Alert Section

Llwybrau Trefi a Threftadaeth


Llwybr Treftadaeth Bwcle

Dilynwch y cerfluniau a'r pwyntiau gwybodaeth sy'n dangos y ffordd ar y llwybr treftadaeth hwn i archwilio gorffennol diwydiannol Bwcle a thu hwnt. Mae'r llwybr yn cynnwys llawer o safleoedd o ddiddordeb, gan ddathlu cyn ddiwydiannau crochenwaith a gwneud brics y dref.

Taith Gerdded Treftadaeth Ddiwydiannol Cei Connah

Mae'r llwybr hwn yn tynnu sylw at y cyfraniad pwysig a wnaeth Cei Connah i'r economi lleol a'r nod yw gwarchod y dreftadaeth ddiwydiannol hon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Archwiliwch y stori sy'n aml heb ei dweud o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal.

Llwybr Treftadaeth y Fflint

Dathlu hanes y Fflint o'i sefydlu gan y Brenin Edward I hyd at heddiw. Mae paneli dehongli yn cysylltu'r llwybr rhwng Castell y Fflint (1277), y glannau a chanol y dref. Ar hyd y stryd fawr, mae'r llwybr wedi'i farcio gyda phlaciau efydd yn y palmant sy'n darlunio crefftau sydd wedi helpu i siapio'r trefi ar hyd y blynyddoedd.

Llwybr Treftadaeth Treffynnon

Archwiliwch dreftadaeth gyfoethog Treffynnon, o'r 7fed ganrif i'r chwyldro diwydiannol, ar y llwybr hynod ddiddorol drwy'r dref.

Gan ddechrau yn y stryd fawr, mae'r llwybr yn eich arwain drwy Ddyffryn Maesglas, yna yn ymuno â llwybr y pererinion hynafol i Abaty Dinas Basing a Ffynnon Gwenffrewi, gan werthfawrogi bywyd gwyllt cyfoethog a golygfeydd hyfryd ar hyd y ffordd.

Llwybr Tref Yr Wyddgrug

Archwiliwch orffennol hudolus yr Wyddgrug ar hyd y llwybr trefol hwn. Mae'n dechrau ar y cerflun o 'Dad y nofel Gymraeg' Daniel Owen, ac yn dangos llawer o fannau o ddiddordeb hanesyddol y dref, gan gynnwys bedd yr arlunydd tirluniau, Richard Wilson, y Neuadd Ymgynnull, yr Hen Lys Barn ac adfeilion y castell Mwnt a Beili Normanaidd ar dop Bryn y Beili.