Mae Llwybr 5 o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans (NCN 5) yn mynd yr holl ffordd o Gaer i Gaergybi. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb – o lwybrau gwastad, hawdd sy’n dilyn llwybrau’r hen reilffyrdd i lonydd gwledig i fyny’r bryniau, lle mae golygfeydd godidog dros aber Afon Dyfrdwy.
Yn Sir y Fflint, mae NCN 5 yn mynd â chi o Sealand yn y dwyrain, draw i lan y môr yn Gronant yng ngogledd y sir. Rhwng Caer a Chei Connah, mae llwybr di-draffig wyth milltir o hyd y gall beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn ei fwynhau. Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Swydd Gaer sy’n gyfrifol am ddatblygu’r rhan hon o’r llwybr.
Gall beicwyr mwy profiadol deithio ar hyd y ffyrdd drwy bentrefi tlws Helygain, Chwitffordd a Llanasa.
Llwybr oddi ar y ffordd, chwe milltir o hyd, yw Llwybr Rhanbarthol 89 ac mae’n rhedeg rhwng Pont Penarlâg a Chaer ar hyd glannau gogleddol Afon Dyfrdwy. Mae’r llwybr hwn yn cysylltu Queensferry a Saltney, ar hyd y llwybr troed yn Higher Ferry. O’i gyfuno ag NCN5, mae hwn yn llwybr cylchol ardderchog.
Yn Nhalacre, crëwyd rhan arall o’r llwybr beiciau drwy’r twyni tywod yn Gronant, ac yna ymlaen i Brestatyn. Mae’r llwybr hwn yn uno ag NCN5 yn Sir Ddinbych. Cewch fanylion hefyd yn y llyfryn
Crwydro Cefn Gwlad Sir y Fflint (tudalennau 76 & 77) (PDF 15MB ffenestr newydd).