Alert Section

Ymuno â llyfrgell

Cofrestru ar-lein

Cewch fynediad 24/7 yn syth ar gyfer ein Llyfrgell Ddigidol.

Ar ôl ymweliad cychwynnol ag unrhyw lyfrgell gyda phrawf adnabod, bydd eich cyfrif yn cael ei uwchraddio i aelodaeth lawn, a fydd yn caniatáu mynediad at freintiau benthyca a chyfrifiaduron y llyfrgell. 


Cofrestru yn y llyfrgell 

Dewch ag un math o brawf adnabod gyda chi i’ch llyfrgell leol, sy’n dangos eich cyfeiriad cartref presennol, megis Trwydded Yrru, Pasbort neu brawf adnabod arall â llun. O ran unigolion nad oes ganddynt gyfeiriad parhaol, gellir trafod dewisiadau amgen ar ôl iddynt ddangos prawf adnabod.

O ran pobl ifanc 16 oed ac iau, mae angen caniatâd rhiant neu warcheidwad i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfrifiaduron y llyfrgell. 

swoosh

Rheoli eich cyfrif

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn rhif aelodaeth a PHIN. Defnyddiwch y rhain i gael mynediad at a rheoli eich cyfrif ar-lein neu dros y ffôn, lle gallwch adnewyddu benthyciadau, cadw llyfrau a diweddaru manylion personol.

Gall deiliaid cardiau llyfrgell presennol fewngofnodi â’u rhif cerdyn llyfrgell presennol a PHIN heb ailgofrestru.

Sylwch y codir ffioedd am eitemau hwyr; gellir adnewyddu’r rhain dros y ffôn, ar-lein neu yn unrhyw un o’ch llyfrgelloedd lleol. 

Wedi anghofio eich PIN?

Cysylltwch â’ch llyfrgell dros y ffôn neu drwy anfon e-bost: libraries@siryfflint.gov.uk


Telerau ac Amodau eich Aelodaeth Llyfrgell

Darllenwch ein Telerau ac Amodau eich Aelodaeth Llyfrgell