Alert Section

Cefndir


Climate Emergency

Sut y datblygwyd y strategaeth hon 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac ym mis Rhagfyr 2019 cymeradwyodd ei Aelodau Etholedig gynnig i ddatblygu strategaeth glir ar Newid Hinsawdd a fydd yn gosod nodau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer creu sefydliad Carbon Sero Net.

Yn ystod 2020 a 2021, cynhaliodd y Cyngor nifer o weithdai ymgysylltu gydag Aelodau a Swyddogion, gan nodi’r hyn a gyflawnwyd o ran lleihau carbon, a chynigion ar gyfer syniadau yn y dyfodol i gyrraedd y nodau carbon sero net.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws Sector Cyhoeddus Cymru’ mae’r cynllun wedi ei rannu’n bedair thema sef Adeiladau, Symudedd a Thrafnidiaeth, Caffael a Defnydd Tir*. Cytunwyd i ymgorffori pumed thema sef Ymddygiad a fydd yn integreiddio o fewn y themâu eraill drwy gyfathrebu, ymgysylltu, cyfarwyddo a hyfforddi.

Cynhaliodd y Cyngor gyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd drwy fis Hydref a mis Tachwedd 2021 a oedd yn disgrifio’r gwaith a wnaed hyd yma ym mhob un o’r themâu ac a oedd yn gofyn am adborth ar y camau arfaethedig nesaf i sicrhau carbon sero net erbyn 2030. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd gweithgaredd ymgysylltu gydag ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd. Gofynnodd y gweithgaredd hwn i’n pobl ifanc ysgrifennu llythyr at eu hunain yn y dyfodol am y byd mewn 50 mlynedd a’r hyn y maent yn gobeithio fydd wedi ei gyflawni yn y cyfnod hwnnw. Mae detholiad o ddyfyniadau o’r llythyrau hyn wedi eu cynnwys drwy’r strategaeth hon.

Datblygwyd yr adborth o’r cyfnod ymgysylltu hwn ymhellach mewn gweithdai mewnol gyda phob un o’r meysydd portffolio ar draws gwasanaethau’r Cyngor. Cefnogwyd hyn gan Fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd a’r Grŵp Swyddogion lle’r oedd cynllunio senarios yn archwilio newidiadau mewn polisi a phroses i gyflawni ein nodau.

Mae’r cwmpas a nodir yn y strategaeth hon yn canolbwyntio ar y newidiadau a’r effeithiau y gall y Cyngor eu gwneud yn uniongyrchol er mwyn lleihau ei allyriadau ei hun ynghyd â rhai’r sir ehangach. Mae’r strategaeth yn cael ei rhannu gydag amcanion a chamau gweithredu i leihau ein hallyriadau carbon uniongyrchol, ac yna camau i leihau ein hallyriadau ehangach ynghyd â rhai’r sir ehangach. 

Mae’n amlwg mai dim ond drwy gefnogi ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach a llywodraethau Cymru a’r DU y gellir gwneud cynnydd pellach mewn gostyngiadau.

Mabwysiadwyd y strategaeth ym mis Chwefror 2022.

Strategaethau eraill y Cyngor sy’n cysylltu ag Uchelgeisiau Newid Hinsawdd

  • Nod y Cyngor yw darparu dull a arweinir gan bolisi sy’n ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 
  • Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn amlinellu blaenoriaethau allweddol ar draws ei wasanaethau.
  • Cynllun Gweithredu 10 mlynedd Ynni Adnewyddadwy 
  • Cynllun Rheoli Ansawdd Aer
  • Cynllun Cyflawni ar Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016)
  • Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol
  • Cynllun Datblygu Lleol
  • Strategaeth Gaffael
  • Strategaeth Fflyd
  • Strategaeth Trafnidiaeth Integredig
  • Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Gogledd Cymru
  • Strategaeth Rheoli Gwastraff
  • Strategaeth a Chynllun Gweithredu Tai
  • Strategaeth Ddigidol
  • Cynllun Rheoli AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • Cynllun Teithio Llesol
  • Rhaglen Buddsoddi mewn Ysgolion yr 21ain Ganrif

* Llywodraeth Cymru (2021), Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd sector cyhoeddus Cymru. https://llyw.cymru/statws-carbon-sero-net-erbyn-2030-trywydd-sector-cyhoeddus-cymru

Mesur a Monitro Effaith 

Bydd yn hanfodol bod y Cyngor yn monitro ac yn gwerthuso ei gynnydd i gyflawni’r targedau a nodir yn y strategaeth hon. Felly, mae’r Cyngor yn ymrwymo i:

  • Fesur ac adrodd ar allyriadau carbon o ystâd a gweithgareddau’r Cyngor i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn fel rhan o’i ‘Canllaw i’r sector cyhoeddus yn ymwneud ag adrodd ar garbon sero net’.
  • Gyhoeddi perfformiad a chynnydd yn erbyn targedau yn flynyddol.
  • Barhau i gryfhau cywirdeb casglu data drwy nodi bylchau yn y broses ac arfer gorau sy’n dod i’r amlwg.
  • Barhau i ddatblygu camau gweithredu a chynlluniau cyflawni newid hinsawdd drwy barhau i ymgysylltu’n fewnol ac yn allanol.
  • Adolygu’r strategaeth newid hinsawdd gyfan yn 2024/25 i asesu cynnydd a meysydd i’w gwella, a chysoni targedau o fewn y meysydd blaenoriaeth allweddol

Llywodraethu 

Bydd y strategaeth newid hinsawdd yn cael ei chyflwyno fel rhaglen o weithgareddau sy’n cael eu cydgysylltu a’u rheoli’n ganolog ond sy’n cynnwys holl feysydd gwasanaeth y Cyngor a phartneriaid allanol.

Bydd cynnydd y rhaglen yn cael ei fonitro gan Y Bwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol. Cefnogir y Bwrdd hwn gan  Grwpiau Swyddogion ar gyfer pob thema gyda chynrychiolaeth o bob un o’r portffolios rhanddeiliaid. Bydd Adroddiadau Cynnydd yn cael eu derbyn gan Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd a’r Economi i ddatblygu’r cynllun ymhellach. Mae gwaith craffu ar y rhaglen hefyd ar gael o’r Archwiliad Mewnol fel y bo’n briodol. 

Bydd mesurau perfformiad allweddol yn cael eu cynnwys yn adroddiad perfformiad Cynllun y Cyngor.

Mae risgiau mewn perthynas â darparu’r rhaglen wedi’u cynnwys yn y gofrestr risg gorfforaethol. 

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i eraill 

Byddwn yn diweddaru’r wefan hon gyda’r cynnydd yn erbyn ein targedau a dolenni i adroddiadau Pwyllgor ac eitemau Newyddion. Os hoffech gyfrifo eich ôl-troed carbon eich hun a deall ffyrdd y gallwch chi leihau eich allyriadau carbon, ewch i Gostwng eich allyriadau carbon (siryfflint.gov.uk)