Y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau
Mae'r oriel ar y wê yma yn arddangos peth o'r gwaith sydd yn cael ei gynhyrchu gan yr adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau sydd yn ran o'r gwasanaeth Diwylliant a Hamdden o fewn Cyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes.
Mae'r tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau yn arwain, cynghori a chydlynu amrywiaeth o prosiectau celfyddyd a diwylliant ar gyfer ysgolion a'r gymuned gyfan. Mae prosiectau yn cynnwys preswyliadau cerdd, celfyddyd weledol, dawns a drama o fewn ysgolion, digwyddiadau diwylliannol mawr megis Helfa Gelf taith stiwdios artistiaid a digwyddiadau. Mae'r adran hefyd yn trefnu gosod a chomisiynu celfyddyd cyhoeddus a prosiectau diwylliannol fel Cyfnewid Ieuenctid Japan a Ieuenctid yn Siarad cystadleuaeth siarad cyhoeddus.
Mae 'Cynllunio ar gyfer y Celfyddydau yn Sir y Fflint' yn gosod allan nifer o amcanion strategol a fydd yn helpu i ddatblygu, cynnal a hyrwyddo'r celfyddydau yn y sir. Y gobaith yw y bydd y strategaeth yn codi proffil y celfyddydau drwy gyfrwng datganiad clir a chydlynus yn ymdrin â nodau ac amcanion.
Adroddiad Blynyddol - 2013-2014
Mae'r Is-adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau'n hybu ac yn datblygu cysylltiadau ag unigolion, grwpiau cymuned, artistiaid proffesiynol a chynrychiolwyr sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth â ni; y nod yw darparu prosiectau'n ymwneud â'r celfyddydau cymunedol ym mhob cwr o Sir y Fflint.
Digwyddiadau Blaenorol
Drwy fanteisio ar y fenter 'Noson Allan' mae modd i grwpiau cymuned sydd â lle addas (megis Canolfan Gymuned/Neuadd Bentref/Ysgol etc.) gynnal perfformiadau 'celfyddyd fyw' gan gynnwys dramâu, nosweithiau dawns, cyngherddau jazz, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth glasurol, barddoniaeth, adrodd storïau, a chelfyddyd arall.
Uned Deithiol Gymunedol Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n cynnal y fenter ar y cyd â'r Cyngor Sir, gan ddileu'r risg ariannol sy'n wynebu grwpiau cymuned, neu'n lleihau'r risg, a'u galluogi i lwyfannu perfformiadau mewn llefydd o bob maint, waeth beth yw safon y cyfleusterau megis llwyfan, sain a goleuadau arbenigol.
Gallai hyd yn oed eich cynorthwyo i godi hyd at £100 neu fwy i'ch coffrau.
Ydi, mae'n anodd credu bod y fath gynllun yn bod, ond does dim amodau cudd yn Noson Allan.
Ewch i Wefan
Nod y Gwasanaeth yw datblygu, cefnogi a hyrwyddo ystod eang o weithgareddau'n ymwneud â'r celfyddydau yn ysgolion Sir y Fflint.
Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion, ac yn eu cefnogi o ran gweithgareddau celfyddydau, perfformiadau, prosiectau artistiaid preswyl, ac yn eu cynghori a'u cynorthwyo ynglyn â sut i ddenu nawdd ariannol.
Cynigir cyngor a chymorth yn y meysydd a ganlyn:
- Hyfforddiant mewn swydd i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ysgolion arbennig.
- Cyngor ynglyn â sefydlu prosiectau celfyddyd
- Cymorth i lenwi ffurflenni cais am nawdd ariannol
- Y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o Brosiectau Artistiaid Preswyl a gynigir i ysgolion a grwpiau ieuenctid
- Cyfle i fod yn rhan o ystod eang o brosiectau ledled y sir, megis 'Gwyl Ddawns Sir y Fflint' ac 'Ysgolion Sir y Fflint Mewn Perfformiad' (y ddwy fenter yn Clwyd Theatr Cymru), Arddangosfeydd Celfyddyd Weledol, gweithdai drama, dawns a cherddoriaeth.
Digwyddiadau Blaenorol
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn cyflwynwch ymholiad.