Alert Section

Dyletswydd Gofal dros Waredu Gwastraff


Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus o unigolion sy’n honni eu bod nhw’n fusnesau gwaredu gwastraff cyfreithlon yn ystod yr argyfwng coronafeirws. 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymddwyn yn gywir ac yn parhau i leihau’r gwastraff y maen nhw’n ei gynhyrchu a chael gwared arno.  Fodd bynnag, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y bobl yn mynd rownd yn twyllo ac yn smalio bod yn fusnesau gwaredu gwastraff cyfreithlon ac yn cymryd mantais o’r argyfwng presennol drwy gynnig i fynd â gwastraff preswylwyr am dâl bychan.  

Tydi rhai o’r gweithredoedd hyn ddim wedi cael eu cofrestru na’u hawdurdodi i gymryd gwastraff ac maen nhw’n anghyfreithlon.

Tydi’r gyfraith heb newid, ac fel perchennog eiddo domestig mae gan breswylwyr ddyletswydd gyfreithiol i wneud yn siŵr fod eu gwastraff cartref, wedi’i gynhyrchu ar eu heiddo, yn cael ei basio i berson awdurdodedig ar gyfer gwaredu ohono yn gywir. Mae manylion ar hyn yn Adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd, 1990. 

Mae deddfwriaeth yn gofyn i breswylydd: 

  1. Wirio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru bod yr unigolyn neu gwmni y maen nhw’n ei ddefnyddio yn gludwr gwastraff cofrestredig
  2. Gofyn lle mae’r gwastraff yn mynd.

Yn ogystal â’r gofynion cyfreithiol mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn argymell bod preswylwyr yn:

  1. Cofnodi manylion yr unigolyn / cwmni sy’n mynd â’u gwastraff (enw / rhif cofrestru); 
  2. Cadw derbynneb gyda manylion o’r gwastraff a’r cwmni a ddefnyddiwyd; 
  3. Cofnodi manylion y busnes neu gerbyd a ddefnyddiwyd i fynd â’r gwastraff (rhif cofrestru, gwneuthuriad, model a lliw).

Fel busnes gwaredu gwastraff mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru os mai yng Nghymru mae eich prif leoliad busnes a’ch bod chi yn:

  • cludo gwastraff fel rhan o’ch busnesprynu
  • gwerthu neu waredu’r gwastrafftrefnu i rywun arall brynu
  • gwerthu neu gael gwared ar y gwastraff

Mae dwy ran o dair o achosion tipio anghyfreithlon yn Sir y Fflint yn deillio o gartrefi pobl.  Fel preswylydd, mae gennych “Ddyletswydd Gofal” cyfreithiol i gael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol.  Os bydd eich gwastraff wedi cael ei dipio yn anghyfreithlon, a chithau yn gwybod am hynny neu ddim, gallwch gael eich dirwyo i fyny at £5,000, a bydd unrhyw un yn cael eu dal yn tipio’n anghyfreithlon yn cael eu herlyn ac yn derbyn dirwy sylweddol.  Byddwn yn parhau i orfodi ein hymdrechion ar ran preswylwyr Sir y Fflint ac yn erlyn troseddwyr os bydd tystiolaeth yn caniatáu. 

Er y gallwn gydymdeimlo gyda phreswylwyr sydd efo llawer o wastraff, mae’n rhaid i ni bwysleisio ar gyfer iechyd a diogelwch pawb eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff mewn modd cyfrifol neu’n ei gadw gartref nes bod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ ar agor eto pan fydd y cyfyngiadau symud wedi’u codi.  

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn parhau i gasglu gwastraff a deunyddiau wedi’u hailgylchu o garreg y drws felly nid oes angen i chi deithio.  Mae mannau ailgylchu ar gael dal i fod mewn rhai archfarchnadoedd, ond gofynnwn i breswylwyr beidio â’u hymweld yn arbennig, yn unol ag arweiniad y llywodraeth, ond i’w defnyddio wrth iddyn nhw wneud eu siopa hanfodol.

Unwaith eto rydym yn annog preswylwyr i reoli eu gwastraff yn gyfrifol ac i sicrhau fod unrhyw un sy’n hunan ynysu yn dilyn canllawiau’r llywodraeth:

  • Rhaid cael gwared ar hancesi papur wedi’i defnyddio, cadachau glanhau a masgiau tafladwy mewn bagiau bin tafladwy
  • Dylid rhoi bag mewn bag arall h.y. rhoi’r bag cyntaf o wastraff mewn bag gwag arall, clymu'r top yn dynn a’u cadw ar wahân i wastraff arall
  • Ni ddylai plant, anifeiliaid anwes a phlâu gael mynediad i’r lle hwn
  • Ni ddylai gwastraff gael ei adael heb oruchwyliaeth ar y palmant wrth ddisgwyl iddo gael ei gasglu
  • Dylai gael ei gadw i un ochr am o leiaf 72 awr cyn ei roi yn eich bin gwastraff du allanol arferol
  • Os yw eich cartref yn hunan ynysu am fod rhywun efo symptomau firaol yna peidiwch â rhoi eich gwastraff ailgylchu allan i’w gasglu am 14 diwrnod.  Ar ôl 14 diwrnod gallwch roi eich gwastraff ailgylchu allan yn ôl yr arfer.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn dilyn y cyngor ar gyfer diogelu ein gweithlu a’ch cartref. Mae Cyngor Sir y Fflint yn sicrhau fod casgliadau gwastraff yn cael eu gwneud yn ystod y sefyllfa bresennol.  Byddwn yn cefnogi preswylwyr sy’n dilyn ein cyngor ac yn casglu eu gwastraff o’u cartrefi.

A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus)

Gydag adroddiadau yn honni bod achosion o dipio anghyfreithlon wedi cynyddu, mae Cyngor Sir y Fflint yn apelio i breswylwyr fod yn wyliadwrus wrth ofyn i fasnachwyr waredu eu gwastraff.

Mae’r rhan fwyaf o safleoedd gwaredu gwastraff awdurdodedig a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff wedi cau, ac nid ydynt yn derbyn gwastraff gan sefydliadau allanol; mae hyn yn cynnwys pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref sy’n cael ei weithredu gan Sir y Fflint, yn ogystal â safle compostio gwastraff gardd Maes Glas.

Rydym yn gofyn i chi wirio bod gan unrhyw unigolyn sy’n pasio eich gwastraff ymlaen, drwydded i’w gymryd i ffwrdd, a bod y gwastraff yn cael ei gymryd i safle a gymeradwywyd yn gyfreithlon, ac yr ydych wedi gwirio ei fod ar agor ac yn derbyn gwastraff.

Mae angen trwydded ar fusnesau yng Nghymru sy’n defnyddio, ailgylchu, trin, neu storio neu waredu gwastraff drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu’n gyfreithlon. I ganfod a oes gan fasnachwr hawl, drwydded neu esemptiad i weithredu’n gyfreithlon, gallwch wirio cofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fel preswylydd mewn tŷ domestig, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gwastraff eich cartref, a gynhyrchir ar eich eiddo, yn cael ei basio i unigolyn awdurdodedig ar gyfer ei waredu'n gyfreithlon. Os yw eich gwastraff yn cael ei basio i weithredwr heb ei gofrestru, neu'n cael ei ganfod yn tipio'n anghyfreithlon, gallwch gael eich erlyn.