Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 1


Croeso i E-Newyddlen Newid Hinsawdd.

Croeso i e-newyddion Newid Hinsawdd! Yma cewch y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau yr ydym yn gweithio arnynt er mwyn cyrraedd ein targed o fod yn ddi-garbon net erbyn 2030. Mae gennym dudalen Newid Hinsawdd ar wefan y Cyngor, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr allyriadau carbon y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt a sut ydym yn bwriadu lleihau’r allyriadau hynny. Gellwch hefyd ddysgu sut i gyfrifo eich allyriadau carbon eich hunan, a gweld pa gamau y gellwch eu cymryd i’w lleihau.

Cefnogaeth Wleidyddol ar gyfer Newid Hinsawdd.

Wrth ffurfio’r Cabinet yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, crëwyd swydd Aelod Cabinet newydd, sef ‘Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi’, a phenodwyd y Cynghorydd David Healey. Yr ydym hefyd wedi ffurfio Pwyllgor Newid Hinsawdd trawsbleidiol, sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson. Mae’r newidiadau hyn gan y Cabinet yn dangos yr ymrwymiad a’r pwysigrwydd a roddir i uchelgais Di-Garbon Net y Cyngor ac effeithiau ehangach newid hinsawdd ar Sir y Fflint. 

Cynllun ynni dŵr Parc Gwepra.

Beth yw ynni dŵr?

Mae ynni dŵr, neu hydrodrydan, yn defnyddio llif naturiol dŵr i gynhyrchu trydan. Mae’n gwneud hyn wrth i ddŵr fynd o safle uchel i safle is i ennill grym. Yna defnyddir tyrbinau / generaduron i drosi’r symudiad i ynni, y gellir ei ddefnyddio i bweru adeiladau.

Pam Parc Gwepra?

Mae’r cynllun ynni dŵr yn cael ei dreialu er mwyn ceisio gwneud defnydd o wal argae Nant Gwepra. Fe’i defnyddiwyd o’r blaen ar gyfer ynni hydrodrydanol – yn nechrau’r 1900au – i gyflenwi pŵer i adeilad Plas Gwepra gerllaw, gan na chyrhaeddodd trydan i ardal Cei Connah tan 1925.

Mae’r cynllun ynni dŵr hwn sy’n cael ei dreialu mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Llundain i weld faint o bŵer y gellir ei gynhyrchu ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr.

Mae ecolegydd wedi asesu’r safle ac wedi cadarnhau na fydd y strwythur dros dro’n cael unrhyw effaith ar fywyd gwyllt lleol. Mae hyn yn bwysig i’r Cyngor, gan fod Parc Gwepra yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth.

Wepre Brook

Beth yw’r cynllun ar gyfer y dyfodol?

Bwriad y cynllun yw lleihau galw’r Ganolfan Ymwelwyr am drydan o’r grid o tua 36%. Os bydd y cynllun ynni dŵr yn gallu cynhyrchu swm ymarferol o drydan, y gobaith yw gosod strwythur mwy parhaol a’i gysylltu i Ganolfan Ymwelwyr Gwepra er mwyn lleihau ei defnydd o drydan o’r grid. Bydd hyn yn gostwng costau, gan alluogi i arian gael ei ddefnyddio at ddibenion gwahanol ym Mharc Gwepra, a bydd yn cynorthwyo’r Cyngor i leihau ei allyriadau carbon wrth anelu at yr uchelgais o fod yn ddi-garbon net erbyn 2030. Mae hwn yn brosiect cyffrous, lle mae Sir y Fflint yn arloesi yn y dechnoleg a ddefnyddir, a bydd unrhyw ddyluniadau parhaol yn ymgorffori ac yn adlewyrchu’r amgylchedd o’u cwmpas.

A wyddech chi?

A wyddech chi fod golchi a sychu llwyth o ddillad bob dau ddiwrnod yn creu tua 440kg o CO2 bob blwyddyn? Mae hyn yn gyfwerth â hedfan o Lundain i Glasgow ac yn ôl.

Yn ddiweddar rydym wedi lansio Canolbwynt Costau Byw, yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael o ran cyflogaeth, ysgolion, cludiant a gostwng biliau ynni. Os ydych chi’n gwybod am aelod o’r teulu, ffrind neu berthynas nad yw ar-lein, byddai’n wych pe gallech chi rannu’r wybodaeth hon gyda nhw ac, os nad ydych chi’n gallu eu cynorthwyo nhw eich hunain, rhowch wybod iddynt y gallant ddod i unrhyw un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a bydd ein staff cyfeillgar yn gallu eu helpu i gael rhagor o wybodaeth.

Wythnos Hinsawdd Cymru.

Eleni, cynhelir Wythnos Hinsawdd Cymru o 21 i 25 Tachwedd – beth am ddathlu gyda ni?

Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o wybodaeth a thrafodaethau ar y we ynglŷn â phenderfyniadau hinsawdd, a’r cyfraniad pwysig y gall preswylwyr Cymru ei wneud wrth helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gellwch gofrestru i ymuno â’r sgyrsiau yma.

Rydym yn ymuno â’r Tîm Arbed Ynni Domestig i gynnig sesiynau galw heibio lle cewch wybod mwy am arbed costau ynni a chyfrifo eich ôl troed carbon.

Fel rhan o’r fenter ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, mae gennym ganolbwyntiau ym Mharc Gwepra a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas lle gellwch gasglu eich coeden am ddim.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: climatechange@siryfflint.gov.uk