Rhaid i waith coed a wneir ar briffordd gyhoeddus, neu wrth ei hymyl, gael ei gynnal yn unol â Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffyrdd – Cod Ymarfer. Mae hyn i sicrhau bod gweithredwyr a defnyddwyr priffyrdd yn cael eu diogelu.
Mae clefyd coed ynn yn gwneud i’r pren yn y coed droi’n frau, gan wneud torri coed i lawr a thorri’n broses anrhagweladwy ac yn fwy peryglus. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig bod camau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle, y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer gwaith coed eraill, i leihau lefel y risg.
Dylai gwaith coed clefyd coed ynn yn gyfagos i briffordd gyhoeddus gael ei gynnal gan weithredwyr profiadol a chymwys yn unig, gan ddilyn arfer da a gofynion rheoli traffig.
Lle mae rheolaeth traffig arfaethedig yn golygu bod angen rhwystro’r briffordd i wneud y gwaith coed yn ddiogel, dylai perchnogion tir a chontractwyr roi gwybod i Strydwedd (Rhif ffôn 01352 701234) yn ystod y cam cynllunio.
Lle bo’n bosibl, bydd y cyngor yn cydlynu’r gwaith coed ar brif ffyrdd i leihau amhariad ar draffig.
Diogelu Bywyd Gwyllt
Wrth gynllunio a chynnal gwaith coed, mae’n hanfodol sicrhau bod rhywogaethau a warchodir a’u cynefinoedd yn cael eu diogelu (adar sy’n nythu, ystlumod a phathewod) a fydd eisoes mewn perygl oherwydd bod y cynefin coed ynn wedi’i golli.Gellir cael hyd i fwy o wybodaeth am rywogaethau a warchodir ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Coed a warchodir
Oni bai eu bod mewn dirywiad sylweddol, bydd angen cyflwyno cais ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud gwaith ar goed ynn sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed. Yn yr un modd, bydd coed ynn o fewn Ardal Gadwraeth angen hysbysiad ffurfiol.
Cynghorir unrhyw un sy’n cynnig gwneud gwaith i goeden ynn ar y sail ei bod yn dirywio’n sylweddol ac wedi’i hystyried yn eithriedig rhag yr angen i gael cymeradwyaeth, i e-bostio Swyddog Coedwigaeth y Cyngor.
Gellir cael hyd i fwy o wybodaeth am goed a warchodir ar dudalennau gwe eraill y Cyngor.