Alert Section

Adeiladau


Solar Panels

Mae adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor yn cynhyrchu swm o allyriadau carbon oherwydd y defnydd o ynni sy'n llosgi tanwyddau ffosil. Ers 2009, cwblhawyd nifer o raglenni i leihau'r allyriadau hyn o'n swyddfeydd, ysgolion, canolfannau hamdden a chyfleusterau gofal. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau Carbon Sero Net, mae angen i ni leihau'r allyriadau ymhellach fyth. 

Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:

  • Wedi gosod systemau carbon isel ac ynni adnewyddadwy mewn dros 50 o'n hadeiladau ein hunain gan gynnwys swyddfeydd, ysgolion a chanolfannau hamdden. Ymhlith y technolegau mae solar ffotofoltäig, solar thermol, tyrbinau gwynt, pympiau gwres, boeleri biomas a gwres a phŵer cyfunedig.
  • Roedd systemau cynhyrchu ynni domestig yn bodloni tua 10% o alw ynni'r Cyngor yn 2018-19.
  • Wedi gosod systemau carbon isel ac ynni adnewyddadwy yn ei gartref ei hun ers 2009 gan gynnwys solar ffotofoltäig, pympiau gwres daear ac awyr a storfa batri. Erbyn hyn mae dros 700 o gartrefi â solar ffotofoltäig ac roedd y Cyngor yn un o'r awdurdodau cyntaf i dreialu'r cyfuniad o bympiau gwres yr awyr, solar ffotofoltäig a storfa batri.
  • Buddsoddwyd mewn technolegau arloesol fel casglwyr solar wedi'u trosi a storfa batri.
  • Cyflwyno rhaglen flynyddol o fesurau effeithlonrwydd ynni, megis inswleiddiad ffabrig adeiladau, atal drafft, boeleri newydd, rheolyddion gwresogi newydd, uwchraddio goleuadau ac ati yn adeiladau annomestig y Cyngor ers 2008.
  • Buddsoddi a darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn ein tai ein hunain drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a chynlluniau Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU fel NEST, Arbed, Cronfa Cartrefi Cynnes ac Eco (gan gynnwys gwella cartrefi preifat).
  • Rhesymoli ein hystâd a symud staff i adeilad modern, mwy effeithlon o ran ynni yn Ewlo.
  • Adeiladu ac adnewyddu ysgolion addas ar gyfer y dyfodol drwy'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
  • Newid goleuadau stryd y Cyngor gyda lampau LED sy'n defnyddio cryn dipyn yn llai o drydan.
  • Mae canran mawr o adeiladau bellach wedi’u cynnwys yn y tariff ynni gwyrdd. 
  • Mae Cynllun Rheoli Asedau'r Cyngor wedi cael ei adolygu yn unol â’r strategaeth newid hinsawdd a dyheadau ehangach y Cyngor.  Mae’r gwaith o ad-drefnu asedau yn parhau a bydd yn ystyried effeithiau carbon.
  • Mae’n ofyniad gorfodol i ysgolion newydd, ysgolion gydag estyniad ac ysgolion wedi’u hadnewyddu i weithredu yn Garbon Sero Net (NZCio). Mae’r ysgol NZCio gyntaf ym Mynydd Isa yn mynd rhagddo. Mae cynlluniau uchelgeisiol hefyd yn mynd rhagddynt ar gyfer y cartref gofal NZCio cyntaf.
  • Mae proses barhaus i ganfod dichonoldeb prosiectau isadeiledd gwyrdd posibl ar sail achos wrth achos. Mae cysylltiadau wedi cael eu gwneud i sicrhau bod swyddogion yn cael eu hymgynghori ar y posibilrwydd o gynhwysiant mewn cynlluniau yn y dyfodol.
  • Mae pecynnau gwaith yn cael eu datblygu ar gyfer ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn darparu cyngor a chanllawiau ar gyfrifiad ôl-troed carbon a mesurau lliniaru. Bydd hyn yn cynnwys agweddau o dechnoleg, ymddygiad ac arfer orau.
  • Mae’r Tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig yn parhau i ddarparu cyngor ar effeithlonrwydd ynni a chefnogaeth i osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Datblygu rhwydwaith datgarboneiddio ar gyfer ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy er mwyn datblygu nodau ac amcanion a rhannu arferion da. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu grantiau ar gyfer astudiaethau dichonolrwydd lleihau carbon masnachol.

Camau gweithredu yn y dyfodol

Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd dychwelyd gwasanaethau a buddsoddi mewn rhai meysydd, e.e. seilwaith gwefru cerbydau trydan, yn cynyddu ein galw am ynni ac felly mae angen buddsoddiad pellach o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ein hadeiladau a’n hasedau a’n defnydd tir.

Byddwn yn:

  • Gwella safon effeithlonrwydd ynni yn ein hadeiladau presennol ac ymgysylltu â defnyddwyr adeiladau i annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad.
  • Parhau i gynnal ymchwiliad i a lliniaru llifogydd i nodi mesurau lliniaru rhagweithiol ac atal llifogydd rheolaidd.
  • Blaenoriaethu atebion sy’n seiliedig ar natur i gynigion i adfer llifogydd.
  • Archwilio dichonoldeb cynaeafu dŵr glaw o fewn asedau’r Cyngor, yn enwedig ar safleoedd lle mae’r defnydd o ddŵr yn uchel.