Alert Section

Gwneud cais am Fin Mwy

Gall anheddau sydd â mwy na 6 preswylydd wneud cais am fin mwy ar olwynion gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Ar gyfer unrhyw geisiadau am finiau mwy, cynhelir ymweliad ar y diwrnod casglu i wirio bod y cynwysyddion ailgylchu’n cael eu defnyddio’n gywir ac yn cael eu cyflwyno’n barod i’w casglu.  Bydd unrhyw wastraff y mae modd ei ailgylchu a gaiff ei ganfod yn y bin du yn canslo’r cais. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi preswylwyr i reoli eu gwastraff, fodd bynnag, ni allwn gynnig biniau mwy i breswylwyr nad ydynt yn cyflwyno gwastraff i’w ailgylchu yn rheolaidd, gan na fyddai hyn yn deg â’r mwyafrif o breswylwyr sy’n gwahanu ac yn ailgylchu eu gwastraff. 

Cyn gwneud cais am fin mwy, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio ein gwasanaeth ailgylchu ymyl palmant yn llawn:

Blue Bag

Papur a Chardfwrdd (bag glas)

Grey Sack

Metelau, plastig a chartonau (sach wen / lwyd)

Blue Box

Poteli a jariau gwydr (bocs glas)

Green Bin

Gwastraff bwyd (cadi arian a gwyrdd)

Brown Bin

Gwastraff gardd (bin brown)

Orange Tub

Os yw’n berthnasol: Cynnyrch Hylendid Amsugnol (clytiau) (bocs oren)

Gall breswylwyr gael cymaint o focsys / bagiau ailgylchu ag sydd eu hangen arnynt er mwyn sicrhau y gellir ailgylchu’r holl wastraff posib.

Gwneud cais am eitemau ailgylchu

Os ydych chi’n gwneud popeth y gallwch ei wneud i leihau’ch gwastraff domestig ac yn ailgylchu gymaint ag y gallwch, ond eich bod yn parhau i deimlo bod angen bin mwy arnoch, gwnewch gais isod.

Gwnewch gais am fin du mwy