Alert Section

Cymeradwyaeth ôl-weithredol


Weithiau bydd gwaith adeiladu’n cael ei wneud heb ganiatâd. Mae modd cael caniatâd ôl-weithredol os gwnaed y gwaith ar ôl 11 Tachwedd 1985, drwy wneud cais am dystysgrif Rheoleiddio.

Ffurflen Gais a Nodiadau Cyfarwyddyd Tystysgrif Reoleiddio (PDF 800KB ffenestr newydd)

Beth ddylwn ei gynnwys?

  • Ffurflenni cais
  • Cynllun o’r eiddo fel yr oedd cyn y gwaith adeiladu
  • Cynllun y gwaith arfaethedig
  • Cynllun yn dangos unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen, i sicrhau bod y gwaith arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu a oedd mewn grym pan gafodd y gwaith ei wneud
  • Ffi rheoleiddio

Beth yw’r gost?

Byddwch yn talu cost reoleiddio i gwmpasu cost asesu’ch cais a phob archwiliad. Mae’r ffi yn 150% o gyfanswm cost y cynllun a’r archwiliad a ddangosir yn y ddogfen isod (nid yw TAW yn daladwy).

Rhestr o Ffïoedd Rheoliadau Adeiladu a Nodiadau Cyfarwyddyd (PDF 498KB ffenestr newydd) 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl derbyn y cais, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r adran Rheoli Adeiladu gymryd camau i sicrhau bod y gwaith adeiladu’n cydymffurfio â gofynion perthnasol y rheoliadau adeiladu. Gall y rhain gynnwys: 

  • sicrhau bod y safle ar agor i’w archwilio gan yr awdurdod,
  • cynnal profion,
  • cymryd samplau,
  • rhoi gwybodaeth ychwanegol.

Cewch dystysgrif rheoleiddio os ydym yn fodlon:

  • bod y gofynion perthnasol wedi’u bodloni neu
  • nad oes angen ymgymryd â rhagor o waith i sicrhau bod y gwaith yn bodloni’r gofynion.

Mae Tystysgrif Rheoleiddio’n dystiolaeth, ond nid yn dystiolaeth derfynol, fod y gwaith adeiladu’n cydymffurfio â’r gofynion perthnasol a nodir ar y dystysgrif.