan sylw.
  • Y math o dwyll budd-dal sy’n cael ei gyflawni.
  • Disgrifiad(au) o’r bobl dan sylw.
  • Cerbydau.

Gwybodaeth Ychwanegol...

Os yw rhywun yn gweithio ac yn hawlio:

  • Enw a chyfeiriad y cyflogwr.
  • Ers pryd mae’r unigolyn wedi gweithio yno?
  • Math o waith a wneir? - Sawl awr? - Lefel enillion?
  • Yr amser y mae'r unigolyn yn ei weithio (cychwyn a gorffen).
  • A yw’n gwisgo dillad gwaith - ddisgrifiad.
  • A yw’n defnyddio cerbyd cwmni?
  • s nad yw rhywun yn datgan bod partner yn preswylio:
  • Enw a disgrifiad o'r partner.

Oed yn fras.

  • Ers pryd mae’r partner yn preswylio?
  • Os yw’r partner yn gweithio, enw llawn a chyfeiriad eu cyflogwr, a’r amseroedd y maent yn gweithio. Unrhyw ddillad gwaith sy’n cael eu gwisgo / a oes ganddynt gerbyd cwmni?
  • Os yw'r partner hefyd yn hawlio budd-daliadau, a ydych yn gwybod o ba gyfeiriad a pha fudd-daliadau yn cael eu hawlio?
  • Os nad yw rhywun yn byw mewn cyfeiriad:
  • Ers pryd mae'r person ddim yn preswylio yno?
  • Ym mha gyfeiriad y mae'r person yn byw?
  • Enw'r deiliaid tŷ yno.
  • A yw’r holl eiddo wedi’i symud o'r cyfeiriad?
  • A oes unrhyw un yn ymweld i nôl post yn y cyfeiriad? - Pryd a pha mor aml?
  • Os nad yw rhywun yn datgan cyfalaf eraill sydd ganddo:
  • Math o gyfalaf? Cyfrifon banc/tŷ/ymddiriedolaeth uned/stoc/cyfranddaliadau/bondiau premiwm ac ati
  • Pa fanc(iau)?
  • Cyfeiriad yr eiddo y mae’n berchen arno/arnynt?
  • Os yw’n berchen ar eiddo arall, a yw'n ei rentu allan? - i bwy? - Ers pryd y mae wedi cael ei osod ar rent? - Enwau unrhyw denant arall? - Swm y rhent a godir?
  • Ers pryd y maent yn berchen ar yr eiddo?

Os nad yw rhywun yn datgan incwm arall:

  • Pa fath o incwm ydyw?
  • Faint? - Ers pryd y maent wedi bod yn ei gael? - Gan bwy?

Os nad yw rhywun yn datgan bod oedolion eraill (nad yw’n bartner iddynt) yn byw gyda hwy:

  • Enw(au) a disgrifiadau.
  • Ers pryd y maent wedi bod yn byw yno?
  • Ydych chi'n gwybod eu cyfeiriad blaenorol?
  • Gweithio neu'n hawlio budd-daliadau? - Manylion llawn y cyflogwr.
  • Os yn gweithio, yr amserau y maent yn gweithio?
  • A ydynt yn talu rhent i aros yno?

LandlordiaidWeithiau gall landlordiaid fod ynghlwm â thwyll. Os ydych yn gwybod neu'n amau bod landlord ynghlwm â gweithgarwch twyllodrus, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch yn ymwneud â'r eiddo, y tenantiaid a'r amgylchiadau dan sylw.

CyflogwyrWeithiau, gall gyflogwyr gydgynllwynio gyda gweithwyr i’w helpu i dwyllo’r system fudd-daliadau. Rhowch cymaint o dystiolaeth â phosibl i ni os ydych yn ymwybodol bod hyn yn digwydd. Enw'r cyflogwr, cyfeiriad, eiddo a ddefnyddir, cerbydau a ddefnyddir, cymaint o enwau gweithwyr ag y gallwch, cyflenwyr neu gwsmeriaid y mae gweithwyr yn delio â nhw yn rheolaidd.

CerbydauDarparwch wneuthuriad (e.e. Ford), model (e.e. Mondeo), lliw a rhif cofrestru’r cerbyd(au) sy’n cael eu defnyddio. Os oes logos, marciau neu fanylion busnes ar y cerbyd, nodwch y rhain hefyd.

Gall fod yn Dreisgar

Cadarnhewch a yw unrhyw unigolyn sydd ynghlwm â'r dwyll yn dreisgar. Os ydynt, sut ydych chi’n gwybod hyn? Cofiwch, y mwyaf o fanylion y gallwch eu darparu am y twyll honedig, y mwyaf tebygol ydyw y byddwn yn gallu cychwyn ymchwiliad.

Gwybodaeth Gyswllt

Mae'n bosibl y bydd angen i chi gysylltu â ni am nifer o resymau - i ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau neu i gael cyngor am wneud cais newydd i hawlio efallai?

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost

Anfon ymholiad (bydd hyn yn agor e-ffurflen)

Trwy ffonio

Gallwch ein ffonio rhwng 8.30am - 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ein rhif ffôn yw 01352 704848

Trwy'r post

Y Tïm Budd-daliadau, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA

Yn bersonol:

Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA

Ewch i'r dderbynfa gwsmeriaid ym mynedfa 2, Neuadd y Sir.

Rydym ar agor rhwng 9.00am a 4.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac nid oes angen trefnu apwyntiad.