Mae’r Ddeddf Seneddol hon yn berthnasol i unrhyw un sydd am ymgymryd â gwaith adeiladu, neu unrhyw un sy’n byw drws nesaf i rywun sydd am ymgymryd â gwaith adeiladu. Mae’n rhoi fframwaith i atal neu i ddatrys problemau’n ymwneud â waliau cydrannol, waliau terfyn a gwaith cloddio.
Os ydych ar fin ymgymryd â gwaith adeiladu sy’n cynnwys:
- Gwaith ar wal bresennol rhwng dau eiddo
- Adeiladu ar y ffin ag eiddo cymydog
- Cloddio ger adeilad cymydog
- Symud neu newid ffens, naill ai dros dro neu’n barhaol
Rhaid i chi holi a yw’r gwaith wedi’i gynnwys yng nghwmpas y Ddeddf Waliau Cydrannol 1996; os felly, mae’n rhaid i chi ddweud wrth berchennog yr eiddo cyffiniol beth rydych yn bwriadu ei wneud.