Alert Section

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

North East Wales ACL logo

Hoffech chi ddysgu sgil newydd, rhoi hwb i’ch gyrfa, neu gysylltu ag eraill mewn ffordd gefnogol a difyr?

Mae’n bleser gennym fod yn rhan o bartneriaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru, menter ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nod y bartneriaeth yw darparu’r cyfleoedd a’r canlyniadau dysgu i oedolion gorau posibl yn ein cymunedau.

Byddwn yn gweithio’n gyda’n gilydd i sicrhau’r cyfleoedd a’r canlyniadau gorau posibl i oedolion sy’n dysgu yn y gogledd ddwyrain, o gyrsiau ymgysylltu i’r rheiny sy’n chwilio am ddiddordebau newydd ac eisiau cwrdd â phobl o’r un anian i gyrsiau achrededig i’r rheiny sydd angen cymhwyster penodol i ddringo’r ysgol yrfa.

Dyma ein manylion cyswllt:

E-bost: acl@wrexham.gov.uk

Rhif ffôn: 07584 335 409

I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd gennym ar gael, hoffwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol

Adult Learners' Week Logo

Wythnos Addysg Oedolion

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gydlynir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o gysylltu pobl ag ystod eang o gyfleoedd dysgu, dangos manteision dysgu oedolion, a dathlu cyflawniadau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o ddysgu gydol oes a sgiliau.

Cyfeiriadur


Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf

Mae Aura yn gymdeithas er budd y gymuned sy’n gyfrifol am y mwyafrif o ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd yn Sir y Fflint. Rydym ni’n rhoi budd i’r gymuned ac yn gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu cyfleoedd diwylliannol, dysgu a hamdden sy’n gwella iechyd meddwl, lles corfforol a rhagolygon bywyd. 

Ein nod yw ymestyn ein cynnig o ddysgu cymunedol drwy weithio gyda sefydliadau sydd o’r un anian â ni i ddarparu pecyn o gyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n seiliedig ar angen cymunedol ac arbenigedd penodol pob partner. Ein nod yw darparu cyfleoedd newydd er mwyn i bobl gael mynediad i ddysgu a chyfleoedd gwirfoddoli i ddatblygu eu cyflogadwyedd a’u sgiliau.

Mae ein partneriaid yn cynnwys:

Gyda’n gilydd byddwn yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth achrededig a heb ei achredu ar draws y sir – yn ein hadeiladau cymunedol, mannau awyr agored, parciau lleol, ysgolion cynradd ac ar-lein. Wedi’u hariannu’n llawn gan y grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned, mae’r cyrsiau ar gael i unrhyw un 19 oed a hŷn a fyddai’n hoffi dysgu sgil newydd, ennill cymhwyster neu wella eu lles corfforol a meddyliol. 

AdultCommunityLearning2


Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy

Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy yn sefydliad elusennol sy’n gweithio ar draws Sir y Fflint i ddarparu cyfleoedd newydd i bobl gael mynediad at ddysgu a chwaraeon. Drwy gyfleuster cymunedol Tŷ Calon (cyfleuster newydd sbon gwerth miliynau o bunnau yn Queensferry) rydym ni’n falch o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i gynnig amrywiaeth o gyrsiau Dysgu Cymunedol i Oedolion wedi’u hariannu.

Mae ein darpariaeth yn cynnwys:

  • Cyrsiau achrededig i’ch helpu chi i gael gwaith neu’ch cefnogi chi i newid gyrfa
  • Cyrsiau creadigol a lles i’r rheiny sydd eisiau dysgu sgil newydd neu fagu hyder a hunan-barch 
  • Gweithgareddau corfforol, yn cynnwys chwaraeon, ffitrwydd, dawns, sgiliau treftadaeth a garddio

Rydym ni’n falch iawn o weithio gyda sefydliadau fel Groundwork Gogledd Cymru, Prifysgol GlyndŵrColeg Cambria, Art and Soul TribeTheatr Clwyd, The Bold Type, Gweithdy Dinbych, Making Maestros, Sue Beesley Coaching a The Little Learning Company i gynnig cyrsiau gwych i chi, ac rydym ni’n croesawu eich syniadau o ran yr hyn yr hoffech chi ei weld gennym ni nesaf.

AdultCommunityLearning5


Groundwork Gogledd Cymru

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cefnogi pobl sy’n wynebu nifer o heriau, sy’n byw ar eu pen eu hunain, sydd â phroblemau iechyd sylweddol, rhagolygon gwaith cyfyngedig a phobl sy’n ddiamddiffyn i ansicrwydd economaidd ac amgylcheddol y gymdeithas heddiw. Rydym ni’n gwneud hyn drwy greu lleoedd gwell, gwella rhagolygon pobl a hyrwyddo dewisiadau gwyrddach trwy ein hamrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau.

Mae Hyfforddiant Groundwork yn falch o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn ogystal â phartneriaeth ehangach Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru i ddarparu cyrsiau Dysgu Cymunedol i Oedolion. Mae ein darpariaeth yn cynnwys: 

  • Cefnogi pobl i gymryd y cam cyntaf i ddysgu 
  • Darparu sgiliau oes a chyflwyno sgiliau sylfaenol 
  • Darparu cyrsiau cyflogadwyedd a chyflogaeth 
  • Darparu cyfleoedd dysgu i’r teulu
  • Amrywiaeth o gyrsiau blas ac ymgysylltu

Byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant i ddarparu cyrsiau a sesiynau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, ac rydym ni’n croesawu eich syniadau o ran cyrsiau a sesiynau sy’n diwallu anghenion pobl leol. 

AdultCommunityLearning4