"Off Flint" – Dathlu ein tref, ein castell a'n harfordir
'Off Flint' 2024 - Dathliad Ffotograffig o Dref, Castell ac Arfordir y Fflint
Dewch i ni gael creu oriel! Rhannwch eich lluniau i ddangos pa mor arbennig yw’r Fflint.
Ffurflen Ffotograffiaeth
Mae "Off Flint" – Dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir yn brosiect newydd cyffrous a fydd yn rhoi’r cyfle i bobl leol gofnodi, gwarchod a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint.
Gan adeiladu ar lwyddiant y Siop Stori yn 2018, gwahoddir unigolion a grwpiau i gymryd rhan trwy gasglu a rhannu hen luniau, arteffactau a straeon dydd i ddydd am y Fflint. Bydd y rhain yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod yr wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb.
Cynhelir sesiynau galw heibio anffurfiol yn Llyfrgell y Fflint am ddim, a bydd hyfforddiant ar sgiliau cyfweld, cofnodi a golygu ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r prosiect.
Gwahoddir ysgolion lleol i ymuno, gyda chyfleoedd i’r disgyblion gasglu deunydd a chynorthwyo i ddehongli treftadaeth gyfoethog eu tref, eu castell a’u harfordir. Gweithredir y prosiect tan fis Mawrth 2024, felly mae digon o amser i rannu a dathlu hanes balch y Fflint.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol:
- jo.Danson@flintshire.gov.uk
- Saesneg 01352 703042
- Cymraeg 01267 224923