Alert Section

Ailgylchu eich metelau, plastigion a chartonau – diweddariad ar ein treial diweddar

Diolch yn fawr i'r rhai ohonoch a gymerodd ran yn ein treial 12 wythnos yn ddiweddar, gyda'r nod o ddarganfod a yw preswylwyr a'n criwiau casglu'n cael bag coch newydd yn brafiach ei ddefnyddio na'r bag llwyd presennol wrth ailgylchu eu metelau, plastigion a chartonau.

Daeth y treial hwn i ben ar ddydd Gwener 14 Chwefror 2025.

Beth ddylwn ei wneud rŵan?

Os gwnaethoch chi gymryd rhan yn y treial, ewch yn ôl i ddefnyddio eich bag llwyd presennol yn unig i gyflwyno eich metelau, plastigion a chartonau ar eich diwrnod casglu arferol, os gwelwch yn dda. 

Mae hyn yn cynnwys eich:

  • caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel,
  • poteli, potiau a thybiau plastig, a
  • cartonau bwyd a diod fel Tetra Pak.

Daliwch eich gafael ar eich bag coch newydd nes byddwn wedi gwerthuso’r treial a chadarnhau pa fag i’w ddefnyddio yn y dyfodol. 

Os byddwn yn newid i ddefnyddio’r bag newydd, ac yn darparu’r rhain i holl gartrefi’r sir, yna byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pa bryd y dylech ddechrau ei ddefnyddio eto, a beth i’w wneud â’r bag nad oes mo’i angen arnoch mwyach.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rhwng dydd Sadwrn 1 Chwefror a dydd Gwener 14 Chwefror 2025, fe wnaethom gynnal arolwg ar ôl y treial gyda thrigolion a chael adborth gan ein criwiau casglu, i ddarganfod a oeddent yn gweld y bag coch newydd yn brafiach ei ddefnyddio na’r bag llwyd presennol. 

Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i ddadansoddi’r dirnadaethau ac i ystyried yr argymhellion a’r camau nesaf i’w gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu cymaint o’u gwastraff o’u cartrefi â phosibl.

Cliciwch yma i weld telerau ac amodau’r raffl wobr

Telerau ac Amodau ar gyfer hyrwyddiad ‘Treial cynhwysydd ailgylchu Cyngor Sir y Fflint’ (‘yr Hyrwyddiad’): 

  1. Hyrwyddwr yr Hyrwyddiad yw WRAP, a’i swyddfa gofrestredig yw Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH. 
  2. Mae’r gystadleuaeth raffl wobrau hon am ddim ac mae’n agored i breswylwyr 18 mlwydd oed neu hŷn sy’n byw mewn cartref a gafodd ei wahodd i gymryd rhan yn y treial ‘Treialu bag newydd ar gyfer ailgylchu eich metelau, plastigion a chartonau’ rhwng dydd Llun 25 Tachwedd 2024 a dydd Gwener 14 Chwefror 2025. Uchafswm o un cais fesul cyfeiriad eiddo. Ni chaniateir i gyflogeion WRAP, Cyngor Sir y Fflint, nac aelodau o’u teuluoedd nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r Hyrwyddiad mewn unrhyw ffordd neu sy’n helpu i drefnu’r Hyrwyddiad gymryd rhan ynddo. 
  3. O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, ystyrir eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau hyn felly darllenwch nhw’n ofalus cyn cymryd rhan yn yr Hyrwyddiad. 
  4. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch wrth gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad yn cael ei gadw a’i brosesu gan yr Hyrwyddwr yn unol â Pholisi Preifatrwydd WRAP.
  5. Mae’r Hyrwyddiad yn dechrau ddydd Sadwrn 1 Chwefror 2025 am 00:01 (BST) a daw i ben am 23:59 ddydd Gwener 14 Chwefror 2025. 
  6. Rhaid i’r cynigion gael eu derbyn ar ôl 00:01 (BST) ddydd Sadwrn 1 Chwefror 2025 a chyn 23:59 (BST) ddydd Gwener 14 Chwefror 2025. Ni fydd cynigion a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod hwn yn ddilys. 
  7. I gymryd rhan, mae’n rhaid i chi: 
    • gwblhau’r arolwg ar-lein a hyrwyddir ar wefan Cyngor Sir y Fflint, ac
    • ysgrifennu eich cyfeiriad ebost a chod post ar y ffurflen lle mae’n gofyn amdanynt.
  8. Bydd un enillydd gwobr a fydd yn cael ei ddewis ar hap ddydd Llun 17 Chwefror 2025 gan WRAP o blith yr holl gynigion dilys. 
  9. Y wobr a fydd yn cael ei rhoi i’r enillydd yw Cerdyn Rhodd One4all gwerth £50.
  10. Cysylltir â’r enillydd trwy’r cyfeiriad ebost a wnaethant ei nodi ar y ffurflen arolwg a gyflwynwyd erbyn 16:00 ddydd Mercher 19 Chwefror 2025. 
  11. Rhaid i’r enillydd roi prawf adnabod i’r Hyrwyddwr ynghyd â phrawf o’u cyfeiriad cartref er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys cyn cael eu cadarnhau’n enillydd a chyn y trefnir i’r wobr gael ei danfon. Gall hyn gynnwys trwydded yrru’r DU, bil cyfleustodau diweddar (e.e. nwy, dŵr, trydan), bil treth cyngor diweddar, neu gytundeb tenantiaeth dilys.
  12. Os na fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn ymateb gan enillydd o fewn 72 awr i’w ymgais gyntaf i gysylltu, os bydd yr enillydd yn gwrthod ei wobr, neu os yw’r ymgais a dynnwyd yn y raffl yn cael ei phennu’n annilys neu’n groes i’r telerau ac amodau hyn, yna bydd y wobr yn cael ei fforffedu a bydd hawl gan yr Hyrwyddwr i ddewis enillydd arall. 
  13. Caiff y wobr ei danfon i’r enillydd i’w cyfeiriad cartref yn Sir y Fflint, drwy gyfrwng dull postio ‘Llofnod ar ddanfon’, fel ‘Royal Mail Signed For®'.
  14. O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, rydych yn rhoi eich caniatâd i WRAP a Chyngor Sir y Fflint grybwyll eich teitl, cyfenw a thref mewn unrhyw gyfathrebiadau am raffl wobrau’r treial.
  15. Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r wobr. 
  16. Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gynnig gwobr amgen o’r un gwerth neu werth uwch pe na fyddai’r wobr wreiddiol ar gael am resymau y tu hwnt i’w reolaeth resymol. Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo’r wobr ac ni chaniateir ei chyfnewid am arian parod na gwobrau eraill. 
  17. Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl ar unrhyw adeg, ac o bryd i’w gilydd, i addasu neu ganslo’r Hyrwyddiad dros dro neu’n barhaol, heb rybudd ymlaen llaw o ganlyniad i resymau y tu hwnt i’w reolaeth. 
  18. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am fethiant unrhyw ymgeision i gymryd rhan, beth bynnag fo’r achos dros hynny. 
  19. Nid yw'r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, colled, rhwymedigaethau, anaf neu siom a achoswyd neu a ddioddefwyd o ganlyniad i gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad neu dderbyn y wobr. Ni fydd unrhyw beth yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'w esgeulustod. 
  20. Os bydd unrhyw ddarpariaeth o'r telerau a'r amodau hyn yn cael eu gwneud yn annilys gan unrhyw gyfraith, rheol, gorchymyn neu reoleiddio unrhyw lywodraeth, neu drwy benderfyniad terfynol unrhyw lys ag awdurdodaeth gymwys, ni fydd yr annilysrwydd hwnnw yn effeithio ar orfodadwyedd unrhyw ddarpariaethau eraill. 
  21. Mae penderfyniad yr Hyrwyddwr yn derfynol, ac ni chymerir rhan mewn unrhyw ohebiaeth bellach.
  22. Mae gwerth y cerdyn rhodd ar gyfer y raffl wedi’i ariannu i Gyngor Sir y Fflint gan Lywodraeth Cymru; nid yw'n cael ei dalu amdano gan ddefnyddio arian Treth Cyngor preswylwyr.

Mae eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth MAWR yn Sir y Fflint. Diolch i chi am barhau i wneud y peth iawn a chwarae eich rhan dros yr amgylchedd, drwy sortio eich gwastraff ac ailgylchu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y treial, cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill na atebir yn y Cwestiynau Cyffredin, anfonwch neges ebost atom i kerbsiderecycling@siryfflint.gov.uk.

Cwestiynau cyffredin

Beth sy’n digwydd?

Mae preswylwyr Cyngor Sir y Fflint yn ailgylchu 62% o’u gwastraff, ond rydyn ni eisiau eich helpu i ailgylchu mwy fyth.

Rhwng dydd Llun 25 Tachwedd 2024 a dydd Gwener 14 Chwefror 2025, byddwn yn treialu math gwahanol o fag i breswylwyr ailgylchu eu metelau, plastigion a chartonau. Nod y treial yw darganfod a yw preswylwyr a’n criwiau casglu’n cael y bag newydd yn brafiach ei ddefnyddio na’r bag llwyd presennol.

Rydym wedi gwahodd tua 1,500 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial. Mae’r preswylwyr rydym wedi’u gwahodd ar gyfer y treial yn byw mewn cymysgedd o fathau o gartrefi ac ardaloedd er mwyn inni allu cael dealltwriaeth dda a theg o sut mae’r bag newydd yn effeithio ar wahanol gartrefi.

Pam ydych chi’n gwneud y newidiadau hyn?

Mewn ymgynghoriad yn ddiweddar, dywedodd llawer o breswylwyr wrthym fod y bag llwyd maen nhw’n ei ddefnyddio ar gyfer eu metelau, plastigion a chartonau ar hyn o bryd:

  • yn rhy fach i ddal y nifer o eitemau y mae preswylwyr eisiau eu cyflwyno i’w hailgylchu,
  • yn disgyn mewn gwyntoedd cryf oherwydd ei fod yn ysgafn, ei uchder, ac nad yw’n aros ar ei sefyll yn hawdd, ac
  • yn achosi sbwriel oherwydd y diffyg fflap neu gaead i gadw’r cynnwys yn y bag. 

Mae gan y bag newydd siâp brafiach i’r defnyddiwr, pwysau trymach ynddo i’w atal rhag chwythu i ffwrdd pan mae hi’n wyntog, a chaead fflap gyda Velcro arno i gau a diogelu’r eitemau yn y bag.

Mae llawer o gynghorau lleol yng Nghymru eisoes yn defnyddio bag tebyg i’r un rydyn ni’n ei dreialu, ac mae wedi’i brofi ei fod yn gweithio’n dda.

Rydw i wedi cael fy newis i gymryd rhan yn y treial. Beth allaf i ddisgwyl ei gael gennych chi a phryd?

Yn y daflen, rydym yn gofyn i chi gymryd y camau canlynol yn ystod y cyfnod treial 12 wythnos, rhwng dydd Llun 25 Tachwedd a dydd Gwener 14 Chwefror

  1. Defnyddio’r bag coch newydd i gyflwyno eich metelau, plastigion a chartonau. Mae hyn yn cynnwys eich:
    1. caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel,
    2. poteli, potiau a thybiau plastig, a
    3. cartonau bwyd a diod fel Tetra Pak.
  2. Cofiwch wagio, rinsio a gwasgu eich eitemau’n ofalus i’w gwneud yn llai, cyn eu rhoi yn eich bag.
  3. Caewch y fflap a defnyddio’r Velcro i gau’r bag i atal eich ailgylchu rhag dianc ac i gadw'r eitemau mor sych â phosibl.
  4. Rhowch eich bag allan bob wythnos ynghyd â’ch cadi gwastraff bwyd a’ch cynwysyddion ailgylchu eraill – yn yr un modd ag y byddech yn arfer cyflwyno eich bag llwyd – erbyn 7yb ar eich diwrnod casglu arferol.
  5. Casglwch eich bag a’ch cynwysyddion ailgylchu eraill unwaith y byddwn wedi casglu eu cynnwys.

Mae croeso ichi ysgrifennu enw neu rif eich tŷ ar eich bag newydd gan ddefnyddio pin ffelt parhaol, neu ychwanegu tag, i’ch helpu i adnabod eich bag chi o blith rhai eich cymdogion pan fyddwn wedi casglu eu cynnwys.

Pam ydych chi wedi dewis y bag newydd hwn?

Mae’r bag rydym wedi dewis ei ddefnyddio fel rhan o’r treial yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan sawl cyngor lleol yng Nghymru i gasglu ailgylchu o gartrefi preswylwyr, ac mae wedi’i brofi i weithio’n dda.

Mae rhai o'r bagiau llwyd a ddefnyddir ar hyn o bryd gan breswylwyr yn dal hyd at 70 litr o eitemau y gellir eu hailgylchu, tra bod rhai yn dal hyd at 90 litr. Mae’r bag newydd yn dal hyd at 90 litr, sy’n golygu y bydd yn galluogi llawer o drigolion i roi mwy o eitemau ynddo.

Mae gan y bag gaead fflap gyda Velcro arno i gau a diogelu’r eitemau y tu mewn iddo. Mae pwysau trymach ynddo hefyd, ac felly'n annhebygol o chwythu i ffwrdd pan mae hi’n wyntog. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dewis gosod eich bag newydd rhwng eich cadi gwyrdd ar gyfer gwastraff bwyd a’ch bocs glas ar gyfer poteli a jariau gwydr, ar eich diwrnod casglu.

Mae siâp y bag hefyd yn brafiach ei ddefnyddio, a ddylai ei gwneud hi'n haws i'r criwiau godi a gwagio ei gynnwys yn ein cerbydau casglu.

Pa fathau o eitemau ddylwn eu rhoi yn fy mag coch ar gyfer metelau, plastigion a chartonau?

Rhowch yr un mathau o eitemau yn eich bag coch ar gyfer metelau, plastigion a chartonau, ag y byddwch fel arfer yn eu rhoi yn eich bag llwyd presennol. Mae hyn yn cynnwys eich:

  • caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel,
  • poteli, potiau a thybiau plastig, a
  • cartonau bwyd a diod fel Tetra Pak

Peidiwch â rhoi bagiau plastig a lapio yn eich bag coch ar gyfer metelau, plastigion a chartonau.

Cofiwch: 

  • tynnu unrhyw bympiau oddi ar boteli pethau ymolchi a'u rhoi yn eich bin du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu,
  • tynnu unrhyw ffilm blastig neu badiau amsugnol a rhowch y rhain yn eich bin du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu,
  • gwagio, rinsio a gwasgu eitemau'n ofalus i'w gwneud yn llai,
  • sicrhau bod erosolau’n wag, a
  • sicrhau bod ffoil yn lân.

I gael rhestr lawn o'r hyn y dylech ac na ddylech ei roi yn eich bag coch ar gyfer metelau, plastigau a chartonau, cliciwch yma.

Beth ddylwn ei wneud gyda bagiau plastig a lapio?

Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw fagiau neu ddeunydd lapio plastig, mae rhai o’r eitemau hyn yn cael eu derbyn mewn mannau ailgylchu ‘oddi cartref’ mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd. 

Ewch i cymruynailgylchu.org.uk i ddod o hyd i'ch cyfleuster agosaf. 

Gall y mathau o eitemau a dderbynnir amrywio o un lleoliad i’r llall, felly dilynwch y canllawiau a roddir gan y sefydliad sy’n rheoli’r man ailgylchu penodol. 

Os na allwch fynd â’r eitemau hyn i un o’r cyfleusterau hyn a bod angen i chi gael gwared arnynt gartref, rhowch nhw yn eich bin du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Da chi, peidiwch â rhoi bagiau plastig a lapio yn eich bag coch ar gyfer metelau, plastigau a chartonau.

Sut ddylwn i storio fy mag newydd?

Gallwch ddewis storio’ch bag newydd yn yr un ffordd ag yr ydych yn storio’ch bag llwyd presennol, boed hynny y tu allan, yn eich gardd, garej, sied neu gynhwysydd gardd, neu y tu mewn i’ch cartref. 

Mae croeso ichi ysgrifennu enw neu rif eich tŷ ar eich bag newydd gan ddefnyddio pin ffelt parhaol, neu ychwanegu tag, i’ch helpu i adnabod eich bag chi o blith rhai eich cymdogion pan fyddwn wedi casglu ei gynnwys.

Beth os oes gennyf fwy o eitemau i’w cyflwyno nag y gallaf eu ffitio yn fy mag newydd? A oes modd i mi gael bag ychwanegol?

Yn ystod y treial, os oes angen i chi ailgylchu hyd yn oed mwy o fetelau, plastigion a chartonau nag y gallwch eu ffitio yn eich bag coch newydd, mae croeso i chi ddefnyddio'ch bag llwyd presennol ar gyfer yr eitemau ychwanegol hyn.

Gallwch hefyd ddewis archebu bag coch ychwanegol am ddim, drwy anfon e-bost atom yn kerbsiderecycling@siryfflint.gov.uk

Unwaith y bydd y treial wedi dod i ben, ewch yn ôl i ddefnyddio'ch bag llwyd presennol yn unig i gyflwyno'ch metelau, plastigion a chartonau.

Cofiwch arbed lle yn eich bag drwy wasgu eich eitemau metel, plastig a chartonau’n ofalus pan fo’n bosibl, i sicrhau eu bod yn ffitio.

Os bydd angen ichi archebu cynhwysydd newydd ar gyfer eich mathau eraill o ailgylchu – fel un ar gyfer eich gwastraff bwyd, poteli a jariau gwydr, neu gardbord a phapur – neu bin ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu, sydd heb newid fel rhan o’r treial hwn, cliciwch yma.

Sut dylwn i sortio fy ailgylchu yn y tŷ?    

Chi piau’r dewis o ran sut i reoli eich ailgylchu yn eich cartref, a dewis i’r unigolyn yw hwn. Os hoffech unrhyw gyngor neu help i sortio eich ailgylchu, anfonwch ebost atom at kerbsiderecycling@siryfflint.gov.uk

Mae angen help arnaf i sortio ac ailgylchu fy ngwastraff. A wnewch chi fy helpu, plîs?

Mae gennym dîm o Swyddogion Ailgylchu, a gallant:

  • roi cyngor ac arweiniad ichi am ein holl wasanaethau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu, ac
  • eich cefnogi i ailgylchu’r gorau gallwch chi a lleihau eich gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

I drefnu i un o’n Swyddogion Ailgylchu ymweld â chi yn eich cartref, anfonwch ebost atom kerbsiderecycling@siryfflint.gov.uk.

Ni allaf roi fy ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i chi ei gasglu. Allwch chi fy helpu gyda hyn, os gwelwch yn dda?

Os ydych chi’n methu rhoi eich ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i ni ei gasglu oherwydd bod eich symudedd wedi’i gyfyngu arno, boed hynny dros dro neu’n barhaol, ac nad oes unrhyw un arall i’ch helpu, cewch gysylltu â ni i wneud cais am ‘gasgliad â chymorth’ a byddwn yn asesu eich sefyllfa.

'Casgliad â chymorth’ yw pan fo’n criwiau yn casglu eich ailgylchu a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu o fan casglu a gytunwyd arno sy’n gyfleus ac yn ddiogel ichi ei gyrraedd.

Rwy’n derbyn ‘casgliad â chymorth’ ar hyn o bryd. A fydd hyn yn parhau?   

Bydd. Os ydych chi’n derbyn ‘casgliad â chymorth’ ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn ichi. Nid oes angen ichi gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Beth ddylwn ei wneud gyda gwastraff swmpus?

Os oes gennych eitem gartref sy’n rhy fawr i chi fynd â hi i’ch canolfan ailgylchu cartref leol, gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus, sy’n golygu y byddwn yn casglu’r eitem hon o’ch cartref am ffi fach. Am wybodaeth neu i drefnu gwasanaeth casglu eitem swmpus, cliciwch yma.

Beth sy’n digwydd i fy ailgylchu unwaith y byddwch wedi’i gasglu?  

I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu unwaith y byddwn wedi’i gasglu, ac i ble mae pob deunydd unigol yn mynd, ewch i www.myrecyclingwales.org.uk/cy

I ddarganfod beth sy’n cael ei wneud o’ch ailgylchu, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi’r eitemau anghywir yn fy nghynwysyddion ailgylchu mewn camgymeriad?  

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir, ac nad yw eich cynwysyddion ailgylchu’n cynnwys deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall unrhyw un wneud camgymeriad. 

Os, ar ôl edrych ar y daflen hon, y byddwch yn ansicr ble i roi rhai eitemau, cliciwch yma.

Os byddwch dal yn ansicr sut i gael gwared ar rai eitemau’n gywir, anfonwch ebost atom kerbsiderecycling@siryfflint.gov.uk.

Os byddwch yn sylwi eich bod wedi rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i ni gasglu eich ailgylchu, peidiwch â phoeni – ond ceisiwch ei wneud yn iawn y tro nesaf. 

Pam ydych chi wedi casglu peth o fy ailgylchu a fy ngwastraff na ellir ei ailgylchu i chi ei gasglu, ond nid y cwbl?    

Er ein bod yn casglu eich ailgylchu a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu ar yr un diwrnod, rydym yn eu casglu mewn cerbydau ar wahân, ar adegau gwahanol rhwng 7yb a 4yh. Peidiwch â rhoi gwybod i ni am unrhyw gasgliadau a fethwyd tan ar ôl 4yh ar eich diwrnod casglu, ac edrychwch ar ein gwefan neu’n cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth am unrhyw amhariad ar ein gwasanaethau casglu. 

A chofiwch, er ein bod yn casglu eich ailgylchu bob wythnos, rydym yn casglu eich gwastraff na ellir ei ailgylchu (a’ch gwastraff gardd, rhwng mis Mawrth a Rhagfyr, os ydych chi’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwn) bob pythefnos. I wirio eich dyddiadau casglu, cliciwch yma.

Os bydd hi’n wyntog, sut allwn ni atal y bag newydd rhag hedfan i ffwrdd ar y diwrnod casglu?

Er bod pwysau trymach wedi’i ychwanegu at y bag newydd a’i fod yn annhebygol o chwythu i ffwrdd pan mae hi’n wyntog, efallai y byddwch yn dewis ei osod rhwng eich cadi gwastraff bwyd gwyrdd a’ch bocs glas ar gyfer poteli a jariau gwydr, ar eich diwrnod casglu.

Cofiwch hefyd gau’r fflap a'r Velcro ar eich bag i atal eich ailgylchu rhag dianc.

Beth ddylwn ei wneud â fy mag llwyd presennol yn ystod y treial?

Daliwch eich gafael ar eich bag llwyd presennol dros gyfnod y treial, ond peidiwch â’i ddefnyddio oni bai bod angen i chi gyflwyno deunydd ailgylchu ychwanegol. 

Sut dylwn i gyflwyno fy eitemau metel, plastig a chartonau i’w hailgylchu unwaith bydd y treial drosodd?

Unwaith bydd y treial wedi dod i ben, ewch yn ôl i ddefnyddio eich bag llwyd presennol yn unig i gyflwyno eich metelau, plastigion a chartonau.

Daliwch eich gafael ar eich bag coch newydd nes byddwn wedi gwerthuso’r treial a chadarnhau pa fag i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Os byddwn yn newid i ddefnyddio’r bag newydd, ac yn darparu’r rhain i holl gartrefi’r sir, yna byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pa bryd y dylech ddechrau ei ddefnyddio eto, a beth i’w wneud â’r bag nad oes mo’i angen arnoch mwyach. 

Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y treial?

Byddwn yn cynnal arolwg yn dilyn y treial gyda phreswylwyr ac yn gofyn am adborth gan ein criwiau casglu, i gael gwybod a oedden nhw’n cael y bag coch newydd yn brafiach ei ddefnyddio na’r bag llwyd presennol.

Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i ddadansoddi’r dirnadaethau ac i ystyried yr argymhellion a’r camau nesaf i’w gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu cymaint o’u gwastraff o’u cartrefi â phosibl.

Os bydd y treial yn llwyddiannus, a fydd y bag newydd yn cael ei roi i bob cartref ar draws y sir? A beth fyddai’n digwydd i’r bag llwyd presennol?

Os byddwn yn newid i ddefnyddio’r bag coch newydd, ac yn darparu’r rhain i holl gartrefi’r sir, yna byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pa bryd y dylech ddechrau ei ddefnyddio eto, a beth i’w wneud â’r bag nad oes mo’i angen arnoch mwyach.