Mae nifer o gamau y gall y Cyngor eu cymryd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sir ehangach. Drwy ei rôl arweiniol, gall y Cyngor lywio a dylanwadu yn ogystal ag ysbrydoli gweithredu a chyfrifoldeb unigol a chyfunol. Mae llawer o gamau gweithredu megis cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan yn gofyn am ddull gweithredu cydgysylltiedig, cyffredin na ellir ond ei gyflwyno drwy gydweithio ar draws ffiniau.
Fodd bynnag, bydd cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol gan fod llawer o ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr y tu allan i reolaeth y Cyngor ac felly bydd angen mewnbwn traws-sector arnynt.
Dyma’r camau gweithredu o fewn y themâu allweddol nad ydynt yn cyfrannu at ein hôl troed carbon uniongyrchol ond y gallwn eu cyflawni er mwyn ymgysylltu, dylanwadu a grymuso eraill.